Cylchlythyr NTfW – Ebrill 2017

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg










Dechrau chwilio am sêr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017

Minister for Skills and Science Julie James tries her hand at being an electrician during her visit to Crimewatch Alarms Ltd and C W Electrical watched by directors Andrew Hutchins and Rachel Meese-Kendall and apprentices (from left) Ewan Maggs, Jacob Slater, Lewis Rowlands.

Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Julie James yn rhoi cynnig ar fod yn drydanwr ar ei hymweliad â Crimewatch Alarms Ltd and C W Electrical o dan lygaid barcud y cyfarwyddwyr Andrew Hutchins a Rachel Meese-Kendall a’r prentisiaid (o’r chwith) Ewan Maggs, Jacob Slater, Lewis Rowlands.

Mae Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru, Julie James, yn lansio’r ymgais i ddod o hyd i ddysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru trwy ymweld ag un o enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru y llynedd.

Dewiswyd Crimewatch Alarms Ltd and CW Electrical, trydanwyr ac arbenigwyr larymau diogelwch a thân, gan y Gweinidog i fod yn enghraifft ddisglair o’r hyn y gall busnes ei gyflawni trwy fuddsoddi mewn prentisiaethau er mwyn datblygu gweithlu medrus.

Ei gobaith yw y bydd llu o gwmnïau tebyg ledled Cymru’n ymgeisio eleni am y gwobrau pwysig a drefnir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Noddir y gwobrau gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae ffurflenni cais ar gael i’w lawrlwytho o wefan NTFW https://www.ntfw.org/wel/apprenticeships-awards-cymru/ ac mae’n rhaid eu cyflwyno erbyn ganol dydd ar 23 Mehefin, 2017. Darllen mwy >>>

Yn ôl i’r brig»

Sicrhau rhagoriaeth trwy ddatblygiad proffesiynol

Conference speakers (from left) Mark McDonough from Grŵp Llandrillo Menai, Kelly Edward, the NTfW’s head of work-based learning quality, Mark Evans, Her Majesty’s Inspector from Estyn, Sarah John, the NTfW’s chairman and Julie James, Minister for Skills and Science.

Y siaradwyr yn y gynhadledd (o’r chwith) Mark McDonough o Grŵp Llandrillo Menai, Kelly Edwards, pennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith NTfW, Mark Evans, Arolygydd Ei Mawrhydi o Estyn, Sarah John, cadeirydd NTfW a Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

Yn dilyn llwyddiant Cynhadledd Addysgu, Dysgu ac Asesu gyntaf NTfW: Cryfhau Sgiliau er mwyn Llwyddo, ym mis Mawrth 2017, cynhelir rhagor o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith o fis Medi 2017 ymlaen, gan gyrraedd uchafbwynt gydag ail gynhadledd Addysgu, Dysgu ac Asesu ym mis Mawrth 2018.

Mewn ymateb i adborth thematig gan Estyn, ac yn unol â Chynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru, bydd digwyddiadau hyfforddi NTfW yn cynnwys Rhoi Adborth Effeithiol i Ddysgwyr; Asesu er mwyn Dysgu; Cynllunio ar gyfer Dysgu; a Datblygu Dysgwyr ar Lefel Uwch. Bydd y digwyddiadau hyfforddi’n dal i ganolbwyntio ar gryfhau sgiliau er mwyn sicrhau arferion addysgu, dysgu ac asesu effeithiol fel y gellir gwella canlyniadau dysgu seiliedig ar waith. Byddant hefyd yn ceisio cyfrannu at strategaethau addysgeg er mwyn cyflenwi addysg alwedigaethol o safon uchel.

Darllen mwy >>>

Yn ôl i’r brig»

Tair merch ifanc yn nofio yn erbyn y llif wrth ddewis gyrfa

Lego challenge participants at IWD Cardiff event

Mae tair merch ifanc ddawnus yn herio stereoteipiau gyrfa trwy gychwyn ar brentisiaethau mewn diwydiannau lle mae merched yn tueddu i fod yn brin.

Mae Mair Thomas, 16 oed, o Lanfyrnach, yn hyfforddi i fod yn weldiwr/ffabrigwr; mae Brooklyn Lloyd-Evans, 18 oed, o Bontypridd, yn cychwyn ar yrfa yn y diwydiannau creadigol gydag ITV Cymru ac mae Sema Al-Attbi, 18 oed, yn anelu at yrfa gyda chwmni awyrennau Airbus ym Mrychdyn.

Merch ffarm yw Mair ac mae’n gweithio i CLH Trailers Ltd yn Sanclêr. Dydi hi ddim wedi edrych nôl ers iddi gael cynnig prentisiaeth sylfaen mewn ffabrigo/weldio trwy Goleg Sir Benfro.

Pan oedd yn 15 oed, bu’n gweithio ar benwythnosau fel ffabrigwr trelars ac fe gychwynnodd ar y brentisiaeth ar ôl i berchennog y cwmni, Andrew Noblett, sylwi ar ei brwdfrydedd a’i photensial.

Mae’r coleg wedi’i helpu trwy dalu am gludiant iddi fynd a dod o’i chartref. Mae hi wedi talu ei thiwtoriaid a’i chyflogwr yn ôl am eu ffydd ynddi trwy ymroi i ddysgu, ac mae wedi cael ymateb gwych.

Dechreuodd Brooklyn ei phrentisiaeth mewn creu a chynhyrchu ar gyfer y cyfryngau a chymorth gyda chrefftau gydag ITV Cymru ym mis Medi y llynedd, ar ôl cymryd rhan yng nghynllun hyfforddi ‘It’s My Shout’ gyda BBC Cymru.

A hithau wedi sicrhau prentisiaeth gyda Sgil Cymru, hi yw’r prentis cyntaf yn ei theulu. Dywedodd na chafodd y syniad o wneud prentisiaeth yn y cyfryngau ei drafod yn yr ysgol a bod yr athrawon yn synnu pan ddewisodd y llwybr hwnnw.

Mae’n mwynhau ennill cyflog wrth ddysgu ac mae’n sicr ei bod wedi gwneud y penderfyniad cywir. Mae’n edrych ymlaen at yrfa gyffrous.

“Ar ôl fy mhrofiad gydag ‘It’s my shout’, roeddwn yn bendant mai yn y diwydiant teledu roeddwn i eisiau gweithio,” meddai. “Rwy wedi teimlo’n hyderus erioed mewn gweithgareddau’n ymwneud â’r llwyfan a’r diwydiannau creadigol. Erbyn hyn, mae gennyf brentisiaeth wych gydag ITV ac rwy wrth fy modd yn fy ngwaith. Mae’r cyfleoedd yn ddi-ben-draw.”

Yn Sweden y ganwyd Sema Al Attbi ac mae o dras Arabaidd. Ei bwriad gwreiddiol oedd astudio fferylliaeth yn y brifysgol ar ôl cael graddau uchel yn ei harholiadau Lefel A.

Ond, roedd y syniad o fenthyciad myfyriwr mawr yn fwgan iddi ac fe benderfynodd ennill cyflog wrth ddysgu a chael tipyn o brofiad o fywyd ac annibyniaeth trwy ddilyn prentisiaeth mewn peirianneg/gweithgynhyrchu gydag Airbus. Erbyn hyn, mae’n astudio ar gyfer gradd trwy Goleg Cambria.

“Cefais fy magu i gredu mai meddygaeth oedd yr yrfa orau i helpu pobl ond, ar ôl cyfnod o brofiad gwaith, penderfynais y byddai prentisiaeth yn fy siwtio i’n well,” esboniodd. “A minnau’n ferch Arabaidd, mae’n beth anghyffredin yn fy niwylliant i.

“Mae Coleg Cambria yn lle cynhwysol iawn ac mae fy nheulu’n fy nghefnogi’n llwyr. Mae prentisiaeth Airbus yn rhoi mwy o ddewis i mi na chwrs prifysgol, gyda phrofiad ymarferol a chyflog.”

Cafodd y tair merch sylw gan NTfW ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth. Mae NTfW yn hybu manteision prentisiaethau i bobl o wahanol gefndiroedd diwylliannol a chymdeithasol ac mae’n awyddus i dynnu sylw at lwybrau gyrfa an-nhraddodiadol i ferched a dynion ifanc yn y sector dysgu seiliedig ar waith.

Yn ôl i’r brig»

Dathlu Sgiliau Dwyieithog yn y Gweithle

cyflogiaith-2017

Mae Hyrwyddwr Dwyieithrwydd NTfW yn gweithio’n agos gyda Sgiliaith a CholegauCymru i gyd-drefnu’r cynhadledd ‘Gŵyl Cyflogiaith’, a chynhelir at Gwersyll yr Urdd, Canolfan Mileniwm Caerdydd ar ddydd Iau 25 Mai 2017 rhwng 9:30yb a 3:00yh.

Nod y gynhadledd yw rhannu arferion da ar draws y sector ôl-16 yng Nghymru, ond hefyd mynd cam ymhellach wrth wahodd cyflogwyr lleol i siarad am eu hagweddau ac anghenion ynglŷn â sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Nad oes yna gost i fynychu’r gynhadledd sydd wedi ei anelu at Reolwyr ac Ymarferwyr Cymraeg a ddi-Gymraeg o du fewn i’r sector DSW; ond hoffai NTfW, ColegauCymru a Sgiliaith clywed gan gyflogwyr a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn trafod pwysigrwydd sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Cliciwch yma i gofrestru ar y gynhadledd.

Yn ôl i’r brig»

Ysbrydoli sgiliau a chyflymu dysgu

HAVE A GO, LLANELLI, 17/03/2016

Mae prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru wedi bod yn cynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru i archwilio llwybrau gyrfa, a gwella a datblygu eu sgiliau trwy ddulliau anarferol.

Hon yw trydedd flwyddyn y prosiect a ariannir gan Lywodraeth Cymru ac mae’n annog dysgwyr o bob rhan o Gymru i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau er mwyn dangos eu gallu i ragori.

Mae cystadlaethau sgiliau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid herio, meincnodi a gwella eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar draws nifer o sectorau.

Yn ddiweddar, mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru wedi ehangu i gefnogi cynllun Rhowch Gynnig Arni, a ariannir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i ddisgyblion ledled Cymru gael blas ar wahanol yrfaoedd trwy ddefnyddio offer uwchdechnolegol. Nod y cynllun yw annog mwy o ymgysylltu gyda phobl ifanc mewn ysgolion a chodi ymwybyddiaeth o lwybrau gyrfa a fydd yn rhoi hwb i fusnesau yng Nghymru.

Mae ein partneriaid yn cydweithio ac yn trefnu digwyddiadau mewn ysgolion, gan annog dysgwyr i feddwl am eu dyfodol.
I gael gwybod sut y gallech gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau yng Nghymru ewch i http://worldskillswales.org/cy/ neu, ar gyfer y cynllun Rhowch Gynnig Arni, ewch i http://www.haveagowales.co.uk/hafan

Yn ôl i’r brig»

Llythrennedd Digidol – Creadigrwydd

digial-literacy-image

Dyma’r pedwerydd mewn cyfres o bum digwyddiad hyfforddi y bydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn eu trefnu ym maes Llythrennedd Digidol. Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau 11 Mai 2017 yn Ocean Park House, East Tyndall Street, Caerdydd, CF24 5ET.

Anelir y cwrs at diwtoriaid, hyfforddwyr ac aseswyr sy’n awyddus i gyflwyno Llythrennedd Digidol i’w harlwy. Gall y rhai sy’n cymryd rhan fod yn gyfrifol hefyd am gyflwyno cymwysterau Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol (EDLS), Mynediad 3 a Lefel 1. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i roi cynnig ar ddyfeisiadau digidol, cydweithio a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol bwrpasol. Bydd cyfle hefyd i ennill achrediad Lefel 2 mewn Creadigrwydd Digidol gyda Sgiliau Hanfodol ar gyfer Gwaith a Bywyd (EsfWL), Agored Cymru.

Cost:
Aelodau NTfW £78.00; eraill £178.00, bydd hyn yn cynnwys paneidiau a chinio.

Achrediad:
Creadigrwydd Digidol Lefel 2, Sgiliau Hanfodol ar gyfer Gwaith a Bywyd, Agored Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn talu cost yr achredu fel rhan o’r Cynllun Gwella Ansawdd.
Cadwch eich lle heddiw >>>

Yn ôl i’r brig»

Sicrhau’r sylw mwyaf i’ch sefydliad a dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o weithwyr yng Nghymru

skills-cymru

SgiliauCymru yw’r gyfres fwyaf o ddigwyddiadau ym maes gyrfaoedd, swyddi, sgiliau a phrentisiaethau yng Nghymru. Fe’i cynhelir yng Nghaerdydd a Llandudno, gan ddenu hyd at 10,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Yn ogystal â bod yn ffordd wych o gyrraedd pobl ifanc a’u teuluoedd, mae SgiliauCymru’n ffordd ardderchog o hyrwyddo’ch sefydliad wrth gynulleidfaoedd allweddol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol – a hynny am ddim! Cafodd SgiliauCymru 2016 37 o ddarnau o sylw yn y wasg a’r cyfryngau rhanbarthol a chenedlaethol, yn cynnwys sylw i arddangoswyr unigol a darllediad ar ‘Made in Cardiff’!

Darllenwch beth ddywedodd ein harddangoswyr …

Yn ôl i’r brig»

Newyddion gan y Rhanbarthau

Yn ôl i’r brig»

Cwmni Educ8 yn cyrraedd y Times Top 100 am y 3edd flwyddyn

Educ8

Rydym wrth ein bodd o gael cyhoeddi ein bod wedi’n cynnwys yn rhestr y ‘Times Top 100 Small Companies to Work For’ am y drydedd flwyddyn. Ar ôl i Best Companies, sy’n arbenigo ym maes ymgysylltu yn y gweithle, roi tair seren i ni, yn arwydd o ‘lefelau ymgysylltu eithriadol ymhlith ein gweithwyr’, cyhoeddwyd neithiwr mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Chelsea, Llundain, ein bod yn y chweched safle yn rhestr anrhydedd y Times 100. Mae hyn yn gamp enfawr o gofio ein bod bron wedi dyblu mewn maint dros y 18 mis diwethaf ac mae’n arwydd o’r diwylliant anhygoel rydym wedi’i feithrin yng Ngrŵp Educ8. Hwrê i ni!!

Y tro hwn, canmolodd Best Companies y gwaith rydym yn ei wneud i dalu ’nôl i’n cymunedau lleol a’r gweithgareddau rydym yn eu trefnu i godi arian at achosion da. Roeddent hefyd yn canmol y ffordd rydym yn rhannu gwybodaeth trwy’r sefydliad cyfan a’r ffordd rydym yn gwerthfawrogi ac yn gofalu am ein hased bwysicaf – ein Pobl!

Mae pawb ohonom y falch iawn ein bod yn cael cydnabyddiaeth am greu amgylchedd gweithio mor dda a neb fwy felly na’n Prif Weithredwr, Colin Tucker. “Mae’r wobr hon yn glod arbennig i bob aelod o dîm Educ8. Mae Grant a minnau’n eithriadol o falch o bob un ohonoach – ni fyddai dim o hyn yn bosibl hebddoch chi – diolch i bawb!’ Darllenwch mwy >>>

Yn ôl i’r brig»

Coleg milwrol yn ennill gwobr addysg genedlaethol o fri

MPTC
Mae rhwydwaith arbenigol o golegau paratoi milwrol wedi’i enwi’n “Ddarparwr Hyfforddiant y Flwyddyn” yn un o brif wobrau’r Deyrnas Unedig ym maes addysg bellach.

Mae grŵp Motivational Preparation College for Training (MPCT), sy’n helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau bywyd, hunanhyder a ffitrwydd corfforol trwy ‘ddysgu gweithredol’, wedi ennill y brif wobr yng Ngwobrau Addyg Bellach y Times Education Supplement (TES) 2017.

Gwnaed y cyflwyniad mewn seremoni wobrwyo yn y Grosvenor House Hotel, Park Lane, Llundain o dan arweiniad y comedïwr Rob Beckett nos Wener 24 Chwefror. Roedd MPCT yn un o wyth darparwr hyfforddiant a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y wobr fawr.

Yn ogystal, tua’r un pryd, enillodd MPCT le ar restr The Sunday Times, Best 100 Small Companies To Work For.
Yn y cyfamser, mae data newydd gan yr Adran Addysg wedi dangos bod rhwydwaith MPCT o Golegau Paratoi Milwrol yn rhagori ar golegau chweched dosbarth eraill o ran cymwysterau ar gyfer cyflogadwyedd a pharatoi ar gyfer gwaith a bywyd.

Yn ôl y Cyfraddau Cyflawni diweddaraf a gyhoeddwyd yn ddiweddar, enillodd 93.1% o ddysgwyr MPCT Ddyfarniad mewn Sgiliau Cyflogadwyedd (o’i gymharu â chyfradd o 88.8% trwy’r DU), a chafodd 98% o’r dysgwyr Dystysgrif mewn Cyflogadwyedd (o’i gymharu ag 83.4% trwy’r DU). Mae hefyd yn dangos bod 82.4% o ddysgwyr MPCT yn barod ar gyfer bywyd a gwaith, o’i gymharu â 66.4% trwy’r DU. Yn ogystal, mae’r coleg wedi helpu 74.6% o’i bobl ifanc i ddysgu sgiliau sylfaenol mewn Mathemateg a Saesneg, sydd lawer yn uwch na’r cyfartaledd trwy’r DU o 54.8%. Darllenwch mwy >>>

Yn ôl i’r brig»

Gwobr Prentisiaeth Uwch yn y Semta Skills Awards

Ethan-Davies-767x1079
Enwyd Ethan Davies, myfyriwr yng Ngholeg Cambria, yn Brentis Uwch y Flwyddyn trwy’r Deyrnas Unedig gyfan yng nghinio mawreddog y Semta Skills Awards 2017 yng Ngwesty’r Hilton, Llundain.

Llwyddodd y peiriannydd talentog Ethan, sy’n 21-mlwydd oed ac sy’n dod o Fynydd Isa, Sir y Fflint, i guro cystadleuwyr cryf eraill i ennill y wobr bwysig hon, a gafodd ei noddi gan Rolls-Royce.

Enillodd Ethan, sy’n cael ei gyflogi gan Electroimpact, o Manor Lane, Penarlâg fel prentis peiriannwr peiriant a Reolir yn Rhifol gan Gyfrifiadur, Fedal Ragoriaeth mewn Melino CNC yng nghystadleuaeth EuroSkills yn Sweden yn ddiweddar.

Dywedodd Ethan, a dderbyniodd ei wobr yng nghinio mawreddog Gwobrau Sgiliau Semta 2017 yng Ngwesty’r Hilton yn Llundain dan arweiniad y cyflwynydd BBC Alexander Armstrong:

“Roedd ennill y wobr hon yn fraint, ac mae’n dangos os ydych yn gweithio yn galed, gallwch gyflawni eich breuddwydion. Mae hi wedi bod yn ychydig o flynyddoedd anhygoel i mi ac rwy’n edrych ymlaen at yr hyd sydd gan y dyfodol i’w gynnig.” Darllenwch mwy >>>

Yn ôl i’r brig»

Cyflogwyr yn arwain y ffordd ar gyfer Partneriaeth Ddysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru

Mae Partneriaeth Ddysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru yn symud tuag at ddod yn bartneriaeth o dan arweiniad cyflogwyr ac felly mae ein hawydd i ymgysylltu mwy â chyflogwyr wedi arwain at greu chwe grŵp clwstwr ar gyfer gwahanol ddiwydiannau a grŵp rhanbarthol Canolbarth Cymru. Bydd y grwpiau clwstwr hyn yn hanfodol i waith y Bartneriaeth yn y dyfodol rhagweladwy wrth i ni ymdrechu i ganfod llais cyflogwyr allweddol yn y rhanbarth er mwyn llunio Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol.
O ystyried y sectorau y penderfynwyd bod iddynt flaenoriaeth uchel yn rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru, dyma’r chwe grŵp:

  • Deunyddiau Uwch, Gweithgynhyrchu ac Ynni
  • Bwyd, Ffermio a’r Amgylchedd
  • Gwasanaethau Creadigol, Proffesiynol a TGCh
  • Twristiaeth, Hamdden a Manwerthu
  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwyddorau Bywyd
  • Adeiladu
  • Grŵp clwstwr rhanbarthol yn llais i holl ddiwydiannau Canolbarth Cymru

Sefydlwyd y grwpiau clwstwr er mwyn cael barn gynrychioliadol, gredadwy a chyfunol cyflogwyr o’r holl sectorau. Etholir cadeirydd o bob un o’r grwpiau clwstwr i fod ar fwrdd y Bartneriaeth lle bydd busnesau, darparwyr, ardaloedd menter ac ardaloedd economaidd yn cydweithio i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus a chynaliadwy i Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru.

I lenwi arolwg cyflogwyr y Bartneriaeth, cliciwch yma

Miloedd o fyfyrwyr yn cael cipolwg ar ‘Golwg ar Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru’

Mae’r Bartneriaeth Ddysgu a Sgiliau Ranbarthol a Gyrfa Cymru wedi cydweithio i ddatblygu adnodd newydd cyffrous o’r enw ‘Golwg ar Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru’.

Dyma offeryn arloesol sydd wedi cael ei greu i dynnu sylw at y cyfleoedd gwaith sydd ar gael ar draws y rhanbarth i bobl ifanc sydd ar fin gadael yr ysgol.

Cynhyrchwyd fideo byr i gyd-fynd â’r adnodd gan dynnu sylw at y prosiectau seilwaith allweddol y bwriedir eu datblygu yn ne-orllewin a chanolbarth Cymru. Bydd gwylwyr yn gweld cyflogwyr allweddol a chynrychiolwyr diwydiant yn dangos y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yn y rhanbarth. Darllenwch mwy >>>

Yn ôl i’r brig»

Dyddiadau i’ch Dyddiadur

8 Mai 2017
Siarad yn Broffesiynol 2017, Neuadd y Ddinas, Caerdydd

11 Mai 2017
Digital Literacy – Creativity, Ocean Park House, East Tyndall Street, Caerdydd

25 Mai 2017
Cynhadledd Gŵyl Cyflogiaith, Gwersyll yr Urdd, Bae Caerdydd

29 Mai – 3 Mehefin 2017
Eisteddfod yr Urdd, Mhen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elá

7 Mehefin 2017
Diwrnod VQ

27 Mehefin 2017
Gypsy Roma Traveller History Month, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

28 Mehefin 2017
RNIB – Employers with Vision Conference, Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd

29 Mehefin 2017
Cynhadledd Flynyddol NTfW, Stadiwm Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Lecwydd, Caerdydd

3 – 9 Gorffennaf 2017
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

24-27 Gorffennaf 2016
Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd

28-30 Gorffennaf 2016
Gwyl y Caws Mawr, Caerffili

4 – 12 Awst 2017
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bodedern, Ynys Mon

4 – 5 Hydref 2017
SkillsCymru, Llandudno

11 – 12 Hydref 2017
Skills Cymru, Caerdydd

20 Hydref 2017
Gwobrau Prentisiaethau Cymru, Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd

16-18 Tachwedd 2017
The Skills Show, NEC, Birmingham

I gael gwybod rhagor am yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill yng Nghymru, ewch i’r wefan hon: http://www.visitwales.com/things-to-do/whats-on

Yn ôl i’r brig»

Geiriau Cymraeg ar gyfer Gwanwyn

[TABLE=19]
Dilynwch @yrawrgymraeg ar drydar ar gyfer ‘Yr Awr Gymraeg’. Ymunwch a’r drafodaeth bob nos Fercher rhwng 8yh a 9yh wrth ddefnyddio #yagym

Yn ôl i’r brig»

More News Articles

  —