Arolwg i gasglu gwybodaeth am y ffordd y mae COVID-19 yn effeithio ar sectorau a busnesau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ar hyn o bryd, mae Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru’n cydweithio’n agos â’r chwe Awdurdod Lleol i hyrwyddo arolwg newydd a sefydlwyd i gasglu gwybodaeth am y ffordd y mae COVID-19 yn effeithio ar sectorau a busnesau yn y rhanbarth.

Daw COVID-19 â heriau newydd i bawb ohonom yn y misoedd nesaf ac mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn awyddus i sicrhau bod lleisiau busnesau a phobl hunangyflogedig Cymru yn cael eu clywed a bod pob perchennog busnes yn elwa ar y gefnogaeth sydd ar gael. Bydd yr arolwg yn gyfle i ni holi busnesau beth y mae arnynt ei angen yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir, a bydd y data a gesglir yn caniatáu i’r gwahanol dimau ymateb i’r anghenion hynny.

Gallwch fynd at yr arolwg i fusnesau yma:
www.surveymonkey.co.uk/r/DQ9VQH8

More News Articles

  —