Adroddiadau

English | Cymraeg

Sicrhau’r Gwerth Mwyaf i Brentisiaethau yng Nghymru

Mae ‘Sicrhau’r Gwerth Mwyaf i Brentisiaethau yng Nghymru’ yn adroddiad annibynnol a baratowyd gan Beyond Standards, ar ran City & Guilds a’r NTfW, gyda chefnogaeth Pwyllgor Cynghori Cenedlaethol City & Guilds yng Nghymru.

Fe wnaethom ni gomisiynu’r adroddiad annibynnol hwn gan Beyond Standards. Eu casgliadau a’u hargymhellion hwy eu hunain yw’r rhain, yn seiliedig ar gyfweliadau â sampl sylweddol o gyflogwyr, darparwyr prentisiaethau, asiantaethau’r llywodraeth ac ymchwil ddesg o adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Nid ydynt o reidrwydd yn cyd-fynd â pholisïau presennol ein sefydliadau.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnig syniadau ffres a momentwm newydd i’r drafodaeth ynghylch sut y gallai Cymru ddarparu system ardderchog o brentisiaethau. Caiff rhai dulliau ymarferol o gyflawni’r nod hwn eu hawgrymu yn yr adroddiad hwn, gydag argymhellion clir. Ar wahân i’r adroddiad hwn gan Beyond Standards, rydym ni wedi cyhoeddi ein hymateb a’n hystyriaethau ein hunain sy’n cynnwys nifer o alwadau ar Lywodraeth Cymru i weithredu.

Lansiwyd yr adroddiad a’r ddogfen ymateb gysylltiedig yn y Senedd nos Fawrth 19 Ionawr January 2019.

Atebion Polisi

Cynhaliwyd yn ystod yr haf 2016 gan ColegauCymru, Dysgu a Sefydliad Gwaith a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Yn dilyn trafodaethau egnïol, mae’n nodi y prif ganfyddiadau, a blaenoriaethau allweddol ar gyfer gweithredu.

Ein cynulleidfa oedd Aelodau’r Cynulliad o bob plaid, eu staff a’n rhanddeiliaid ehangach sydd yn gweithio yn y maes hwn neu fyddai’n cael eu heffeithio gan benderfyniadau polisi. Anogwyd y cyfranogwyr i fabwysiadu meddylfryd ffres am werth gwirioneddol addysg, hyfforddiant a sgiliau ôl-16 yn creu gweithlu cwbl fedrus i Gymru.

Y pum prif fater a nodwyd oedd:

  • Sgilio Oedolion i’r Gwaith
  • Rôl Addysg ôl-16 Wrth Daclo Tlodi
  • Gwerth Sgiliau i’r Economi
  • Sgiliau Iaith Gymraeg i’r Gwaith
  • Darparu Prentisiaethau o’r Safon Uchaf yng Nghymru

Mae cwblhau cyfres o seminarau Atebion Polisi wedi bod yn gatalydd ar gyfer trafodaeth. Fodd bynnag, mae nawr wir angen Llywodraeth Cymru i yrru’r gweithrediad cydweithredol er mwyn sicrhau fod y sector addysg, hyfforddiant a sgiliau ôl-16 yn wirioneddol cyflawni ei botensial ar gyfer Cymru.

 

Gwerth Prentisiaethau i Gymru

Gwnaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) gomisiynu Arad Research, mewn partneriaeth a Deryn Consulting, i wneud ymchwil i werth prentisiaethau i Gymru. Nodau’r ymchwil oedd:

  • Ymchwilio i’r data sydd ar gael am effaith gwariant ar brentisiaethau ar economi Cymru a busnesau yng Nghymru;
    Cyflwyno data mewn perthynas ag effaith prentisiaethau ar ddysgwyr;
  • Adolygu’r wybodaeth sydd ar gael am effaith gwariant ar brentisiaethau ar sgiliau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru;
  • Cymharu data lefel Cymru â data ledled y DU ar brentisiaethau, gan gynnwys cyfraddau cwblhau.