Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Nos Fercher 24 Hydref 2012 yn Venue Cymru, Llandudno.

Trefnir y Gwobrau gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ar y cyd. Eleni, byddwn yn cyhoeddi enwau enillwyr y Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol yn yr achlysur hefyd.

Gwobrau Prentisiaethau Cymru yw gwobrau pwysicaf Cymru ar gyfer unigolion, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant sy’n ymwneud â chyflenwi Prentisiaethau yng Nghymru. Eu nod yw dathlu llwyddiant a disgwylir y bydd dros 250 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn y noson wobrwyo.

Y farn gyffredinol yw bod Prentisiaethau’n cyfuno profiad gwaith a hyfforddiant o safon uchel. Mae’r rheiny’n elfennau allweddol sy’n angenrheidiol ar gyfer dal ati mewn gwaith a bod yn gynhyrchiol iawn – dau beth pwysig er mwyn sicrhau bod busnesau Cymru’n gallu cystadlu yn economi cyfnewidiol y byd.

Ar y noson, cawn glywed am lwyddiant ardderchog dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr sydd wrthi’n gweithio ar Brentisiaethau ledled Cymru.