Cydnabod ymrwymiad Grŵp Bancio Lloyds i brentisiaethau

Postiwyd ar gan NTfW Admin

English | Cymraeg

Rheolwr Prentisiaethau Grŵp Bancio Lloyds yng Nghymru, Sharon Morgan, gyda rhai o’r prentisiaid, Anna Harvey, Niall Williams, Hannah Davies, Jamila Malik a Kyley Humphris-Rich.

Rheolwr Prentisiaethau Grŵp Bancio Lloyds yng Nghymru, Sharon Morgan, gyda rhai o’r prentisiaid, Anna Harvey, Niall Williams, Hannah Davies, Jamila Malik a Kyley Humphris-Rich.

Mae Grŵp Bancio Lloyds (LBG) wedi ymrwymo i gefnogi 8,000 o brentisiaethau ledled Prydain erbyn 2020 a dywed bod y nod hwn mewn golwg ar ôl iddo greu dros 700 yng Nghymru yn unig ers 2012.

Cred y grŵp bod prentisiaethau’n cael effaith sylweddol a mesuradwy ar y ffordd y mae’n hyfforddi pobl. Eleni, mae’r Grŵp yn disgwyl darparu 100 arall o gyfleoedd dysgu i’w weithwyr presennol ynghyd â gweithwyr newydd o bob rhan o Gymru, gan chwalu’r hen gred mai dim ond ar gyfer pobl ifanc mae prentisiaethau.

O ganlyniad i’w ymrwymiad i brentisiaethau, mae Grŵp Bancio Lloyds wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

“Yng Ngrŵp Bancio Lloyds, mae gennym brentisiaethau i bawb, beth bynnag eu cyflog, eu lleoliad, y man lle maent yn eu gyrfa neu eu patrwm gweithio,” meddai Sharon Morgan, Rheolwr Prentisiaethau – Cymru.

“Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi ailwampio rhaglenni prentisiaethau fel rhan o Adolygiad Strategol y Grŵp trwy bennu 10 o sgiliau allweddol fydd yn ein helpu i ddiwallu’r newid yn anghenion ein cwsmeriaid wrth i’r byd y tu allan i’r banc newid yn gyflym.

“Mae ein rhaglenni prentisiaethau’n gysylltiedig â’r sgiliau allweddol hyn er mwyn sicrhau eu bod yn helpu’n gweithwyr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiad angenrheidiol ar gyfer eu swyddi, yn awr ac i’r dyfodol.”

Eisoes, cafodd un rhan o dair o’r holl brentisiaid ddyrchafiad ac mae’r prentisiaid yn cymryd un rhan o dair yn llai o amser na’u cydweithwyr i ffwrdd yn sâl, gan golli llai o amser cynhyrchiol.

Ers 2017, mae LBG wedi meithrin perthynas agos â Choleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) gan ddatblygu a chyflenwi set o saith rhaglen ar gyfer staff yng Nghymru.

“Mae gan y Coleg dîm asesu ar safleoedd LBG ac mae hynny’n gwella profiad y prentisiaid trwy gynnig cymorth a chefnogaeth,“ meddai Sharon Lewis, Rheolwr Cyflenwi Prentisiaethau yn CAVC.

“Mae’r uwch reolwyr yn gefnogol iawn i’r prentisiaid. Maen nhw’n dod i’r sesiynau cynefino ac yn gosod targedau heriol i’r rheolwyr llinell er mwyn sicrhau bod eu prentisiaid yn symud ymlaen ac yn llwyddo.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, LBG a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —