Cynhadledd NTfW

Dydd Mercher 24ain Hydref a dydd Iau 25ain Hydref 2012 yn Venue Cymru, Llandudno

Bydd y gynhadledd yn gyfle i wrando ar siaradwyr sy’n ffigurau amlwg yn y maes a thrafod materion amserol. Bydd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio ag unigolion a chwmnïau ym mhob rhan o’r sector hyfforddi yng Nghymru.

Cynhelir y gynhadledd eleni dros ddau ddiwrnod. Ar ôl cinio, ar y prynhawn dydd Mercher, bydd cyfle i fynd i nifer o weithdai ac, ar y bore dydd Iau, bydd siaradwyr amlwg yn anerch y cynadleddwyr cyn y sesiwn lawn.

Bydd rhagor o wybodaeth am y rhaglen, y gweithdai a’r siaradwyr ar gael tua dechrau Awst.