Amdanom Ni
Mae dros 90 o sefydliadau sy’n ymwneud â dysgu yn y gweithle yn aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sef corff sy’n cynrychioli’r holl sefydliadau ac unigolion sy’n ymwneud â’r diwydiant hyfforddi. Mae’r aelodau’n cynnwys darparwyr hyfforddiant bach arbenigol a sefydliadau mawr cenedlaethol neu ryngwladol, yn ogystal ag Awdurdodau Lleol, Sefydliadau Addysg Uwch ac Elusennau.
Mae’r aelodau’n gweithio ledled Cymru yng nghefn gwlad ac mewn trefi ac mewn sefydliadau dwyieithog a chyfrwng Cymraeg. Mae gan yr aelodau gysylltiadau â dros 35,000 o gyflogwyr yng Nghymru, o fentrau bychain a busnesau canolig eu maint i gwmnïau rhyngwladol mawr a sefydliadau sector cyhoeddus.
Mae’r NTfW yn cynrychioli buddiannau Darparwyr Hyfforddiant a Dysgwyr gan roi gwybodaeth iddynt am bob agwedd ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae ganddo gysylltiadau cryf a pherthynas weithiol dda gyda holl randdeiliaid allweddol y sector, yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r Ffederasiwn yn cydweithio’n agos â Llywodraeth y Cynulliad ar lefel y Gweinidogion; yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau; Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith, y CBI, Aelodau Seneddol, Aelodau’r Cynulliad, Cynghorau Sgiliau Sector a’r Awdurdodau Lleol.
Mae’r aelodau’n rhannu arferion da ac adnoddau, adeiladau ac ati.
Yr Arglwydd Rowlands CBE yw Llywydd presennol NTfW. Bu’n Ysgrifennydd Seneddol Cymru ac yn Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ac yn Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful a Rhymni. Arweinir y Ffederasiwn gan Fwrdd Cenedlaethol etholedig a ddewiswyd o blith y sefydliadau sy’n aelodau ac y maent hwy, yn eu tro, yn cael eu cefnogi gan fframwaith o Fyrddau Rhanbarthol sy’n gwasanaethu Canol De Cymru, De Ddwyrain Cymru, Canolbarth/Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, gan adlewyrchu ardaloedd gweithredu APADGOS. Mr Arwyn Watkins yw Cadeirydd Cenedlaethol presennol NTfW.
Ar hyn o bryd, mae gan NTfW un ar ddeg o gyfarwyddwyr a saith aelod o staff.


