Buddsoddiad mewn prentisiaethau’n talu ar ei ganfed i BT

Postiwyd ar gan karen.smith

23.09.16 mh BT apprentices 13

English | Cymraeg

Mae busnesau bach a mawr ledled Cymru yn cydnabod manteision prentisiaethau fel y ffordd orau o feithrin gweithlu medrus i ateb y galw yn awr ac i’r dyfodol.

Un busnes sydd wedi elwa’n fawr ar brentisiaethau ers dros hanner canrif yw cwmni telathrebu enfawr BT. Yng Nghymru yn unig, mae gan y cwmni 92 o brentisiaid a bydd 70 arall yn ymuno â’r busnes yn y 12 mis nesaf.

Cynigir prentisiaethau amrywiol – o Weinyddu Busnes i Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, gan ychwanegu Seiberddiogelwch, gan ddechrau gyda Phrentisiaethau Sylfaen (Lefel 2) a mynd ymlaen i Brentisiaethau Uwch (Lefelau 4 a 5).

“Rydyn ni’n credu’n gryf mewn denu doniau newydd a rhoi cyfle i bobl weithio, dysgu a datblygu gyrfa gyda BT, gan sicrhau bod y cwmni’n dal i dyfu,” meddai Bob Soper-Dyer, pennaeth Rhaglen Brentisiaethau BT. “Rydyn ni’n trin prentisiaid fel gweithwyr gwerthfawr o’r dechrau’n deg.

“Mae ein prentisiaid yn ennill cyflog cystadleuol iawn, maen nhw’n gweithio ar brosiectau go iawn ac yn dysgu sgiliau go iawn – gallan nhw fod allan yn y maes gyda’n peirianwyr, yn cydweithio yn ein canolfan ymchwil i dechnoleg, neu’n datrys problemau ar ran ein cwsmeriaid.

“Mae strategaeth fusnes BT yn dibynnu ar gael y sgiliau, y profiad a’r wybodaeth iawn, yn y lle iawn ar yr amser iawn, yn barod i fynd. Mae ein prentisiaid yn rhan allweddol o’r strategaeth honno ar gyfer y gweithlu, yn enwedig mewn meysydd lle mae’r gweithlu’n heneiddio ac angen i ni gynllunio i gael pobl â’r sgiliau iawn i gymryd eu lle.

“Bu gennym brentisiaid ers cymaint o amser nes eu bod yn rhan hanfodol o’n diwylliant a’n strategaeth caffael talent, sy’n golygu eu bod yn rhan bwysig o’n gwaith cynllunio’r gweithlu a wneir dair blynedd ymlaen llaw.

“Mae ein prentisiaid yn herio’n syniadau yn rheolaidd, ac maent yn cael eu hannog i wneud hynny. Allwn ni ddim tyfu a newid fel busnes heb y cyfraniad gwerthfawr hwn.

“Rydym yn recriwtio prentisiaid i gael gyrfa yn BT. Fel prentisiaid y dechreuodd nifer fawr o’n huwch reolwyr eu gyrfa yn BT. Maen nhw’n fodelau rôl pwysig i ni, yn ogystal ag yn arweinwyr busnes gwerthfawr, ac felly rydym yn annog prentisiaid i symud ymlaen yn eu gyrfa.”

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod 96% o’r prentisiaid sy’n ymuno â BT yn aros gyda’r cwmni am o leiaf bum mlynedd a bod 14% ohonynt yn cael dyrchafiad.

Dywed BT bod y manteision a ddaw o fuddsoddi yn eu rhaglen brentisiaethau’n cynnwys:

  • Caffael talent er mwyn parhau i dyfu, a mesurir hyn yn ôl y nifer sy’n aros gyda’r cwmni ac yn symud ymlaen yn eu gyrfa gyda BT
  • Effeithlonrwydd o’i gymharu â chost y cyflog: fel rheol, mae’n 40% yn y flwyddyn gyntaf, 70% yn yr ail flwyddyn a 95% yn y drydedd flwyddyn
  • Caiff egni a brwdfrydedd y prentisiaid eu hadlewyrchu ym mherfformiad timau gweithredol sydd gyda’i gilydd ers amser

“Mae’r rhaglen brentisiaethau’n ein helpu i sicrhau’r doniau a’r sgiliau gorau a’r bobl fwyaf abl i arwain yn y dyfodol. Mae hynny, yn ei dro, yn golygu bod gan ein cwsmeriaid fwy o ffydd yn ein parhad a’n henw da,” meddai Bob.

“Mae BT’n deall bod prentisiaethau’n gwneud synnwyr i’r busnes ac felly mae’n annog ac yn helpu ei gadwyn gyflenwi i recriwtio a datblygu prentisiaid. Mae hyn yn arwain at welliant ym mherfformiad busnes BT, gwell profiad i gwsmeriaid a chadwyn gyflenwi sy’n meddwl yn yr un ffordd â ni.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi addunedu i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn ystod ei thymor presennol. Mae’r prentisiaethau’n canolbwyntio’n arbennig ar anghenion diwydiant, yn enwedig wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, sef sectorau lle mae prinder sgiliau.

Bwriedir buddsoddi mwy hefyd i hybu twf mewn sectorau allweddol yn cynnwys y diwydiannau creadigol, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, adeiladu, logisteg a gwasanaethau ariannol ac amgylcheddol. Caiff prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a rhai dwyieithog eu cefnogi hefyd.

  • Mae prentisiaid yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan sicrhau profiad ymarferol, gwerthfawr, yn y gweithle
  • Mae prentisiaethau’n cyfrannu tuag £1.1 biliwn at economi Cymru
  • Mae pob £1 o arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn prentisiaethau’n sicrhau enillion o £74 o’i gymharu â £57 yn achos gradd arferol
  • Mae cyfraddau llwyddiant mewn prentisiaethau yng Nghymru dros 80 y cant yn gyson o’i gymharu â 67 y cant yn Lloegr
  • Ar gyfartaledd, mae fframwaith prentisiaeth yn costio rhwng £4,000 ac £16,000 o’i gymharu ag o leiaf £27,000 ar gyfer gradd arferol

O 8 Ebrill eleni ymlaen, mae cyflogwyr yn y Deyrnas Unedig sy’n annog rhagor o gwmnïau i recriwtio prentisiaid.

I gael gwybod sut y gallai eich busnes elwa, cofrestrwch eich diddordeb yma

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

More News Articles

  —