Pwy sy’n darparu beth ac ymhle
Beth yw Prentisiaethau, Hyfforddeiaethau a Chamau i Gyflogaeth?
Rhaglenni dysgu seiliedig ar waith yw’r rhain ac maent yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, ar gyfer y gweithle ac yn y gweithle, gan eu helpu i lwyddo a chyflawni eu potensial. Mae dysgu seiliedig ar waith yn eich helpu i ddatblygu fel person ac i ennill cymwysterau ar gyfer cael gwaith neu symud ymlaen yn eich gyrfa, neu fynd i goleg neu addysg uwch.
Cânt eu darparu gan ddarparwyr hyfforddiant gyda sicrwydd ansawdd sydd wedi ennill contractau cymeradwy gyda Llywodraeth Cymru. Lle bo modd, bydd y dysgu’n digwydd yn y gweithle ond efallai y bydd elfen o hyfforddiant mewn canolfan hyfforddi hefyd ar gyfer rhai rhaglenni a llwybrau galwedigaethol.
Ar gyfer pwy y maent?
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau’n rhaglenni dysgu sy’n eich galluogi i ddysgu wrth weithio. Mae’n rhaid eich bod mewn gwaith i gael prentisiaeth ond bydd darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn cydweithio â chyflogwyr i ganfod a hysbysebu llefydd ar gyfer prentisiaid. Cewch fanylion y rhain yn eich swyddfa yrfaoedd leol neu’r ganolfan waith. Os nad oes swyddi’n cael eu hysbysebu yn y meysydd y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt, gofynnwch i’r adran yrfaoedd eich rhoi mewn cysylltiad â darparwr dysgu seiliedig ar waith a fydd, efallai, yn gallu cysylltu â chyflogwyr i ganfod prentisiaeth i chi. Neu gallwch gysylltu’n uniongyrchol â darparwr dysgu seiliedig ar waith. Ar hyn o bryd, mae Gyrfa Cymru’n treialu Gwasanaeth Paru Prentisiaethau ledled Cymru. Bydd cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn rhestru prentisiaethau sydd ar gael yno. Mae’r gwasanaeth i’w weld yn www.gyrfacymru.com
Hyfforddeiaethau
Caiff y rhaglen Hyfforddeiaethau ei hanelu at bobl ifanc 16-17 oed sydd ddim yn gweithio (gall pobl ifanc gymwys 18 oed gymryd rhan hefyd). Cynlluniwyd y rhaglen i gydredeg â’r Llwybrau Dysgu 14-19 gyda’r nod o sicrhau bod pobl ifanc o bob gallu yn gallu dewis y dull o ddysgu sy’n fwyaf addas ar eu cyfer. Er mwyn cychwyn ar raglen Hyfforddeiaeth, cysylltwch â’ch Swyddfa Yrfaoedd leol a all eich cyfeirio at y rhaglen ac at ddarparwr hyfforddiant yn eich ardal.
Camau i Gyflogaeth
Mae hon yn rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl dros 18 oed sy’n cael budd-dal fel Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) neu Gymhorthdal Incwm. Nod y rhaglen Camau i Gyflogaeth yw meithrin hyder, sgiliau a chymwysterau a gwella’r rhagolygon am waith. Y Ganolfan Waith leol sy’n cyfeirio pobl at y rhaglen hon.
Mae manylion cysylltu darparwyr dysgu seiliedig ar waith i’w gweld yn y daenlen uchod – “Who delivers what and where”
Mae’n bosib cychwyn ar brentisiaeth os ydych eisoes wedi dod o hyd i waith. Gallwch gysylltu â darparwr hyfforddiant seiliedig ar waith yn ardal eich awdurdod lleol a threfnu i chi a’ch cyflogwr gyfarfod â nhw i drafod sut y gallwch gael hyfforddiant prentisiaeth.
Yn ogystal â’r rhaglenni uchod a ariannir gan Lywodraeth Cymru, mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn cynnig nifer o gyrsiau hyfforddi byr a rhai hirach ar gyfer cyflogwyr ac unigolion. Caiff y rhain eu hariannu’n bennaf gan y cyflogwr neu’r unigolyn a bydd y darparwyr yn cydweithio’n agos â’r cyflogwyr i ddatblygu cyrsiau a rhaglenni hyfforddi pwrpasol os bydd angen.
Cyfeiriadur Taenlen – ‘Who delivers what and where’ (saesneg yn unig)
Mae’r daenlen uchod yn rhestru darparwyr hyfforddiant sy’n cynnig dysgu seiliedig ar waith, yn cynnwys hyfforddeiaethau a phrentisiaethau yn eich ardal chi. Mae wedi’i threfnu yn ôl ardaloedd Awdurdodau Lleol, gan nodi’r darparwyr hyfforddiant, eu manylion cysylltu a’r meysydd gwaith y maent yn arbenigo ynddynt. Ceir dolenni hefyd i adroddiadau arolygon Estyn, lle cewch wybodaeth am safonau ansawdd.
Neu gallwch gysylltu â’ch swyddfa yrfaoedd leol i gael rhagor o wybodaeth.
Caiff y ‘Cyfeiriadur’ ei ddiweddaru’n rheolaidd. Rhowch nod tudalen ar y dudalen hon i sicrhau eich bod yn gweld y fersiwn ddiweddaraf.
Yna gallwch gysylltu’n uniongyrchol â’r darparwr i gael gwybodaeth am y rhaglenni a’r gefnogaeth y maent yn eu cynnig.
Dolenni Defnyddiol
Llywodraeth Cymru – Prentisiaethau yng Nghymru
Gyrfa Cymru – Gwasanaeth Paru Prentisiaethau
Prentisiaethau
Darparwyr dysgu seiliedig ar waith
Gofalwch eich bod wedi’ch cynnwys ar y daenlen hon. Os oes gennych newidiadau neu ychwanegiadau at y ‘Cyfeiriadur’, gallwch e-bostio karen.smith@ntfw.orgEr mwyn trafod cyfleoedd i gydweithio gyda darparwyr mewn gwahanol ardaloedd, cysylltwch â Thîm Eiriolwyr SPFP NTfW.


