Llysgennad Prentisiaethau’n gwireddu breuddwyd wrth weithio gydag anifeilaid

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Celyn Jones, prentis sydd wrth ei bodd yn gweithio gydag anifeiliaid.

Mae Celyn Jones wedi gwireddu breuddwyd wrth gwblhau Prentisiaeth Sylfaen yn gweithio gydag anifeiliaid ac adar gyda’r nod, yn y pen draw, o fod yn nyrs filfeddygol arbenigol.

Bydd Celyn, 17, o Aberystwyth, yn symud ymlaen i wneud Prentisiaeth mewn Nyrsio Milfeddygol – llwybr anifeiliaid bach, ar ôl llwyddo i gael swydd yn ddiweddar fel prentis nyrs filfeddygol gyda Milfeddygon Ystwyth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth.

Darparwyd ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gofal a Lles Anifeiliaid yn ddwyieithog gan Rowan Flindall-Shayle, sy’n gweithio ym maes gofal am anifeiliaid a hyfforddi ceffylau gyda Haddon Training.

Ar ôl ennill 12 TGAU yn Ysgol Penglais, Aberystwyth, roedd rhaid i Celyn benderfynu a oedd am fynd ymlaen i’r chweched dosbarth neu gadael a dechrau ar yrfa.

Pan gafodd gyfle i wneud Prentisiaeth Sylfaen mewn sŵ leol, sydd wedi cau erbyn hyn, roedd wrth ei bodd o gael cyfle i ennill cyflog wrth ddysgu, cael profiad ymarferol a datblygu sgiliau.

“Roeddwn i eisiau gweithio gydag anifeiliaid erioed ond heb feddwl am weithio mewn sŵ tan i fi ddechrau gwirfoddoli,” esboniodd Celyn. “Fy uchelgais yw bod yn filfeddyg neu’n nyrs filfeddygol arbenigol sy’n gweithio gydag anifeiliaid y mae arnyn nhw angen coesau prosthetig. Hoffwn i wneud Prentisiaeth Radd.

“Penderfynais i wneud prentisiaeth er mwyn dysgu sgiliau ymarferol a gwybodaeth oherwydd, yn y diwydiant hwn, mae profiad yn hollbwysig.”

Gan fod Celyn mor frwd dros brentisiaethau a’r iaith Gymraeg, cafodd ei phenodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

“Roeddwn i’n ceisio cynnwys cymaint o Gymraeg ag y gallwn i yn fy sgyrsiau wythnosol gyda fy nhiwtor,” meddai. “Oherwydd cyfnod cloi Covid-19, dydw i ddim wedi gallu gwneud llawer fel Llysgennad Prentisiaethau eto, ar wahân i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol ond rwy’n edrych ymlaen at hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog pan alla i wneud hynny.

“Yn fy marn i, mae’n bwysig iawn hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y Canolbarth a pherswadio rhagor o bobl ifanc i’w siarad.”

Mae Celyn yn awyddus i gael rhagor o brofiad o weithio gydag adar ysglyfaethus ac anifeiliaid wrth ddatblygu ei gyrfa ac ennill cymwysterau.

Rowan Flindall-Shayle a enwebodd Celyn i fod yn Llysgennad Prentisiaethau ac meddai: “Roedd Celyn yn ddysgwraig ifanc hyfryd i weithio gyda hi gan ei bod mor gydwybodol ac mor ymroddedig i’w gwaith ac i anifeiliaid. Roedd yn dysgu’n eithriadol o gyflym.”

“Mae mor braf dod ar draws person ifanc sy’n gwybod yn iawn beth mae eisiau ei wneud. Fe welais i gynnydd mawr yn ei hyder yn ystod ei phrentisiaeth.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —