Ymunwch ag ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion y Sefydliad Dysgu a Gwaith

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Gŵyl flynyddol a gaiff ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yw Wythnos Addysg Oedolion.

Llun pennyn Wythnos Addysg Oedolion – cydweithwyr a logo

19 – 25 Medi 2022
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn chwarae rhan bwysig yn hyrwyddo cyfleoedd amrywiol i unigolion, teuluoedd a chymunedau ddysgu sgiliau newydd, hybu iechyd a lles, gafael mewn diddordebau newydd neu chwilio am gyfleoedd newydd i ailhyfforddi a chael dechrau newydd.

Mae’r cyfle i gymryd rhan mewn addysg oedolion a dechrau o’r newydd yn ganolog i weledigaeth Llywodraeth Cymru o wneud Cymru’n genedl yr ail gyfle. Bydd Wythnos Addysg Oedolion yn hwb i bobl gymryd y cam nesaf a fydd yn eu galluogi i fyw bywydau iachach, llewyrchus.

Bwriad llwyfan Wythnos Addysg Oedolion yw cynnwys gwybodaeth, cyrsiau, digwyddiadau ac adnoddau i gysylltu pobl â’r ddarpariaeth ac â phartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru a’r tu hwnt. Y llynedd, cynhaliodd y Sefydliad dros 500 o eitemau gan sefydliadau amrywiol yn cynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, Syniadau Mawr Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, UNSAIN, BT, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Cyngor Cymru i Bobl Fyddar, TUC Cymru ac eraill.

Eleni, bydd ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion yn cynnwys digwyddiadau a chyrsiau, sesiynau blasu, diwrnodau agored a digwyddiadau allgymorth a gaiff eu hyrwyddo wrth bobl ledled Cymru drwy gydol mis Medi. Defnyddir cyfuniad o ddulliau ar-lein, byw ac wyneb yn wyneb. Cliciwch yma i weld y digwyddiadau sydd eisoes ar gael ar y llwyfan.

Gwnewch ddysgu gydol oes yn fwy hwylus a gweladwy i gynifer o oedolion ag y bo modd ledled Cymru.
Dewch i gymryd rhan yn yr ymgyrch – gallwch helpu i gynyddu effaith a chodi proffil addysg oedolion a helpu i rymuso pobl trwy gyfleoedd dysgu gydol oes. Defnyddiwch y llwyfan i drefnu a hyrwyddo’ch cyrsiau, diwrnodau agored, digwyddiadau blasu, adnoddau dysgu a chyngor ac arweiniad.

Ymunwch â’r gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashnodau #newiddystori #newideichstori #wythnosaddysgoedolion a dilyn a thagio Twitter, Facebook, Instagram L&W.

Defnyddiwch y mis i dynnu sylw at straeon am oedolion yn dysgu ac i ddathlu popeth sydd gan ddysgu i’w gynnig.

Dylai darparwyr sy’n newydd i’r ymgyrch lenwi profforma Wythnos Addysg Oedolion. Gall darparwyr cofrestredig fewngofnodi i’w cyfrif yma.

Os oes gennych gwestiynau am eich cyfrif neu os hoffech drafod cyfleoedd ar gyfer gwaith traws-hyrwyddo, cysylltwch â Nisha Patel, y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn a alwevents@learningandwork.org.uk.

Wythnos Addysg Oedolion

More News Articles

  —