Cynhadledd yn gyfle i ddatgelu dyfodol y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Email-Signature-480 image

English | Cymraeg

Bydd arweinwyr y maes a rheolwyr dysgu seiliedig ar waith o bob rhan o Gymru’n dod ynghyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd fis nesaf i ganfod beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig iddynt wrth iddynt ymdrechu i sicrhau gweithlu hynod fedrus er budd economi Cymru.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) wedi dewis ‘Adeiladu economi hynod fedrus ar syllfeini cadarn’ yn thema i’w gynhadledd flynyddol ar 28 Mehefin.

Mae’r NTfW yn cynrychioli dros gant o sefydliadau sy’n ymwneud â dysgu yn y gweithle, o ddarparwyr hyfforddiant bach arbenigol i sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd ag awdurdodau lleol, Sefydliadau Addysg Bellach ac elusennau.

“Mewn blwyddyn pan fynegodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i adeiladu economi gref trwy gyflenwi sgiliau lefel uwch ac, ar yr un pryd, roi pwyslais o’r newydd ar ‘yr economi sylfaenol’, ni fu erioed yn bwysicach darparu dysgu seiliedig ar waith, a hwnnw o safon uchel, yng Nghymru,” meddai Sarah John, cadeirydd NTfW.

“Mae’r sector dysgu seiliedig ar waith yn sôn llawer ar yr hyn allai ddigwydd yn y dyfodol ac mae’r gynhadledd flynyddol yn gyfle gwych i bawb drafod yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau ffyniant i bawb.”

Bydd y cynadleddwyr yn awyddus i ddysgu beth fydd gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, i’w ddweud am gynlluniau Llywodraeth Cymru.

Un arall o’r siaradwyr fydd Huw Morris, cyfarwyddwr sgiliau, addysg uwch a dysgu gydol oes gyda Llywodraeth Cymru, a fydd yn sôn am sicrhau cyflogadwyedd a sgiliau sy’n sicrhau ffyniant i bawb.

Bydd yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion yn siarad am adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer twf economaidd a bydd cynrychiolwyr cyflogwyr yn cyflwyno’u safbwynt nhw ar brentisiaethau yng Nghymru.

Cynhelir cyfres o weithdai trwy gydol y dydd i drafod materion sy’n arbennig o berthnasol i’r sector dysgu seiliedig ar waith.

Bydd y gweithdai’n mynd i’r afael â Hynt y Cynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau, deall y Cynllun Gweithredu Cyflogadwyedd, rôl Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yng nghyd-destun y Dinas Ranbarthau a cheisiadau am arian o’r Gronfa Twf Rhanbarthol, datblygiad Prentisiaethau Gradd ac addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru a gweithredu cadarnhaol er mwyn ehangu mynediad i’r Rhaglen Brentisiaethau.

Ymhlith y pynciau eraill fydd adolygiad o 12 mis cyntaf y broses o gofrestru ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC), ‘Gyrfa Cymru – symud y tu hwnt i’r Weledigaeth’ a chanfyddiadau cychwynnol allweddol trefniadau arolygu newydd Estyn.

Bydd cyflwynwyr y gweithdai’n cynnwys Iwan Thomas, Jane Lewis a Karen Higgins sy’n rheolwyr Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, yr Athro Chantal Davies, Athro’r Gyfraith, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Prifysgol Caer, Hayden Llewellyn, prif weithredwr yr EWC, Mandy Ifans, pennaeth cyngor cyflogaeth gyda Gyrfa Cymru, Dr Neil Surman, dirprwy gyfarwyddwr addysg uwch gyda Llywodraeth Cymru, Arolygwr Ei Mawrhydi gydg Estyn, Mark Evans, Angela West, rheolwr cyflogadwyedd a sgiliau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymwysterau Galwedigaethol, Cymwysterau Cymru ac Edwyn Williams, pennaeth ymgysylltu cyflogadwyedd gyda Llywodraeth Cymru.

Gellir prynu tocynnau ar gyfer y gynhadledd trwy fynd i https://www.ntfw.org/wel/cynhadledd-ntfw/ffurflen-i-gadw-lle-a-rhaglen/ ac mae nifer o ostyngiadau os ydych yn cadw lle cyn 31 Mai.

More News Articles

  —