Ugain swydd i’w cynnig wrth i gwmni diodydd o’r Canolbarth dyfu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Radnor Hills staff working on their production line

Radnor Hills Water Company, Trefyclo

Mae cwmni dŵr ffynnon a diodydd meddal o’r Canolbarth sydd wedi ennill llawer o wobrau yn chwilio am 20 o weithwyr, yn cynnwys prentisiaid, ar gyfer y busnes sy’n tyfu’n gyflym.

Ar hyn o bryd, mae gan y Radnor Hills Water Company, sydd â’i bencadlys yn Heartsease, ger Trefyclo, 230 o staff ac mae’n chwilio am yrwyr tryciau fforch godi, gweithwyr cynhyrchu a pheirianwyr cynnal a chadw.

Mae gan y cwmni hanes ardderchog o hyfforddi a datblygu ei staff trwy brentisiaethau, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cyflenwi gan Hyfforddiant Cambrian, darparwr arobryn o’r Trallwng.

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae dros 90 o staff wedi cwblhau prentisiaethau yn cynnwys Sgiliau’r Diwydiant Bwyd Lefel 3, Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd Lefel 4 a Rheoli, Lefelau 4 a 5. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Disgwylir i 25 aelod arall o staff gychwyn prentisiaethau gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn Radnor Hills eleni. Yn ogystal, bydd Hereford and Ludlow College yn recriwtio ac yn hyfforddi dau brentis peirianneg.

Mae Radnor Hills yn cynhyrchu diodydd meddal 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gyda llawer o weithwyr yn gweithio shifftiau 12 awr, pedwar diwrnod o waith a phedwar diwrnod i ffwrdd. Gyda’r patrwm gwaith hwn, mae’r gweithwyr yn cael chwe mis y flwyddyn i ffwrdd cyn hyd yn oed drefnu gwyliau ac mae’n golygu eu bod yn teithio yn ôl a blaen i’r gwaith ar lai o ddyddiau, fel bod eu biliau tanwydd wythnosol o leiaf 20% yn llai.

Mae’r cwmni, sydd â throsiant blynyddol o £50 miliwn, yn gwneud buddsoddiad mawr mewn llinell gynhyrchu newydd ar gyfer poteli gwydr ac mae’n dal i fuddsoddi yn ei safle modern sy’n cynhyrchu tuag wyth miliwn o boteli o ddiodydd meddal yr wythnos.

Radnor Hills yw’r unig gwmni yn Ewrop sy’n cynhyrchu diodydd meddal mewn poteli gwydr, TETRA Pak, PET a thuniau ar yr un safle.

Dywed rheolwr cyffredinol y cwmni, Dave Pope, bod creu’r swyddi newydd yn rhan o gynllun y cwmni i ehangu.

“A ninnau’n disgwyl twf ym mhob rhan o’r busnes, mae’n hanfodol hyfforddi staff ar ein llinellau awtomataidd iawn a byddwn yn dal i gydweithio’n agos â Hyfforddiant Cambrian i gyrraedd ein targedau,” meddai.

“Mae’r cwmni wedi ymrwymo i ddarparu swyddi ar gyfer pobl leol yn ardal Trefyclo. Rydyn ni’n buddsoddi yn eu dyfodol drwy roi cymwysterau iddyn nhw yn y sector bwyd a diod i’w helpu nhw a’n busnes ni i ddatblygu.

“Rydyn ni’n recriwtio ein gweithlu o fewn cylch o 30 milltir, ond mae’r rhan fwyaf o’n gweithwyr yn byw o fewn 10 milltir i’n safle. Rydyn ni’n hoffi rhoi cyfleoedd iddyn nhw dyfu gyda’r cwmni gan ddatblygu eu sgiliau trwy brentisiaethau ac mae hynny’n chwarae rhan bwysig o ran cadw staff.

“Rydyn ni wedi datblygu perthynas wych gyda Chris Jones yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian – un o’r bobl gyntaf i mi gwrdd â nhw pan ymunais i â Radnor Hills bum mlynedd yn ôl. Mae hyfforddi, datblygu a chadw ein staff yn gwbl allweddol i’n cynlluniau busnes ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Chris Jones, pennaeth uned fusnes bwyd a diod Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae Radnor Hills yn gyflogwr gwych, yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i weithwyr symud ymlaen o fewn y busnes ac maen nhw’n cael eu talu’n dda.

“Mae’r rhan fwyaf o’r tîm uwch-reolwyr wedi symud ymlaen drwy’r cwmni sy’n enwog am feithrin ei staff ei hun gyda help prentisiaethau.”

Sefydlwyd cwmni Radnor Hills gan William Watkins ar fferm y teulu yn Heartsease yn yr 1990au ac, erbyn hyn, mae’n cyflenwi llawer o gyfanwerthwyr mwyaf Prydain a nifer o gwmnïau archfarchnadoedd.

Os hoffech wybod mwy am y swyddi sydd ar gael, ewch i wefan Radnor Hills radnorhills.co.uk neu ffoniwch y rheolwr adnoddau dynol, Graham McCullough ar 01547 530220.

Hyfforddiant Cambrian

More News Articles

  —