Abby – merch ifanc sy’n dilyn ôl olwynion ei theulu wrth yrru bysiau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Abby Griffiths wedi llwyddo i gael swydd ei breuddwydion yn gyrru bysus a choetsys.

Mae Abby Griffiths yn dilyn yn ôl olwynion ei thad a’i brawd gan ddod yn un o ferched ieuengaf y wlad i ennill cymwysterau gyrru bysiau a choetsys a hithau’n dal yn eu harddegau.

Ychydig o ferched sy’n dilyn yr yrfa hon ond dyma fu uchelgais Abby, 19 oed, o Lanrwst, er pan oedd yn blentyn. Cafodd ei hysbrydoli gan ei thad, Anthony, sy’n yrrwr rhan-amser gyda Llew Jones Coaches.

Mae 70 o bobl yn gweithio i’r cwmni o Lanrwst sy’n cynnig gwasanaethau amrywiol fel bysiau ysgol, gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau National Express a theithiau tramor.

Mae Abby wedi ymuno â’i brawd, Jack, 22, yn y busnes ar ôl cael help gan Pauline Quinn, swyddog cyflogadwyedd Hyfforddiant Gogledd Cymru.

Ar ôl i’r Ganolfan Byd Gwaith ei chyfeirio i ddechrau at y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd a ariannir gan Lywodraeth Cymru, trefnodd Pauline leoliad gwaith i Abby gyda Llew Jones Coaches ym mis Chwefror. Cafwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd fel y gallai Abby gymryd ei phrawf am drwydded Cerbyd Gwasanaeth Cyhoeddus (PSV).

Erbyn hyn, mae’n gyrru bysiau a choetsys 14 metr o hyd, a all gostio hyd at £250,000, ar deithiau lleol fel rhan o dîm o 45 o yrwyr. Hi yw’r ieuengaf o saith o ferched sy’n gweithio i Llew Jones Coaches ac maent yn awyddus i gyflogi rhagor o yrwyr ifanc, merched a dynion, i lenwi swyddi gwag.

Roedd Abby wedi rhoi cynnig ar weithio yn gweini bwyd ac fel glanhawraig ond mae’n falch o gael parhau â’r traddodiad teuluol. Mae wrth ei bodd yn y gwaith a’i nod yw gyrru ar deithiau pell i Llew Jones Coaches yn y dyfodol.

“Mae gen i ddiddordeb mewn gyrru erioed – gan fy nhad ges i hynny,” meddai Abby. “Ro’n i’n arfer mynd hefo fo pan oedd o’n gyrru a’i helpu i lanhau’r bysus.

“Dydi o ddim yn teimlo fel gwaith i mi achos dwi’n mwynhau gyrru gymaint. Wrth adael i mi yrru’r bysus mwyaf, dwi’n teimlo bod y cwmni’n fy nhrystio. Fyddwn i’n hoffi gyrru coetsys ar deithiau i Ewrop, fel fy mrawd, pan fyddaf i’n 21.

“Dynion yw’r rhan fwyaf o yrwyr o bell ffordd ond dwi wedi sylwi ar lawer mwy o ferched yn gyrru bysus a choetsys ers i mi ddechrau gyrru. Fy nghyngor i unrhyw ferch ifanc sydd â diddordeb mewn gyrru bysus ydi ‘Dos amdani!’. Ro’n i’n poeni beth fyddai fy ffrindiau’n ei ddweud pan ddechreuais i’r gwaith ond mae’n nhw’n meddwl ei fod yn anhygoel.”

Mae’r cwmni wrth eu bodd o gael Abby’n rhan o’r criw. Dywedodd Jane Brown, cyfarwyddwr y busnes: “Mae Abby’n gwneud yn wych. Mae ganddi ddawn naturiol ac mae’n gallu addasu’n dda. Mae’n gyrru ein coetsys mwyaf a drutaf.

“Mae’n siŵr bod oedran ein gyrwyr PSV tua 57 ar gyfartaledd ac rydan ni’n ceisio denu pobl ifanc, dynion a merched, i ystyried gyrru fel gyrfa. Mae’r gwaith yn cynnig amrywiaeth, cyfle i ymwneud â phobl, cyfleoedd i deithio ledled Prydain ac Ewrop ac i symud ymlaen yn eich gyrfa.

“Y cyfan a ofynnwn yw bod y person ifanc wedi bod yn gyrru car ers o leiaf flwyddyn, ac yn hoff o yrru, ymwneud â phobl a bod yn rhan o dîm. Gyda thrwydded PSV, mae gennych swydd am oes, unrhyw le yn y byd.

“Yn y gorffennol, roedd gyrru’n cael ei gyfrif yn waith i ddynion am ei fod yn fwy corfforol pan nad oedd gan fysiau system pŵer-lywio. Mae hynny’n wahanol erbyn hyn a does dim ots ai dynion neu ferched yw’r gyrwyr.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Dydi gweithio ym maes trafnidiaeth ddim heb ei heriau, yn enwedig yn ystod pandemig, ond mae cael pobl wych fel Abby yn rhan o’r tîm yn gwneud pob her yn haws ei goresgyn. Dwi’n wirioneddol falch o holl weithwyr trafnidiaeth Cymru, yn y sectorau preifat a chyhoeddus – mae symud pobl a nwyddau yn ddiogel yn hanfodol i’n bywydau bob-dydd.

“Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i bobl ifanc greu dyfodol iddyn nhw eu hunain yma yng Nghymru. Rwy’n benderfynol na fydd neb yn cael ei ddal yn ôl na’i adael ar ôl, a dyna pam y bydd ein cynllun uchelgeisiol, Gwarant i Bobl Ifanc, yn rhoi’r gefnogaeth y mae ar bobl ifanc ei hangen ar gyfer dyfodol mwy disglair. Rydyn ni’n deall pa mor bwysig yw denu rhagor o ferched a phobl ifanc i fyd trafnidiaeth ac yn benderfynol o gydweithio â chyflogwyr i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd sy’n eithaf amlwg rhwng dynion a merched.”

Dywedodd Ruth Collinge, rheolwr contractau Hyfforddiant Gogledd Cymru, “Rydyn ni mor falch ein bod wedi helpu Abby i gyrraedd y garreg filltir gyntaf yn ei gyrfa, a hithau mor ifanc, gan herio’r stereoteip mai dynion sy’n gyrru bysiau. Rydyn ni yma i helpu pobl eraill fel Abby i wireddu eu huchelgais o ran swyddi a gyrfa.”

Llongyfarchwyd Abby gan Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

“Mae stori Abby’n dangos sut y mae wedi llwyddo, gyda chefnogaeth, i droi ei diddordeb yn swydd sydd wrth ei bodd,” meddai. “Mewn cyfnod pan fo mwy o alw am yrwyr cludiant a hamdden, mae Abby yn paratoi’r ffordd i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched ifanc i ystyried gyrfa fel gyrwyr.”

More News Articles

  —