Mary Richards yn rhoi cyflwyniad ar adnoddau digidol yng nghynhadledd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ar y 18fed o Fai fe wnaeth y Coleg Cymraeg gynnal ei cynhadledd genedlaethol gyntaf wyneb-yn-wyneb ar gyfer y sectorau addysg bellach, addysg uwch a phrentisiaethau yn y Cornerstone yng Nghaerdydd.
I’r rhai ohonoch wnaeth fynychu, diolch yn fawr iawn a gobeithio eich bod wedi mwynhau’r diwrnod.
Yn ystod y dydd, clywsom gan Gomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones ac amryw o arbenigwyr ac academyddion blaenllaw.
Roedd themâu’r dydd yn cynnwys technegau newid ymddygiad, pontio rhwng sectorau, cynllunio ieithyddol ac roedd cyfle i ni rannu adnoddau newydd gyda’r sectorau hefyd.
Yn y sesiwn oedd wedi’i theilwra ar gyfer y sector prentisiaethau, cyflwynodd Mary Richards Y Porth Adnoddau. Llyfrgell ar-lein y Coleg yw hwn ar gyfer adnoddau addysgu digidol Cymraeg a dwyieithog.
Cyflwynodd Sgiliaith eu hadnodd Pecyn Cefnogi Tiwtoriaid Addysg Bellach. Mae’r adnodd hwn wedi’i greu i gynorthwyo tiwtoriaid i feithrin eu sgiliau addysgu dwyieithog a chynyddu eu hymwybyddiaeth o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a’r set ddata LA26. Mae modd addasu’r pecyn hwn i fod yn berthnasol i’r sector prentisiaethau hefyd.
Roedd y gynhadledd yn gyfle i rwydweithio ac yn cynnig cyfleoedd i drafod a dysgu yn draws-sectorol a rhyngweithiol