Adeiladu sgiliau adeiladwaith mewn prosiect yn Serbia

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Welsh

Shared apprentice Dylan Evans explaining his role in Serbia to his colleagues at electrical company, Bullock Brothers.

Dylan Evans yn esbonio ei rôl yn Serbia i’w gydweithwyr yn y cwmni trydanol, Bullock Brothers.

Mae prentis adeiladu yng Ngholeg Sir Gâr yn paratoi ar gyfer lleoliad gwaith rhyngwladol lle bydd yn adeiladu gorsaf dân ar gyfer criw o wirfoddolwyr sy’n gyfrifol am ymladd tanau mewn coedwigoedd.

Mae Dylan Evans o Langyndeyrn yn cael ei gyflogi fel prentis trydanol ar y cyd gan Sgiliau Adeiladu Cyfle, a bydd cyn bo hir yn rhan o weithlu medrus sy’n codi adeilad newydd ar gyfer 22 o ddiffoddwyr tân ym mhentref Tometino Polje yn Serbia.

Bydd dau dîm o brentisiaid o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ymuno â Dylan ar y lleoliad gwaith yn ddiweddarach y mis hwn (Mehefin).

Yn ystod ei brentisiaeth, mae Dylan hefyd wedi gweithio yn Kachumbala yn Uganda lle bu’n helpu i reoli prosiect ar gyfer ward famolaeth newydd i’r pentref ac mae wedi cefnogi cynllun cymunedol yn Zamak, gorllewin Serbia.

Gan ddychwelyd i’r coleg fel myfyriwr hŷn yn dilyn gyrfa yn y Corfflu Logisteg Brenhinol, roedd gan Dylan ddyheadau am ddysgu crefft fel rhan o raglen brentisiaeth. Darganfu yn fuan fod ei oedran a’i ddiffyg profiad yn rhwystr ac fe wnaeth gais am y Cynllun Prentis ar y Cyd sy’n cael ei redeg gan Sgiliau Adeiladu Cyfle ac fe wnaeth hyn ei helpu i gyflawni ei nod. Mae bellach wedi cwblhau lefel dau a thri o’i gymwysterau trydanol ac mae’n gobeithio symud ymlaen i HND neu radd sylfaen tra’n parhau â’i brentisiaeth.

Meddai Anthony Rees, swyddog datblygu Sgiliau Adeiladu Cyfle, sydd wedi’i leoli ar gampws Coleg Sir Gâr yn Rhydaman: “Mae Dylan yn llysgennad rhagorol i’r coleg a’r diwydiant adeiladu ac o ganlyniad i’w brofiad yn Uganda, mae wedi cael mwy o gyfrifoldeb yn y gweithle gan ei gontractwr yno.

“Mae’r Cynllun Prentis ar y Cyd yn caniatáu i brentisiaid symud o fewn gwahanol gwmnïau, gan gynnig mwy o brofiad iddynt na chynlluniau traddodiadol.

“Mae gweithio dramor yn gyfle gwych i’n prentisiaid ac mae’n cynnig sgiliau a phrofiad sy’n newid bywyd.”

Mae Coleg Sir Gâr wedi darparu nawdd am y daith ar gyfer y tair prentisiaeth yn defnyddio’r Gronfa Prifathro.

Coleg Sir Gâr Newyddion

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i’r adran Prentisiaethau ar wefan Busnes Cymru neu i gofrestru eich diddordeb mewn prentisiaethau, gallwch gwblhau ein ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.

More News Articles

  —