Trosolwg Strategol

English | Cymraeg

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn gorff blaenllaw ym maes dysgu yn y gweithle ac rydym yn ymroi i lunio a llywio’r ddarpariaeth brentisiaethau yng Nghymru.

Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth o ddatblygu gweithlu ar gyfer y dyfodol yng Nghymru, mae’n rhaid i ni ddal ati i ddylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cymru ym maes sgiliau a phrentisiaethau er mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran cyllid a pharch i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaid.

Y Weledigaeth

Datblygu gweithlu’r dyfodol yng Nghymru

Y Genhadaeth

Cawn ein cydnabod am:

  • Bleidio achos ein haelodau yng Nghymru
  • Hyrwyddo effeithiau cadarnhaol ar yr economi
  • Dysgu seiliedig ar waith (DSW) gyda’r gorau yn y byd gan y llywodraeth a rhanddeiliaid ehangach
  • Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng dysgu galwedigaethol a dysgu academaidd

Blaenoriaethau strategol

Cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar eu polisïau a’u meddylfryd at y dyfodol, gan sicrhau cydraddoldeb ar gyfer darparwyr a dysgwyr DSW.

Cynrychioli aelodau’r NTFW gyda rhanddeiliaid ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig gan herio, llywio a llunio polisïau ar sgiliau a phrentisiaethau.

Pwysleisio’r angen am gyfraddau ariannu teg a thryloyw ar gyfer yr holl raglenni prentisiaethau gan adlewyrchu gwir gost eu darparu.

Dylanwadu ar broses sefydlu Comisiwn newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Drydyddol a helpu i’w lunio gan adeiladu ar gryfderau’r sector DSW er mwyn wynebu’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaen.

Cydweithio â phartneriaid i helpu i feithrin gallu a phroffesiynoli gweithlu prentisiaethau DSW.

Cynllun Strategol NTFW 2023 – 2026


yn ôl i’r brig>>