Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn brysur yn cwblhau fersiwn 2019 o’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Eleni, gwelir newid sylweddol yn y sefyllfa wleidyddol ac economaidd ac felly mae’n hollbwysig sicrhau bod y sgiliau cywir gennym yn y rhanbarth.

Er mwyn creu cynllun cynrychioliadol, mae ar y Bartneriaeth angen barn cyflogwyr a chynrychiolwyr diwydiant fel y gellir sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu seilio ar y galw ac ar dystiolaeth. Felly rydym yn annog pob busnes i lenwi’r arolwg ac i chwarae rhan yn newid tirwedd sgiliau’r rhanbarth er gwell.

Cyflwynir y cynllun i Lywodraeth Cymru ddiwedd Gorffennaf ar ôl cyfnod o ymgynghori helaeth a ddaw i ben ar 31 Mai. Cewch ddweud eich dweud yma.

PDSR 2019 Arolwg Cyflogwr

Gwahoddir enwebiadau am Gadeirydd newydd i Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru

Mae cyfle cyffrous wedi codi i benodi cadeirydd ar gyfer y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, sef partneriaeth sy’n hybu newid ym maes sgiliau ledled de-orllewin a chanolbarth Cymru. Y bwriad yw penodi ymgeisydd brwdfrydig o’r sector preifat i gynrychioli cyflogwyr o bob rhan o’r rhanbarth yng nghyfarfodydd y Bartneriaeth.

Oes gennych chi ddiddordeb? Rhagor o fanylion yma.

www.rlp.org.uk

More News Articles

  —