Cyfle i arddangos a ddathlu llwyddiant prentisiaethau Cymru yn y Senedd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Lisa Mytton, NTFW Strategic Director

Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol NTFW

Bydd darparwyr dysgu seiliedig ar waith, prentisiaid a chyflogwyr yn dod ynghyd i ddathlu Wythnos Brentisiaethau Cymru 2025 gyda Ffair Brentisiaethau yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mercher (Chwefror 12).

Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a ColegauCymru sy’n cyd-drefnu’r digwyddiad yn Neuadd y Senedd gan fynd â phrentisiaethau at galon Llywodraeth Cymru.

Cydlynir y digwyddiad gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Brentisiaethau, sy’n cael ei gyd-gadeirio gan Luke Fletcher AS a Joyce Watson AS. Bydd yn digwydd rhwng 10am a 3pm a bydd yn gyfle i Aelodau’r Senedd gwrdd â darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a phrentisiaid o bob cwr o Gymru.

Yn dilyn toriadau gan Lywodraeth Cymru i’r gyllideb prentisiaethau y llynedd, bydd yr NTFW a ColegauCymru yn dangos bod gwir angen buddsoddiad parhaus mewn prentisiaethau er mwyn sicrhau twf economaidd a chadernid cymunedol.

Bydd cyfle i ymweld â stondinau arddangos i weld y prentisiaethau amrywiol sydd ar gael yng Nghymru, i gael profiad ymarferol o sgiliau a gweld arddangosfeydd rhyngweithiol o arloesedd.

Bydd Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, AS, sy’n gyn-brentis ei hun, yn annerch am hanner dydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio prentisiaethau fel “safon aur” dysgu seiliedig ar waith a chonglfaen ei strategaeth sgiliau, sy’n rhoi cyfle i unigolion ennill cyflog a dysgu gwybodaeth a sgiliau hanfodol er mwyn llwyddo yn y gweithle.

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW:
“Mae’r digwyddiad yn y Senedd yn gyfle gwych i ddangos gwerth prentisiaethau i holl Aelodau’r Senedd ac ymwelwyr eraill.

“Yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid i ni ddatblygu llif cyson o dalent – o brentisiaethau i addysg uwch – er mwyn sicrhau’r twf economaidd y mae ar Gymru ei wir angen.

“Yn ein heconomi fyd-eang sy’n esblygu’n barhaus, mae’n hollbwysig cael gweithlu medrus a hyblyg. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan hanfodol yn pontio’r bwlch sgiliau, gan gynnig profiad ymarferol, a meithrin y gallu i arloesi.

“Mae’n dal yn gyfnod heriol iawn i’n darparwyr dysgu seiliedig ar waith, er mor wydn ydynt, yn dilyn toriadau i gyllideb prentisiaethau, ond rydym yn dal yn benderfynol o wasanaethu Cymru trwy gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a Medr i gyflawni eu blaenoriaethau yn awr ac i’r dyfodol.”

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —