Cyfle i Newid i geiswyr swyddi

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ch-Dd: David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru ei bod hi’n bwysig i’r rheini sy’n teimlo’n bryderus am y dyfodol gael y sicrwydd bod help ar gael a Y Gweinidog dros Ogledd Cymru, Ken Skates AS

Sefydliadau busnes, sgiliau a gyrfaoedd yng Ngogledd Cymru yn cefnogi gweithwyr sydd mewn perygl o golli eu swyddi yn sgil y pandemig Coronafeirws.

Mae Partneriaeth Sgiliau Gogledd Cymru, rhaglen Cymru’n Gweithio Llywodraeth Cymru, a gyflawnir gan Gyrfa Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogled Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi uno er mwyn darparu Cyfle i Newid i geiswyr swyddi.

Gyda miloedd o bobl ledled y wlad yn wynebu ansicrwydd neu’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’w rôl yn sgil yr argyfwng byd-eang hwn, eu nod yw helpu i’w cyfateb nhw â swyddi gwag hanfodol mewn sectorau eraill, ynghyd â chynnig hyfforddiant a chanllawiau ar-lein i staff sydd ar ffyrlo ac unrhyw un sy’n ystyried newid gyrfa.

Ar y cyd, maent yn darparu gwybodaeth glir i bobl – yn cynnwys bwletin gyda swyddi gwag newydd a gwasanaeth e-bost a gwe penodedig gyda chyngor a chyfarwyddyd a fydd yn hanfodol yn y misoedd sydd i ddod – yn neilltuol pan fydd y cyfyngiadau symud yn cael eu llacio a busnesau’n dechrau ailagor.

Gan weithio ochr yn ochr â chyflogwyr a chwmnïau recriwtio’r rhanbarth, mae’r sefydliadau’n canolbwyntio ar annog pobl i wneud cais am swyddi hanfodol mewn diwydiannau allweddol megis iechyd a gofal cymdeithasol, gwaith TG o bell, nyrsio, gweinyddiaeth, trafnidiaeth a logisteg a sectorau eraill lle’r adroddir bod galw.

Dywedodd y Gweinidog dros Ogledd Cymru, Ken Skates AS: “Mae hwn yn gyfnod o ansicrwydd mawr i nifer o bobl. Mae cyngor, cyfarwyddyd a hyfforddiant ar gael ac mae’n dda gweld y bartneriaeth yn gweithio ledled y Gogledd – drwy Cymru’n Gweithio a’r Ganolfan Byd Gwaith – gan ddwyn yr holl gyfleoedd hyn ynghyd.

“Mae hi’n bwysig amlygu’r ffaith nad yw pobl ar eu pennau eu hunain a bod cymorth ar gael i ddod o hyd i swyddi a chyfleoedd hyfforddiant a gyrfa newydd.”

Fe wnaeth y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd a Chadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ategu’r geiriau hyn, gan ddweud: “Mae’r ansicrwydd yn bryderus, felly, fel sefydliadau partner roeddem am greu proses syml i’w gwneud hi’n glir pa swyddi, hyfforddiant a theclynnau ar-lein sydd ar gael i gefnogi pobl dros yr wythnosau nesaf a thu hwnt.

“Mae swyddi hanfodol y mae angen eu llenwi ar unwaith – yn benodol mewn swyddi gweinyddol, logisteg a gofal iechyd – ac mae miloedd o weithwyr ledled y rhanbarth y gellid defnyddio’u sgiliau mewn diwydiannau eraill.

“Mae ein hymgyrch wedi’i anelu at fwy na’r bobl hynny sy’n ansicr am eu swyddi oherwydd y Coronafeirws yn unig. Efallai eich bod wedi bod yn ystyried ailhyfforddi yn barod, neu’n awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd.

“Mae’r neges yn glir; rydym ni eich hangen chi ac rydym ni yma i chi. Mae llwybrau y gallwch eu cymryd i mewn i gyflogaeth a chyfleoedd am ddechrau newydd. Mae’r wythnosau diwethaf wedi dangos i ni y bydd angen i ni feddwl yn wahanol yn y dyfodol a, pha mor anodd bynnag ydy hynny, mae’n rhaid i ni fod yn gadarnhaol.”

Mae’r DWP a Cymru’n Gweithio yn annog pobl i gysylltu â nhw fel y gallant weithio gyda recriwtwyr yn y Gogledd i adnabod pa ymgeiswyr fydd yn addas i ba rolau.

Un enghraifft ydy Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd angen staff gweinyddol ac Adnoddau Dynol.

Dywedodd David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru ei bod hi’n bwysig i’r rheini sy’n teimlo’n bryderus am y dyfodol gael y sicrwydd bod help ar gael.

“Mae’ch angen chi rwan yn fwy nag erioed. Mae ‘na ddiwydiannau allan yna sydd angen recriwtio, hyd yn oed yn yr adeg heriol yma,” meddai Mr Roberts.

“Yn y pendraw, os yw rhywun yn wynebu colli ei swydd, mae angen i ni ddarparu ffordd glir iddynt gael cyngor, i gael eu harwain yn y cyfeiriad iawn ac iddynt gael gwybod am ba gyfleoedd sydd allan yna.
“Gallai hynny fod yn sector gwahanol lle mae eu sgiliau yn werthfawr, y cyfle i ailhyfforddi neu gymryd rhan mewn gweithdai ar-lein ac ailsgilio.

“Fe ddown ni drwy hyn, ond mae angen i ni weithio gyda’n gilydd, felly mae’r ymgyrch hon yn galonogol a gobeithio y bydd yn cynnig help i bobl yn gyflym ac yn effeithiol pan fyddant ei angen fwyaf, sef rwan hyn.”

Os ydych chi’n chwilio am gyflogaeth, yn weithiwr ar ffyrlo sy’n bryderus am eich dyfodol, yn wynebu colli eich swydd neu’n syml yn ystyried newid gyrfa ac angen cyngor a chyfarwyddyd cyflogaeth, gallwch gysylltu â’r DWP a Gyrfa Cymru drwy’r gwasanaeth Cymru’n Gweithio, a gaiff ei gyflawni gan Gyrfa Cymru.

Anfonwch e-bost i’r DWP ar nmw.employmentteam@dwp.gov.uk neu ewch i www.gov.uk/chwilio-am-swydd.

Gallwch hefyd gefnogi’r ymgyrch ‘Be a Work Hero – Keep Britain Working’ yma: www.jobhelp.dwp.gov.uk a employerhelp.dwp.gov.uk neu cysylltwch â nhw ar Twitter @JCPyngNghymru

Er mwyn darganfod sut all Cymru’n Gweithio eich helpu chi, ewch i cymrungweithio.llyw.cymru er mwyn defnyddio’r cyfleuster sgwrsio ar y we, ffoniwch 0800 028 4844, e-bostiwch workingwales@careerswales.gov.wales neu cysylltwch â nhw drwy’r cyfryngau cymdeithasol @CymrunGweithio.

Dilynwch yr hashnodau #cyfleinewid, #newiddystori #swyddigogleddcymru #swyddicymru a #tîmgogleddcymru ar y cyfryngau cymdeithasol.

More News Articles

  —