Antur Waunfawr yn hyrwyddo Prentisiaethau Dwyieithog

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Tom Workman and Jack Williams iin the shop with bikes in the background

Tom Workman a Jack Williams, Antur Waunfawr

Mae prentisiaethau dwyieithog yn helpu dau ddyn i ddatblygu gyrfaoedd addawol mewn menter gymdeithasol flaenllaw yn y gogledd sy’n cynnig swyddi a chyfleoedd am hyfforddiant yn eu cymuned eu hunain i bobl sydd ag anableddau dysgu.

Mae Tom Workman, 39, uwch-swyddog beics a Jack Williams, 24, swyddog beics, yn gweithio i Antur Waunfawr, sydd â safleoedd yn Waunfawr a Chaernarfon, lle maent bron â chwblhau Prentisiaeth (Lefel 3) a Phrentisiaeth Sylfaen (Lefel 2), yn y drefn honno, mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy.

Cyflenwir eu prentisiaethau’n ddwyieithog gan Amy Edwards, pennaeth uned cynaliadwyedd, bwyd, diod a busnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Tom a Jack sy’n rhedeg siop feics Antur Waunfawr, Beics Antur Bikes, sy’n llogi beiciau, gan gynnwys e-feiciau a beiciau wedi’u haddasu. Maent hefyd yn adnewyddu ac yn ailgylchu beiciau a roddwyd iddynt ac yn cefnogi a hyfforddi pobl sydd ag anableddau dysgu.

Mae Antur Waunfawr yn cyflogi 97 o staff ac yn cefnogi 65 o oedolion ag anawsterau dysgu, gan ddarparu gwasanaethau gwerthfawr i gymunedau’r ardal ym meysydd ailddefnyddio, ailgylchu ac iechyd a lles.

Ystadegydd gyda CBAC yng Nghaerdydd oedd Tom cyn symud i’r gogledd a dywed ei fod wedi canfod ei “swydd ddelfrydol” gydag Antur Waunfawr a’i fod yn mwynhau ei brentisiaeth ddwyieithog – y tro cyntaf iddo astudio yn y Gymraeg.

“Fy nghyngor i i unrhyw un sy’n ystyried prentisiaeth yw dewis rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi a mynd amdani,” meddai. “Rwy’n hoffi her newydd ac rwy’n credu y byddaf i’n gweithio yn Antur Waunfawr am dipyn go lew gan fod pobl dda yn gweithio yma.”

Dywed Jack, a fu’n gweithio mewn swyddfa am bedair blynedd, ei fod wrth ei fodd yn ei swydd gan fod y gwaith yn amrywiol a diddorol a’i fod yn mwynhau gwneud lles i fywydau’r bobl y mae’n eu cefnogi ac yn eu hyfforddi.

“Prif fanteision prentisiaeth yw’r cyfle i ddysgu a datblygu’ch gyrfa gan wella’ch hunan fel person ar yr un pryd,” meddai. “Mae gwneud y brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn help mawr.

“Byddwn i’n sicr yn hoffi dringo’r ysgol o fewn y cwmni a symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3.”

Dywed Gwenlli Wynne, rheolwr datblygu busnes Antur Waunfawr, fod Tom a Jack yn aelodau gwerthfawr o’r staff. “Mae wedi bod yn wych eu gweld nhw’n datblygu ers iddyn nhw ymuno â ni yn 2021,” meddai.

“Mae’r ddau wedi cwblhau cymwysterau Mecaneg Beiciau Lefel 2 a 3 ac yn anelu at orffen eu prentisiaeth erbyn diwedd y mis.

“Gan fod Antur Waunfawr yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n bwysig ein bod ni’n gallu cynnig y cyfle i’n staff gyflawni cymwysterau yn y Gymraeg, eu hiaith gyntaf. Mae’r ffaith bod staff Hyfforddiant Cambrian yn cynnal yr ymweliadau safle rheolaidd yn Gymraeg wedi gwneud y profiad yn haws i’n staff.”

Dywedodd Amy Edwards am Jack a Tom: “Maen nhw’n ddysgwyr da iawn gyda sgiliau rhagorol gwasanaethu cwsmeriaid ac maen nhw’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth er mwyn eu helpu i gefnogi a hyfforddi oedolion ag anawsterau dysgu.

“Cymraeg yw iaith gyntaf Jack ac mae’r rhan fwyaf o’i sgyrsiau gyda mi’n cael eu cofnodi yn Gymraeg. Mae’n well gan Tom wneud ei waith ysgrifenedig yn Saesneg ond mae’n siarad Cymraeg yn hyderus yn y sesiynau arsylwi.”

Cewch wybod rhagor am brentisiaethau Cymraeg a sut mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn hybu defnyddio’r iaith Gymraeg.

Mae’r cyflogwr a’r unigolyn yn elwa ar y rhaglen Brentisiaethau.
Mae prentisiaethau dysgu seiliedig ar waith yn cynnig y cyfuniad delfrydol o ddysgu ac ennill cyflog, fel y gall prentisiaid barhau â’u haddysg ac ennill cymwysterau cydnabyddedig wrth weithio ochr yn ochr â staff profiadol.

Maent yn agored i bawb dros 16 oed, o bob gallu, ac fe gaiff pob busnes a phrentis gefnogaeth bwrpasol. Mae prentisiaethau ar gael ar bedair lefel, gyda rhywbeth sy’n addas i bob dysgwr mewn 23 o sectorau diwydiant.

I gyflogwyr, mae prentisiaethau’n creu gweithlu brwd a medrus iawn gan ostwng costau hyfforddi a recriwtio.

Fel rhan o’i hymgyrch ‘Dewis Doeth’, dywed Llywodraeth Cymru fod prentisiaethau’n helpu unigolion i sbarduno’u gyrfa trwy ddarparu profiad a sgiliau ymarferol, gan helpu busnesau i hyfforddi a recriwtio mewn ffordd gost-effeithiol.

Hyfforddiant Cambrian

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —