Hyfforddiant mewnol yn hwb mawr i dwf cwmni cyfreithwyr

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rheolwr gyfarwyddwr Convey Law, Lloyd Davies, gyda Sophia Ramzan sy’n diwtor prentisiaid a Sean McCarthy, prentis.

Mae gan Convey Law gynlluniau uchelgeisiol i dyfu hyd at 50% yn 2021 trwy Raglen Brentisiaethau fewnol ddyfeisgar a fydd yn hyfforddi dros 50 o drawsgludwyr newydd dros y flwyddyn nesaf.

Pan oedd y cwmni o Gasnewydd yn cael anhawster i recriwtio digon o drawsgludwyr ar gyfer twf y busnes, aeth ati i drawsnewid y system a chyflwyno cynllun prentisiaethau.

Gwelodd ei bod yn well hyfforddi ei weithwyr ei hunan yn y dulliau diweddaraf a’u helpu i ddatblygu mewn ffordd sy’n adlewyrchu gwerthoedd a dulliau gweithredu’r cwmni.

Sefydlwyd The Conveyancing Academy gan Convey Law yn 2014 i ddarparu cyrsiau i’r diwydiant trawsgludo yng Nghymru a Lloegr. Caiff prentisiaid wneud Prentisiaeth Trawsgludwr Gweithredol a Phrentisiaeth Uwch Technegydd Trawsgludo cyn cymhwyso yn Drawsgludwr Trwyddedig Rheoledig Lefel 6 wedi gweithio ym maes trawsgludo am dair neu bedair blynedd.

Oherwydd ymroddiad Convey Law i brentisiaethau, mae wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

“Rydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o bractisiau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr yn mabwysiadu ein Llwybr Trawsgludo ni dros y blynyddoedd nesaf. Bydd hynny’n hwyluso’r ffordd i filoedd o Drawsgludwyr Trwyddedig ifanc ennill cymwysterau proffesiynol,” meddai James Smith, rheolwr datblygu busnes yn The Conveyancing Academy, sydd â phartneriaeth gyllido â Choleg Caerdydd a’r Fro.

Mae penderfyniad Convey Law i fuddsoddi yn ei Raglen Brentisiaethau ei hunan wedi arwain at ganlyniadau ardderchog gyda sgoriau Trustpilot a dulliau eraill o fesur gwasnaeth i gleientiaid yn codi o 78% i 90%.

Bu’r rhaglen yn help i’r cwmni gyrraedd ei dargedau recriwtio gyda nifer y trawsgludwyr yn codi o 25 yn 2019 i 55 yn 2020. Dyblwyd nifer y prentisiaid o 15 i 30 mewn blwyddyn.

“Mae ein rhaglen Brentisiaethau wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i lwyddiant y busnes. Cawsom gyfle i dyfu’n gynt ac yn gynt wrth gynyddu nifer y trawsgludwyr cymwysedig ac felly gynyddu nifer yr achosion o drawsgludo eiddo cleientiaid y gallwn eu cymryd,” meddai Lloyd Davies, rheolwr gyfarwyddwr Convey Law.

“Mae llawer o’n prentisiaid yn newydd i’r diwydiant. Gyda’n rhaglen ni, mi allan nhw ddilyn llwybr gyrfa proffesiynol sy’n rhoi boddhad ac a all newid eu bywydau trwy wella’u rhagolygon am yrfa faith.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.
 
“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.
 
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
 
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —