Prentisiaethau’n allweddol i ddyfodol a thwf busnes perarogleuon

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Owners Ruth and Alan standing in the shop with their apprentices Eleri and Eve

Perchnogion Bwthyn, Ruth ac Alun Hancock, gyda’u prentisiaid Eleri Page ac Eve Stait.

Mae aroglau llwyddiant ar fusnes a sefydlwyd gan ŵr a gwraig mewn cwt haf yng Nghaerffili yn ystod cyfnod clo’r pandemig yn 2020.

Mae gan gwmni Bwthyn siop a gweithdy yn Heol Caerdydd, Caerffili lle mae’n gwneud canhwyllau, sebon a thryledwyr perarogleuon â llaw. Gan ei fod mor llwyddiannus, mae’r perchnogion Ruth ac Alun Hancock newydd recriwtio dwy brentis a’r nod yw cyflogi dau arall ym mis Mai.

Gan eu bod yn gweld y bydd prentisiaethau’n allweddol er mwyn i’r busnes ddal i dyfu, roedd y cwpwl yn awyddus i rannu eu stori wrth ddathlu Wythnos Prentisiaethau yng Nghymru (https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth) – Chwefror 6-12.

Caiff nwyddau nodedig y cwmni eu cymysgu a’u harllwys, ychydig ar y tro, yn ei weithdy pwrpasol. Mae Bwthyn yn gwneud perarogleuon unigryw hefyd ar gyfer cwmnïau a chanolfannau mawr er mwyn gwella’u busnes a hyrwyddo’u brand.

Yn ogystal, mae Ruth ac Alun yn manteisio ar y farchnad allforio gan fod Cymry sy’n byw dramor yn hiraethu am beraroglau sy’n eu hatgoffa o gartref. Mae’r cwmni’n adrodd straeon i fynd gyda’i gynnyrch er mwyn ennyn atgofion hapus am Gymru.

Ar ôl ennill dwy wobr yng Ngwobrau Busnes Caerffili fis Tachwedd diwethaf, mae’r cwpl yn llawn cyffro am y dyfodol wrth iddynt gynllunio i ehangu i gynhyrchu persawrau ac agor siopau Bwthyn mewn pentrefi siopa chwaethus ledled Cymru.

Dyna pam iddynt recriwtio dwy brentis, Eleri Page, 19, ac Eve Stait, 22, sy’n gweithio ar Brentisiaethau yn y Cyfryngau Cymdeithasol a Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gweinyddu Busnes yn y drefn honno. Cânt eu cyflenwi gan Educ8 Training, Ystrad Mynach.

Cafodd Eve, sy’n awtistig, ei recriwtio gyda chymorth Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaid anabl. Bwriad y cynllun, sy’n dod i ben ddiwedd Mawrth, yw annog cyflogwyr i gael profiad uniongyrchol o fanteision recriwtio pobl anabl.

Dywedodd Ruth, 46, sydd â nifer o anableddau: “Mae’r ddwy’n gwneud yn rhyfeddol o dda. Rwy wrth fy modd yn dysgu ac rwy’n gwybod pa mor anodd yw hi i bobl ifanc gael gwaith a dysgu. Rydyn ni’n awyddus i roi cyfle i bobl ddysgu, tyfu ac ennill cyflog ar yr un pryd.

“Gan fy mod innau’n anabl, rwy’n defnyddio meddalwedd arbennig ar fy ngliniadur ac rwy’n bwriadu trefnu ei fod ar gael i Eve a gweithwyr eraill yn y dyfodol os bydd angen. Rwy am sicrhau eu bod yn cael yr holl offer y mae arnyn nhw eu hangen i lwyddo.

“Rwy’n credu bod prentisiaethau wir yn bwysig ac rwy’n cytuno â Richard Branson sy’n dweud, ‘Os gofalwch chi am eich staff, fe wnân nhw ofalu am eich cwsmeriaid’. Mae pawb yn dysgu gyda’n gilydd yn Bwthyn ac rydyn ni’n tyfu fel busnes teuluol.”

Dywedodd Rhiannon Fletcher, rheolwr cyfrifon cenedlaethol Educ8 Training: “Mae Bwthyn yn gyflogwr rhagorol sy’n cefnogi ac yn meithrin ei brentisiaid. Mae’n wych gweld cwmni bach, lleol yn defnyddio prentisiaethau i feithrin doniau a rhoi hwb i’w busnes.”

Yn ystod Wythnos Prentisiaethau, bydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), rhwydwaith o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith, yn hyrwyddo manteision prentisiaethau wrth gyflogwyr ac unigolion.

“Mae prentisiaethau’n cynnig y cyfuniad delfrydol o ddysgu ac ennill cyflog, fel y gall prentisiaid barhau â’u haddysg ac ennill cymwysterau cydnabyddedig wrth weithio ochr yn ochr â staff profiadol,” meddai Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTfW. “Mae cyflogwyr yn recriwtio prentisiaid er mwyn creu gweithlu brwd a ffrwd o dalent at y dyfodol.”

Mae prentisiaethau’n agored i bawb dros 16 oed, o bob gallu, ac fe gaiff pob prentis gefnogaeth bwrpasol. Mae prentisiaethau ar gael ar bedair lefel, gyda rhywbeth sy’n addas i bob dysgwr mewn 23 o sectorau.

Canfu gwaith ymchwil bod pobl sydd â sgiliau swydd-benodol yn ennill £100,000 yn fwy, yn ystod eu hoes weithiol, na phobl sydd heb grefft.

Fel rhan o’i hymgyrch ‘Dewis Doeth’, dywed Llywodraeth Cymru fod prentisiaethau’n helpu unigolion i sbarduno’u gyrfa trwy ddarparu’r profiad cywir a sgiliau swydd-benodol, a’u bod yn helpu busnesau i recriwtio mewn ffordd gost-effeithiol.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —