Cogydd dan hyfforddiant yn cymhwyso ar gyfer Rownd Derfynol Cenedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Bydd 2018 yn flwyddyn fythgofiadwy i fyfyriwr 19 oed dan hyfforddiant i fod yn gogydd sydd wedi ennill sawl gwobr ac wedi dychwelyd yn ddiweddar o gyfnod profiad gwaith mewn bwyty Michelin â seren. Ar hyn o bryd mae’n cefnogi tîm Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd Coginio yn Luxembourg.

Mae ganddo nawr reswm arall i ddathlu ar ôl cymhwyso ar gyfer rownd derfynol genedlaethol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Yn ddiweddar, enillodd Dalton Weir o Fochdre rownd ragarweiniol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru – Lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion. Mae’n astudio ar y cwrs Diploma City and Guilds Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Cafwyd dwy rownd ragarweiniol yng Nghymru, un yng Ngholeg Ceredigion a’r llall yng Ngholeg y Cymoedd, er mwyn i’r darpar gogyddion gael y cyfle i gymryd rhan yn y rownd derfynol genedlaethol. Roedd y pedwar gorau o bob rownd yn ennill safle yn y rownd derfynol a gaiff ei chynnal yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ym mis Ionawr 2019. Roedd rhaid i Dalton a’i gyd-gystadleuwyr goginio a gweini pryd tri chwrs mewn tair awr.

Cwrs cyntaf Dalton oedd lleden lefn, gyda ffesant fel prif gwrs. Yr uchafbwynt oedd y pwdin siocled ganache.

Yn ddiweddar, dychwelodd Dalton, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol John Bright, o gyfnod profiad gwaith gyda’r cogydd enwog Simon Hulstone yn ei fwyty The Elephant yn Torquay sydd â seren Michelin. Llwyddodd hefyd i ennill bwrsariaeth o £1000 gan Urdd Lifrai Cymru i dalu’r costau. Mae hefyd ar hyn o bryd yn cefnogi Tîm Coginio Cymru mewn cystadleuaeth goginio genedlaethol bwysig, sef cystadleuaeth Cwpan y Byd Coginio yn Luxembourg.

Dywedodd Dalton:
Mi ges i ychydig o broblemau cychwynnol ond mi ddois i’r hwyl o bethau reit sydyn. Mi oedd hi’n ddiwrnod prysur o gystadlu a ro’n i’n falch iawn o ennill a chymhwyso ar gyfer y rownd derfynol genedlaethol sy’n digwydd ar ôl y Nadolig.

Dywedodd Brian Hansen, un o diwtoriaid Dalton:
Rydym ni wrth ein bodd gyda llwyddiant Dalton. Mae cydnabyddiaeth mewn cystadlaethau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn wych i’n myfyrwyr ni i roi ar eu CV’s. Mae gweithgareddau allgyrsiol yn rhan o ethos y coleg. Rydyn ni i gyd yma yn y coleg yn cytuno bod dyfodol disglair iawn o’i flaen.

Mae Dalton wedi bod â diddordeb mewn coginio o oedran ifanc iawn, ar ôl dewis y pwnc yn yr ysgol. Mae ei restr o gyflawniadau cystadleuol ers cofrestru yn y coleg yn sylweddol. Mae wedi: ennill gwobr aur yn y categori ‘Bwyd Stryd’ ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru; cymhwyso ar gyfer rownd derfynol cystadleuaeth Cogydd Bwyd Môr Ifanc y Flwyddyn; cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Future Talents yn yr Iseldiroedd a bod yn rhan o dîm Cymru yng nghystadleuaeth Toque D’or yng ngwesty’r Dorchester yn Llundain.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n gyfres o ddigwyddiadau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru er mwyn dathlu sgiliau galwedigaethol ac yn rhan o’r gystadleuaeth fyd-eang WorldSkills. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o sgiliau yng Nghymru a chynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid Cymru brofi eu sgiliau a’u cymharu ag eraill a’u gwella trwy gystadlu mewn cystadlaethau lleol, mewn nifer o feysydd gwahanol.

Grŵp Llandrillo Menai news

More News Articles

  —