Asesu er mwyn dysgu: cwestiynu effeithiol

English | Cymraeg

Dim ond ar gyfer aelodau NTfW mae’r digwyddiad hwn ar gael

Dyddiad a Lleol

30 Tachwedd 2017 – Hyfforddiant Cambrian, Canolfan Ragoriaeth, Tŷ Cambrian, Uned 14, Parc Menter Fferm Hafren, y Trallwng, Powys SY21 7DF

Amser:

10.00am – 4.00pm

Cost:

£45.00 (a fydd yn cynnwys paneidiau a chinio)


Trefnwch Heddiw

Wedi cael llond bol o geisio tynnu’r atebion cywir o’ch dysgwyr? Bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i gwestiynu’n fwy effeithiol er mwyn cael rhagor gan eich dysgwyr, cael gwybod beth y maent yn ei wybod a’ch helpu i gynllunio gyda’ch gilydd beth i’w wneud nesaf.

Yn dilyn sesiwn datblygiad proffesiynol lwyddiannus NTfW ar Asesu ar gyfer Dysgu (Adolygu er mwyn Gwella), byddwn yn ystyried yn fwy manwl sut y gellir defnyddio gwahanol fathau o gwestiynu gyda dysgwyr i’w cael trwy eu cymwysterau’n effeithiol.

Ar gyfer pwy mae’r gweithdy hwn yn addas?
Aseswyr cymwysterau galwedigaethol lefelau 1 – 4; tiwtoriaid a hyfforddwyr

Deilliannau Dysgu:
Erbyn diwedd y dydd, bydd y rhai sy’n bresennol wedi cael cyfle i:

  • ystyried cwestiynau gwahaniaethu gan ddefnyddio tacsonomeg dysgu Bloom (yn cynnwys ymestyn a herio)
  • ystyried cwestiynau/technegau i’w defnyddio gyda’r dosbarth cyfan
  • defnyddio cwestiynau yn null “coaching” i annog dysgwyr i fyfyrio am eu dysgu eu hunain a chymryd cyfrifoldeb drosto

Ros Protheroe Portrait

Ros Protheroe

Cyfarwyddwr, Panda Education and Training

Bu Ros yn gweithio yn y sector Dysgu Seiliedig ar Waith ers 17 mlynedd. Dechreuodd fel tiwtor TG yn helpu oedolion yn ôl i’r gweithle ac enillodd ei TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yn 2005. Ers hynny bu mewn swyddi fel Hyfforddwr TG Arweiniol, Dilysydd Mewnol, Rheolwr Ansawdd ac Uwch Reolwr Ansawdd. Am dair blynedd hyd at fis Awst y llynedd, bu’n Rheolwr Dysgu a Datblygu Staff, yn darparu ac yn cydlynu gweithgareddau datblygu ar gyfer dros 300 o staff, gan ganolbwyntio ar addysgu a dysgu creadigol a dyfeisgar.

Ym mis Awst y llynedd, lansiodd Ros Panda Education & Training gyda’i phartner busnes a’i chyn-gydweithwraig, Rachel Arnold.

Y prif beth sy’n gyrru Ros yw sicrhau bod addysgwyr galwedigaethol yn cael y cymorth iawn i gynnig yr hyfforddiant gorau, mwyaf dyfeisgar a chreadigol sy’n bosib. Ar hyn o bryd mae’n gwneud gradd Meistr mewn Addysg, gan ymchwilio i effaith arsylwi ar ansawdd dysgu.

Rachel Arnold Portrait

Rachel Arnold

Cyfarwyddwr, Panda Education and Training

Bu Rachel Arnold yn gweithio ym maes Dysgu Seiliedig ar Waith ers 17 mlynedd. Dechreuodd fel Asesydd a Thiwtor ar raglenni prentisiaethau a chyflogadwyedd.

Yn 2002, symudodd Rachel ymlaen i reoli tîm bach o aseswyr a thiwtoriaid. Trwy ganolbwyntio ar safon y cyflenwi er mwyn sicrhau canlyniadau da i’r dysgwyr, yn 2007 daeth yn Gyfarwyddwr Datblygu Ansawdd. Bu Rachel yn gyfrifol am reoli ansawdd, y cwricwlwm a datblygu staff am 9 mlynedd. Erbyn hyn, mae Rachel yn Gyfarwyddwr gyda Panda Education & Training ac mae’n credu’n angerddol mewn datblygu sgiliau galwedigaethol.

Yn ddiweddar, penodwyd hi’n Bencampwr y sector TG a Menter a’r Cyfryngau Creadigol yng Nghymru fel rhan o’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.

Cysylltwch ag info@ntfw.org neu ffonio 029 20495 861 i gael gwybod rhagor.

Telerau ac Amodau

wg-logo