Darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru yn dathlu 35 mlynedd o lwyddiant

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae ACT wedi bod yn ‘gwella bywydau trwy ddysgu’ ers 35 mlynedd y mis hwn.

Lansiwyd darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru ym mis Medi 1988 ar y Parade yng Nghaerdydd, gan ddarparu hyfforddiant i 200 o oedolion di-waith yn ei flwyddyn gyntaf. Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i helpu dros 75,000 o ddysgwyr i gyflawni eu nodau gyrfa, gan weithio gyda mwy na 14,000 o gyflogwyr ledled Cymru.

ACT key staff 2023

(chwith i’r dde) Louise Williams, Caroline Cooksley, Andrew Cooksley, Zoe Goodall, Richard Spear ACT.

Mae hefyd wedi cynyddu ei ddarpariaeth addysgol, ers hynny gan lansio ei hysgolion annibynnol ei hun ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed, yn ogystal â darparu rhaglen Twf Swyddi Cymru + – rhaglen a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc 16 i 19 oed i symud ymlaen yn eu gyrfa.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau ACT, Louise Williams, a ymunodd â’r cwmni yn 1999:
“Pan sefydlwyd ACT roedd diweithdra uchel yng Nghymru gyda diffyg cyfleoedd difrifol i oedolion a phobl ifanc heb sgiliau. Roedd sylfaenwyr ACT wir yn teimlo cyfrifoldeb i wneud rhywbeth amdano a gwneud gwahaniaeth.”

Yn ogystal â darparu hyfforddiant i oedolion, ym 1993 dechreuodd ACT ddarparu hyfforddiant ieuenctid, rhywbeth sydd wedi datblygu’n gynnig allweddol i’r busnes.

Yn 2006, ACT oedd y darparwr dysgu seiliedig ar waith cyntaf i ennill gradd 1 ar draws mewn Arolwg Estyn.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Darpariaeth, Zoe Goodall:
“Fe wnaeth y canlyniad ein helpu i sicrhau twf enfawr yn ein contractau, bron dwbl erbyn 2010 – a chyflwyno hyd yn oed mwy o raglenni i bobl ifanc ac oedolion yng Nghymru.

“Arweiniodd y llwyddiant hwn at ein caffaeliad gan Goleg Caerdydd a’r Fro yn 2016 a oedd yn hynod bwysig o ran sicrhau dyfodol ACT a sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl yng Nghymru i wella’u bywydau trwy ddysgu.”

Nid yw’n syndod bod y sector addysg wedi gweld newidiadau enfawr ers yr wythdegau, nid yn unig yn y ffordd y mae cyrsiau’n cael eu darparu gyda datblygiadau technoleg newydd, ond hefyd yn ei heriau a’i bynciau.

ACT key staff 1988

chwith i’r dde) Staff allweddol ACT yn 1988: Glenn Williams, Robert Davies, Andrew Cooksley, David Hughes a Diane Dunford.

Wrth siarad am bwysigrwydd hyfforddi nawr, dywedodd Zoe: “Mae’r hyn rydym yn ei ddarparu wedi esblygu yn unol â marchnad lafur sy’n newid, datblygiad cymwysterau a hyd yn oed sectorau newydd – yn enwedig yn y maes digidol a TG.

“Rydym wedi datblygu rhaglenni a llwybrau newydd i gefnogi cyflogwyr gyda datblygiad proffesiynol parhaus i’w gweithwyr a hefyd wedi esblygu ac addasu’r ffordd yr ydym yn darparu rhaglenni i bobl ifanc yng Nghymru i ddiwallu eu hanghenion newidiol, yn enwedig ar ôl y pandemig.”

Ychwanegodd Louise: “Mae niferoedd NEET (nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ledled Cymru yn cynyddu, ynghyd â heriau i bobl ifanc gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol, iechyd meddwl, a marchnad lafur heriol.

“Dyw addysg prif ffrwd ddim yn ‘addas i bawb’ felly mae angen cynnig darpariaeth amgen. Mae’r angen i gefnogi oedolion i uwchsgilio a newid eu gyrfa hefyd wedi cynyddu nawr bod pobl yn gweithio yn hirach.”
Gan edrych ymlaen at y dyfodol, mae ACT yn awyddus i adeiladu ar lwyddiant y 35 mlynedd diwethaf trwy fod hyd yn oed yn fwy arloesol a chreadigol gyda’r hyn a gyflawnir.

Ychwanegodd Zoe: “Rydym ni’n awyddus i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl yng Nghymru boed hynny yn eu datblygiad proffesiynol, i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd neu i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau posibl i gyrraedd eu potensial llawn.”

Myfyriodd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear, ar fwy na thri degawd o dwf yng Nghymru, gan ddweud:
“Mae gallu dathlu 35 mlynedd fel busnes mewn unrhyw faes yn gyflawniad enfawr ond i ni mae hefyd yn golygu ein bod, ers dros dri degawd bellach, wedi gallu gwella bywydau trwy ddysgu.

“Er bod y ffordd yr ydym yn darparu hyfforddiant, yn ogystal ag anghenion ein cyflogwyr, wedi newid ers 1988, mae ein ffocws yn dal i fod ar ein cenhadaeth i gefnogi dysgwyr yn eu nodau addysgol, gyrfa a phersonol – mae hyn wedi ein galluogi i lywio drwy’r cyfnod diweddar o ansicrwydd a datblygiad.

“Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y garreg filltir anhygoel hon fel rhan o Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i helpu mwy o bobl i gyflawni eu nodau.”

Dywedodd Mike James, Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro:
“Llongyfarchiadau mawr i ACT ar y garreg filltir arwyddocaol hon.

“Fel grŵp cydweithredol rydym yn parhau i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc, ac yn hyrwyddo dysgu i wella bywydau, ledled Cymru. Mae’r ffaith bod ACT yn dathlu 35 mlynedd o ddarparu’r cyfleoedd hyn yn gyflawniad anhygoel.”

ACT Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —