Dosbarthiadau’r Gwobrau a Ffurflenni Cais

English | Cymraeg

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017 yn gwobrwyo unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Cyflogadwyedd a Brentisiaethau ledled Cymru.

Ariannir cystadleuaeth Gwobrau Prentisiaethau Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a’i threfnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Bydd y Gwobrau hyn yn dathlu ac yn arddangos llwyddiant y rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant. Byddant hefyd wedi dangos brwdfrydedd a menter, dyfeisgarwch a chreadigrwydd, dealltwriaeth o bwysigrwydd gwella sgiliau er budd economi Cymru ac ymrwymiad i wneud hynny.

Mae’r Gwobrau’n gyfle i unigolion a sefydliadau gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u llwyddiant yn rhaglenni Cyflogadwyedd a Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Bydd y rhai sy’n cyrraedd rownd derfynol dosbarthiadau’r dysgwyr yn cael tri thocyn VIP yr un i’r Seremoni Wobrwyo fawreddog a gynhelir yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar nos Wener 20 Hydref 2017. Yn ogystal, bydd y rhai yn rownd derfynol y dysgwyr yn cael aros mewn gwesty (un ystafell ddwbl a brecwast) ar noson y gwobrau. Bydd y rhai sy’n cyrraedd rownd derfynol dosbarthiadau’r Cyflogwyr a’r Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn cael dau docyn VIP yr un, a bydd yr enillwyr i gyd yn cael tlws wedi’i gynllunio’n arbennig yn y Noson Wobrwyo.

Y Gwobrau

Bydd Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n cydnabod llwyddiant unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith mewn 11 dosbarth gwahanol.

Dysgwr – Cyflogadwyedd

  • Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu)
  • Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1)

Dysgwr – Prentisiaethau

  • Prentis Sylfaen y Flwyddyn
  • Prentis y Flwyddyn
  • Prentis Uwch y Flwyddyn

Cyflogwr – Prentisiaethau

  • Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1-49)
  • Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50-249)
  • Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250-4999)
  • Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5000+)

Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith

  • Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith

Yn ogystal â’r gwobrau yn y dosbarthiadau uchod, mae’r Beirniaid yn cadw’r hawl i roi Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Beirniaid gyda’r nod o gydnabod rhagoriaeth mewn unrhyw agwedd ar gyflenwi rhaglenni Cyflogadwyedd a Brentisiaethau nad yw’n dod yn uniongyrchol o dan Feini Prawf y Gwobrau.

Sylwch:

Fel rhan o’r broses feirniadu, bydd yn ofynnol i bawb sy’n cyrraedd rownd derfynol dosbarthiadau’r Cyflogwyr a’r Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith gymryd rhan mewn ymweliad dilysu rhwng 31 Gorffennaf a 25 Awst 2017, fel y gall aelodau o’r Panel Beirniaid Allanol gadarnhau’r dystiolaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.

Ni chodir tâl am gymryd rhan yn y Gwobrau. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12 o’r gloch ganol dydd, Amser Haf Prydain (BST), ddydd Gwener 23 Mehefin 2017.

Nid oes llawer o reolau ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017. Dim ond y rhain:

  • Rhaid cyflwyno pob ffurflen gais erbyn 12 o’r gloch, hanner dydd, Amser Haf Prydain (BST) ar 23 Mehefin 2017. Sylwch: Caiff y ffurflenni cais eu tynnu oddi ar lein yn awtomatig ar yr amser uchod a bydd unrhyw ddolenni a anfonwyd atoch cyn hynny yn stopio gweithio.
  • Dim ond un ffurflen gais y cewch ei hanfon ar gyfer pob ymgeisydd; ni fydd unrhyw geisiadau dilynol a anfonir ar gyfer yr ymgeisydd hwnnw yn cael eu derbyn.
  • Bydd angen i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol sicrhau eu bod ar gael at ddibenion cyhoeddusrwydd (ffotograffau, ffilmio a datblygu astudiaethau achos) rhwng 11 a 22 Medi 2017.
  • Bydd angen i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol sicrhau eu bod yn gallu dod i’r Seremoni Wobrwyo ar noson 20 Hydref 2017 yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd. Os bydd amgylchiadau annisgwyl yn codi, gellir anfon cynrychiolydd yn lle’r cystadleuydd.
  • Mae penderfyniad y Beirniaid yn derfynol ac ni fyddant yn cymryd rhan mewn gohebiaeth na thrafodaethau.

Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod trwy ebost a ffôn erbyn 28 Gorffennaf 2017 fan bellaf.

Cwestiynau a gyfer y gwahanol ddosbarthiadau
Cliciwch yma i lawrlwytho’r cwestiynau ar gyfer y gwahanol ddosbarthiadau ond cofiwch ei bod yn rhaid cyflwyno’r ffurflenni cais gan ddefnyddio’r broses ar-lein.

Manylion cysylltu i gael gwybod rhagor:
Ebost: gwobrau@ntfw.org
Ffôn: 029 2049 5861