Cwmni awyrofod yn gobeithio ennill gwobr arall

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Electroimpact UK’ manufacturing lead Matthew Booth with Vicky Barwis from Coleg Cambria and some of the company’s apprentices.

Arweinydd gweithgynhyrchu Electroimpact UK, Matthew Booth, gyda Vicky Barwis o Coleg Cambria a rhai o brentisiaid y cwmni.

Mae cwmni peirianyddol blaenllaw o’r gogledd sy’n dylunio ac yn cynhyrchu ar gyfer y diwydiant awyrofod yn gobeithio parhau â’i flwyddyn lwyddiannus trwy ennill gwobr arall am fuddsoddi mewn hyfforddiant.

Mae Electroimpact UK Ltd, o Benarlâg, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru.

Enillodd y cwmni wobr Hyfforddwr y Flwyddyn a Chyflogwr y Flwyddyn yng ngwobrau VQ Cymru yn yr haf ac fe gaiff wybod a fu’n llwyddiannus eto yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Wrth gael llif bychan ond cyson o brentisiaid, mae Electroimpact UK Ltd wedi llwyddo i dyfu. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi creu rhaglen brentisiaethau sy’n canolbwyntio ar ei adran beiriannau er mwyn meithrin doniau newydd a’u helpu i gyrraedd ei safonau uchel.

Ar hyn o bryd, mae ganddo bum prentis mewn gweithlu o 140. Mae prentisiaid y cwmni wedi cystadlu mewn cystadlaethau sgiliau o fri ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, yn cynnwys WorldSkills 2017 yn Abu Dhabi.

Dywedodd Matthew Booth, Arweinydd Gweithgynhyrchu gyda Electroimpact yn y DU: “O’r munud y mae prentisiaid yn dechrau gweithio gyda ni, rydym yn datblygu cynllun dysgu clir a thargedau pendant mewn cydweithrediad â Choleg Cambria.

“Gyda mentora un-i-un, rydym yn sicrhau bod prentisiaid yn cael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen i gyrraedd y targedau hynny a’u bod yn gallu datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau i’r safon a ddisgwylir gan y cwmni a’n cwsmeriaid.

Mae’r cwmni’n cynnig tri fframwaith prentisiaethau, yn cynnwys Prentisiaeth a Phrentisiaeth Uwch mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg ac, un a gyflwynwyd eleni, Crefft Feistr.

Mae’n cydweithio’n agos â’r darparwr dysgu, Coleg Cambria, i ddewis prentisiaid ac i gyflenwi hyfforddiant cadarn a thrwyadl.

Meddai Matthew: “O ganlyniad i’n rhaglen ni, mae ein gallu i weithgynhyrchu wedi cynyddu, ac rydym yn cynhyrchu peirianwyr gyda’r gorau yn y byd, sydd â’r sgiliau i helpu’r busnes i dyfu eto.”

Dywedodd Vicky Barwis o Coleg Cambria: “Mae Electroimpact yn batrwm ar gyfer busnesau bach sy’n cefnogi prentisiaid.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Electroimpact ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —