Ffarm Ofal Clynfyw yn anelu at fod yn ddwyieithog

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae cwmni buddiannau cymunedol arobryn yn y gorllewin sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu a rhai sy’n gwella ar ôl anhwylder meddwl yn anelu at ddarparu gwasanaeth dwyieithog.

Manager and other standing by farm entrance

Cerys Fletcher a Gary Yeomans, Prentisiaid Uwch, gyda Jim Bowen, y cyfarwyddwr, ar Fferm Ofal Clynfyw.

Mae gan Ffarm Ofal Clynfyw yn Aber-cuch, ger Boncath, 40 o staff llawn-amser a rhan-amser sy’n cefnogi 10 o bobl sy’n byw mewn bythynnod gyda thenantiaeth â chymorth ac 20 o ddefnyddwyr gwasanaethau eraill o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Mae llawer o’r staff yn siarad Cymraeg yn rhugl ac eraill yn dysgu’r iaith.
Mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi cwblhau prentisiaethau er mwyn sicrhau bod ganddynt wybodaeth dda am ddeddfwriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Caiff prentisiaethau o Lefel 2 i Lefel 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, ac Arwain a Rheoli eu cyflenwi’n ddwyieithog, os yw’r prentisiaid yn dymuno hynny, gan PRP Training Ltd o Ddoc Penfro.

Ar hyn o bryd, mae gan y cwmni dri phrentis, yn cynnwys Cerys Fletcher sydd wedi ymuno â’r tîm rheoli ar ôl symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch Lefel 4 yn ddwyieithog mewn Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae Cerys yn dilyn yn ôl traed y rheolwr Sheila Morgan a wnaeth ei Phrentisiaeth Uwch Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli yn ddwyieithog hefyd.

“Mae prentisiaethau’n adnodd gwych. Mae’n bwysig bod ein holl staff yn deall y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hawliau pobl a’u bod yn cefnogi defnyddwyr ein gwasanaethau er mwyn cael y gorau ohonyn nhw,” meddai Sheila.

“Mae’r Gymraeg yn rhan o’n diwylliant ni. Er nad yw ein holl staff yn siarad Cymraeg, rydyn ni’n ymdrechu, os oes modd, i siarad â defnyddwyr y gwasanaethau yn eu dewis iaith.”

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cymeradwyo Ffarm Ofal Clynfyw am hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Mae Ffarm Ofal Clynfyw yn cynnig gwasanaethau dydd therapiwtig i bobl fregus a rhai sydd ar y cyrion, yn cynnwys rhai ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl, rhai sydd wedi dioddef trais domestig, pobl sy’n cael bywyd yn anodd ar ôl bod yn y lluoedd arfog a grwpiau eraill sydd wedi’u hallgáu.

Yn ogystal, mae’r cwmni’n hybu adfywio cymunedol gan ganolbwyntio ar gadernid yn wyneb yr argyfwng hinsawdd. Yn ogystal â chefnogi 10 o bobl sy’n byw ym Mythynnod Ffarm Clynfyw, mae’r cwmni’n rheoli canolfan adfer iechyd meddwl Kinora yn Aberteifi a’r Repair Cafe yng Nghrymych.

Yn 2019, enillodd y cwmni wobr y Prosiect Arallgyfeirio Gwledig Gorau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn y Gwobrau Busnes Gwledig ac yna cafodd un o Wobrau’r Frenhines am Fenter (Datblygu Cynaliadwy) yn 2020.

Mae Dirk Kowohl, arweinydd sicrhau ansawdd PRP Training Ltd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a llysgennad y Gymraeg yn y cwmni, yn llawn edmygedd at Ffarm Ofal Clynfyw.

“Mae’r cysylltiad rhwng staff a defnyddwyr gwasanaethau Clynfyw yn wych,” meddai. “Mae fel un teulu mawr. Mae ganddyn nhw agwedd unigryw a chynhwysfawr iawn at fywyd ac maen nhw’n rhoi cyfleoedd dysgu i’r staff a defnyddwyr y gwasanaethau. Mae eu holl waith yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr y gwasanaethau.”

Dywedodd Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog a gall hynny fod o gymorth mawr i gyflogwyr, yn enwedig wrth ddelio â chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

“Gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith. Mae hefyd yn gaffaeliad i’r cyflogwr.

“Mae Ffarm Ofal Clynfyw yn esiampl ardderchog ym maes prentisiaethau, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Dr Dafydd Trystan, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae tynnu sylw at gyflogwyr llwyddiannus sy’n ymwneud â phrentisiaethau yn ffordd ardderchog o ddangos i fusnesau ac unigolion bod cefnogi prentisiaethau dwyieithog yn bosibl ac yn fuddiol.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i gyflogwyr a’u gweithwyr ddatblygu eu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella rhagolygon eu busnes a’u cyfleoedd ym myd gwaith.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru neu ffoniwch 0800 028 4844.

More News Articles

  —