Cyfle i Newid – Ffair Yrfaoedd Rithwir De-ddwyrain Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Er bod y cyfyngiadau’n dechrau cael eu codi yng Nghymru erbyn hyn, mae ffeiriau swyddi traddodiadol wyneb-yn-wyneb yn dal i gael eu gohirio neu eu canslo. Yn awr, fwy nag erioed, mae cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn dibynnu ar ddulliau ar-lein i ymwneud â dysgwyr a phobl sy’n chwilio am swyddi er mwyn llenwi swyddi gwag.

Er mwyn helpu i gysylltu’r grwpiau hyn, mae asiantaethau ledled de-ddwyrain Cymru wedi bod yn cydweithio i drefnu ffair yrfaoedd arall ar lein, i’w chynnal ddydd Mercher 24 Mawrth. Nod y digwyddiad yw helpu i sicrhau bod pobl sy’n byw yn ardaloedd Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, a Phen-y-bont ar Ogwr yn cael gwybod am gyfleoedd am waith a hyfforddiant.

Trefnir y digwyddiad ar-lein di-dâl gan Cymru’n Gweithio, a gyflwynir gan Gyrfa Cymru, mewn partneriaeth â thimau Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd a Canolfan Byd Gwaith yn y de-ddwyrain. Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), darparwyr dysgu seiliedig ar waith, awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion yn rhan o’r digwyddiad hefyd.

Yn y ffair yrfaoedd, bydd cyfle i ddysgu am lu o wahanol fathau o swyddi gwag mewn amryw o ddiwydiannau ledled y de-ddwyrain, yn cynnwys iechyd, gofal, adeiladu a’r sector greadigol. Yn ogystal, bydd gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddeiaethau a chynigir cyngor arbenigol ar yrfaoedd i helpu pobl i chwilio am waith.

Ar ôl llwyddiant y digwyddiad cyntaf, gobeithio y bydd yr ail yn help i bobl o’r ardal ddod i gysylltiad â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac asiantaethau ym maes cyflogaeth. Isod, mae dolen i ffurflen y gall cyfranwyr ei llenwi er mwyn cymryd rhan a rhoi sylw i ryw gyfle sydd ganddynt.

De-ddwyrain – smartsurvey.co.uk/s/opportunitySE

Sylwch, bydd angen i gyfranwyr lenwi’r ffurflen erbyn 12:00 dydd Gwener 12 Mawrth er mwyn sicrhau bod y cyfle sydd ganddynt yn cael ei hyrwyddo’n iawn yn y digwyddiad. Ymunwch â’r digwyddiad ar-lein yma.

Os hoffech wybod mwy am Cymru’n Gweithio, ewch i: cymrungweithio.llyw.cymru neu ffoniwch 0800 028 4844.

Os oes gennych gwestiwn am y datganiad hwn, cysylltwch â Caryn Grimes, Cydlynydd y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol, Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd: Caryn.grimes@newport.gov.uk neu ffôn 07854 034535.

cardiffcapitalregion.wales/cy/

More News Articles

  —