Cyfle gan Twf Swyddi Cymru+ wedi helpu Caitlyn i ddod dros ei swildod

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Caitlyn gydag anifeiliaid y fferm

Caitlyn Smart yn Jamie’s Farm, Sir Fynwy

Doedd y carwr anifeiliaid Caitlyn Smart ddim yn siŵr o’i cham nesaf ar ôl gadael yr ysgol, ond mae hi newydd gael ei phenodi fel Llysgennad Jamie’s Farm yn Sir Fynwy, ar ôl creu tipyn o argraff ar y staff!

Dywedodd y ferch 17 oed bod ymweliad a’r ffarm wedi rhoi hwb mawr i’w hyder. Roedd y cwrs preswyl pum noson yn rhan o raglen Twf Swyddi Cymru + (TSC+) a gynhaliwyd gan ACT, prif ddarparwr hyfforddi Cymru.

Ar ôl cael ei magu “wedi’i hamgylchynu gan anifeiliaid anwes”, dywedodd fod ei chwrs Astudiaethau Tir Lefel 1, yn y rhaglen TSC+, yn “berffaith” iddi hi a’i huchelgais i weithio gydag anifeiliaid.

“Cyn y cwrs o’n i’n swil iawn, ond nawr dwi lawer mwy hyderus yn siarad â phobl wahanol!”

Mae TSC+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu yn benodol ar gyfer pobl ifanc 16–18 oed sy’n chwilio am y sgiliau, y cymwysterau, a’r profiad i ddod o hyd i waith.

“Pan gyrhaeddais i Jamie’s Farm am y tro cyntaf roeddwn i’n nerfus iawn,” meddai. “Ro’n i newydd ddechrau fy nghwrs, felly doeddwn i ddim wir yn adnabod unrhyw un. Roeddwn i braidd yn hiraethus, ond yn fuan fe wnes i ei fwynhau’n fawr a doeddwn i ddim eisiau mynd adref! Rwy’n credu mai’r rheswm am hyn oedd cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd – ynghyd â bod o gwmpas anifeiliaid! Roedd yna wartheg, moch, ceffylau, defaid, ieir a mwy!”

Mae Caitlyn yn teimlo bod y daith breswyl i Jamie’s Farm, sy’n darparu profiadau therapi ffermio i helpu pobl ifanc i ffynnu, wedi cael effaith drawsnewidiol!

“Dwi’n bendant yn fwy hyderus yn siarad gyda phobl nawr,” meddai.” O’n i’n arfer bod yn swil iawn a do’n i ddim eisiau siarad gyda neb. Nawr dwi’n hapus i wneud!”

Gwnaeth twf personol Caitlyn argraff mor fawr ar staff y fferm, fe wnaethon nhw ei dewis ar gyfer rôl Llysgennad. Dewisir pob Llysgennad ar ôl dangos potensial a dangos sgiliau arwain eithriadol. Mae Jamie’s Farm yn rhedeg pum safle gwahanol, gan gynnwys Sir Fynwy,

Caerfaddon a Henffordd, ac mae Llysgenhadon ifanc pob safle yn cyfarfod yn rheolaidd i rannu syniadau.

Dywedodd Harley Clarke, Tiwtor Gofal Anifeiliaid yn ACT, bod Caitlyn wedi datblygu’n fawr ers dechrau’r rhaglen TSC+ ac mae hi’n aml yn cael ei dewis fel mentor ar gyfer dysgwyr newydd yn Academi Sgiliau Caerdydd ACT, ar Heol Hadfield.

Esboniodd: “Yn ystod ei ymweliad a Jamie’s Farm, gwnaeth Caitlyn ffrindiau oes newydd, datblygu ei hyder a phenderfynu mai gweithio gydag anifeiliaid oedd yr hyn yr oedd hi eisiau ei wneud. ”

Fel rhan o’i chwrs, mae Caitlyn hefyd wedi bod yn gweithio ym Mharc Fferm Walnut Tree, y tu allan i Gasnewydd, lle mae’n ateb cwestiynau cwsmeriaid am geffylau, gwartheg, defaid a hyd yn oed alpacas y fferm.

Mae Caitlyn yn argymell ACT a rhaglen TSC+ yn gryf i unrhyw un sy’n ansicr o’u hopsiynau ar ôl ysgol, yn enwedig os oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn anifeiliaid.

“Yn bendant, dylai pobl ifanc roi cynnig ar raglen TSC+, yn enwedig os ydyn nhw’n hoffi gweithio gydag anifeiliaid. Bydd yn eich helpu i ddod yn fwy hyderus gydag eraill, gan fod yn rhaid i chi weithio mewn grŵp. Cyn y cwrs o’n i’n swil iawn a ddim wir eisiau siarad gyda neb, ond nawr dwi lawer mwy hyderus yn siarad gyda phobl wahanol!”

Cewch wybod mwy am Twf Swyddi Cymru+ a chyfleoedd eraill sydd ar gael gan ACT.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —