Swydd Wag
Teitl y Swydd: Hyrwyddwr Dwyieithrwydd
Yn adrodd wrth: Bwrdd Cyfarwyddwyr NTfW
Cyflog: £30,000 y flwyddyn
Mae hwn yn gontract cyfnod sefydlog yn y lle cyntaf, o
1 Mawrth 2012 i 31 Gorffennaf 2014 (29 mis)
Lleoliad: Bydd y swyddfa yng Nghaerdydd (y Brif Swyddfa) ond gellir ystyried trefniadau gweithio hyblyg. Fodd bynnag, oherwydd natur y swydd, bydd angen teithio ledled Cymru i wneud y gwaith
Dyddiad Dechrau: 1af Mawrth 2012
Pwrpas y Swydd:
Pwrpas yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yw cefnogi darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) wrth iddynt ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog lle nad oes llawer o bobl wedi manteisio ar y ddarpariaeth honno o’r blaen. Bydd hyn yn eu helpu i ymateb i strategaethau cenedlaethol ac yn cynnig llwybr dysgu hyfyw i ddysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfrifoldebau:
1. Paratoi cynllun i’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd ar gyfer cyfnod y contract yn nodi sut y bwriedir cyflawni amcanion cytunedig y contract, gydag amcanion CAMPUS yn y meysydd isod:
- cynyddu nifer y dysgwyr sy’n cymryd rhan mewn dysgu Cymraeg neu ddwyieithog mewn sectorau a dargedir yn y rhwydwaith DSW;
- annog pobl ifanc sy’n gadael ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog i barhau â’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg;
- rhannu arferion da o fewn y rhwydwaith DSW;
- sicrhau bod mwy o ddarpariaeth Gymraeg gynaliadwy’n cael ei datblygu; a
- codi proffil yr iaith a datblygu ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn rhwydwaith darparwyr NTfW.
2. Ymgynghori â swyddogion Llywodraeth Cymru i bennu a chytuno ar sectorau a/neu ddarparwyr i’w targedu er mwyn sicrhau bod yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yn cael yr effaith fwyaf posibl yn ystod cyfnod y contract.
3. Sefydlu proses i fonitro ac olrhain hynt modiwlau a chyrsiau newydd Cymraeg a dwyieithog a chreu rhestr gynhwysfawr o’r ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog sydd ar gael yn y sectorau a dargedir.
4. Helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau ar gyfer y sector DSW a nodir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.
5. Lle bo’n briodol, cofnodi gwybodaeth am elfennau sydd wedi dylanwadu ar nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn dysgu Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau a dargedir.
6. Cydweithio â Hyrwyddwyr Dwyieithrwydd mewn Colegau Addysg Bellach sy’n helpu’r sector addysg bellach i benderfynu ar strategaethau ac arferion gorau ar gyfer y sector DSW.
7. Cael o leiaf 10 cyfarfod y flwyddyn ar y cyd â darparwyr i annog dysgwyr i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Dylai’r rhain gynnwys cyfleoedd i ddod â rhai sydd yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ystyried gwneud hynny at ei gilydd ar gyfer rhyw fath o weithgaredd Cymraeg.
8. Cyfrannu at flaen-gynllunio darpariaeth effeithiol ar gyfer cymwysterau cyfrwng Cymraeg, ystyried pa mor gynaliadwy yw’r ddarpariaeth gyfredol a chydgysylltu trafodaethau amserol gyda’r cyrff dyfarnu ac Is-adran Cymwysterau a Dysgu AdAS ynghylch yr anghenion sy’n dod i’r amlwg.
9. Codi ymwybyddiaeth o fanteision dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog trwy’r rhwydwaith darparwyr i gyd, yn cynnwys tynnu sylw at arferion gorau, canlyniadau da a’r manteision posibl i ddysgwyr yn eu gyrfa.
10. Canfod hyfforddwyr, aseswyr a staff o’r rhwydwaith darparwyr DSW a’u hannog i ystyried cael hyfforddiant yn y Gymraeg. Hyrwyddo’r Cynllun Sabothol trwy’r rhwydwaith cyfan.
11. Canfod aelodau o staff y darparwyr a dargedir i fod yn fentoriaid Cymraeg i’r sefydliadau er mwyn helpu aelodau eraill o’r staff i feithrin hyder ac i gymryd mwy o ran mewn dysgu Cymraeg a dwyieithog.
12. Hyrwyddo’r defnydd o’r offeryn diagnostig, “Cymraeg yn y Gweithle”, gan dynnu sylw at ei fanteision er mwyn canfod anghenion hyfforddi gweithwyr y cyrff sy’n darparu DSW.
13. Paratoi cynllun adeiladol a chadarn i ddangos sut y bydd gwaith yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd a’r gwaith o ddatblygu’r agenda cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn parhau ar ôl diwedd y prosiect.
14. Ac unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill ar gais Bwrdd Cyfarwyddwyr NTfW.
Cymwyseddau Allweddol
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus a benodir fod yn:
i. gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg;
ii. hyfforddwr neu asesydd DSW profiadol, gyda phrofiad o hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg os oes modd;
iii. gyfarwydd â materion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg;
iv. frwd dros ddysgu a hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda sgiliau arwain, arloesi a chynllunio;
v. gallu cyfathrebu’n dda, meithrin hyder pobl eraill, ffurfio partneriaethau a gweithio fel aelod o dîm;
vi. un (d)da am roi cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth tiwtor;
vii. gallu trefnu a rhedeg gweithdai, rhoi cyngor ar wahanol faterion perthnasol, er enghraifft y defnydd a wneir o adnoddau, a hyrwyddo a marchnata manteision darpariaeth Gymraeg a dwyieithog;
viii. gallu ysgrifennu adroddiadau’n dda.
Mae angen datgeliad CRB manylach ar gyfer y swydd hon.
I wneud cais am y swydd, anfonwch lythyr eglurhaol a’ch CV at: Karen Smith, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Uned 7, Greenmeadow Springs, Caerdydd CF15 7AB neu ebost: karen.smith@ntfw.org
Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 17 Chwefror 2012


