Cyflwyno ‘Ffyniant drwy Bartneriaeth’ – cynllun tair-blynedd newydd ar gyfer cyflogaeth a sgiliau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Ar 21 Tachwedd 2022, yng Ngwesty Mercure, Casnewydd, cynhaliodd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd (PSPRC) gyfarfod llwyddiannus i lansio Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau newydd tair-blynedd.

Mae’r Cynllun yn adlewyrchu blaenoriaethau Rhaglen Lywodraethu 2021-26 a Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, ac mae wedi’i arwain gan PSPRC mewn cydweithrediad â diwydiant, darparwyr addysg a hyfforddiant a rhanddeiliaid allweddol. Bydd yr argymhellion a nodir yn y Cynllun yn helpu i lunio a llywio dull Llywodraeth Cymru o ariannu dysgu ôl-16, ac yn manylu ar sut y bydd camau gweithredu’n cefnogi Cynllun Diwydiannol ac Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) i gyflymu twf cynhwysol ledled y rhanbarth.

Trwy gyfrwng y Cynllun, nod PSPRC yw creu system sgiliau gynaliadwy sy’n seiliedig ar alw ac a fydd yn arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant a ffyniant ledled y rhanbarth. Yn ogystal, mae’r Cynllun wedi rhoi cyfle i PSPRC nodi eto’r sectorau allweddol ar gyfer yr economi ranbarthol, sef Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Adeiladu, Creadigol, Technoleg Ariannol a’r Economi Sylfaenol hollbwysig. Pennwyd y sectorau hyn fel rhai allweddol gan eu bod yn cyflogi niferoedd mawr o bobl, yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi ranbarthol, neu’n cyd-fynd â gweithgareddau clwstwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Ers lansio’r Cynllun, mae PSPRC wedi bod yn gweithio trwy ei grwpiau clwstwr i gynhyrchu Cynlluniau Gweithredu sector-benodol. Bydd y rhain yn helpu i lywio’r broses gyflenwi a chânt eu defnyddio fel mecanwaith i olrhain cynnydd yn erbyn gwahanol heriau a chyfleoedd. Os ydych yn gyflogwr sy’n gweithredu yn un o’r sectorau allweddol, a’ch bod yn awyddus i ymwneud mwy â gwaith PSPRC, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm.

Employment and Skills Plan – Saesneg yn unig
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —