Cynllunio Dyfeisgar ar gyfer Asesu

English | Cymraeg

Dim ond ar gyfer aelodau NTfW mae’r digwyddiad hwn ar gael

Dyddiad a Lleoliad

20 Tachwedd 2017 – Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau, Llandrindod

Amser:

10.00am – 4.00pm

Cost:

£45.00 (a fydd yn cynnwys paneidiau a chinio)

Trefnwch Heddiw


Gall fod yn her cynllunio asesiad ar gyfer unigolyn a’i anghenion, gyda holl gyfrifoldebau bod yn asesydd dysgu seiliedig ar waith.

Bydd y gweithdy hwn yn ystyried pwysigrwydd sicrhau bod y gwaith o gynllunio asesiadau yn cael ei deilwria fwy i ddysgwyr unigol, gan gymryd gwahaniaethau i ystyriaeth ynghyd â sut i rymuso ein dysgwyr i ffynnu pan fyddwn yn eu hymestyn ac yn eu herio.

Ar gyfer pwy mae’r gweithdy hwn yn addas?

Mae’r gweithdy undydd hwn wedi’i anelu at aseswyr sy’n asesu eu dysgwyr yn y gweithle.

Deilliannau Dysgu:

Erbyn diwedd y dydd, bydd y rhai sy’n bresennol wedi cael cyfle i:

  • weld yr effaith y mae cynllunio asesiadau’n effeithiol yn gallu ei chael ar y broses ddysgu
  • gweld pwysigrwydd cynnwys y dysgwr wrth gynllunio’r asesiad
  • gwel prif fanteision cynllunio ar gyfer asesiad holistig
  • rhoi cynnig ar wahanol ddulliau cynllunio y gellir eu haddasu a’u defnyddio mewn gwaith bob-dydd
  • ystyried sut y gall cynllunio’n effeithiol ar gyfer asesiad ymestyn a herio dysgwyr i gyflawni eu potensial

Ros Protheroe Portrait

Ros Protheroe

Cyfarwyddwr, Panda Education and Training

Bu Ros yn gweithio yn y sector Dysgu Seiliedig ar Waith ers 17 mlynedd. Dechreuodd fel tiwtor TG yn helpu oedolion yn ôl i’r gweithle ac enillodd ei TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yn 2005. Ers hynny bu mewn swyddi fel Hyfforddwr TG Arweiniol, Dilysydd Mewnol, Rheolwr Ansawdd ac Uwch Reolwr Ansawdd. Am dair blynedd hyd at fis Awst y llynedd, bu’n Rheolwr Dysgu a Datblygu Staff, yn darparu ac yn cydlynu gweithgareddau datblygu ar gyfer dros 300 o staff, gan ganolbwyntio ar addysgu a dysgu creadigol a dyfeisgar.

Ym mis Awst y llynedd, lansiodd Ros Panda Education & Training gyda’i phartner busnes a’i chyn-gydweithwraig, Rachel Arnold.

Y prif beth sy’n gyrru Ros yw sicrhau bod addysgwyr galwedigaethol yn cael y cymorth iawn i gynnig yr hyfforddiant gorau, mwyaf dyfeisgar a chreadigol sy’n bosib. Ar hyn o bryd mae’n gwneud gradd Meistr mewn Addysg, gan ymchwilio i effaith arsylwi ar ansawdd dysgu.

Rachel Arnold Portrait

Rachel Arnold

Cyfarwyddwr, Panda Education and Training

Bu Rachel Arnold yn gweithio ym maes Dysgu Seiliedig ar Waith ers 17 mlynedd. Dechreuodd fel Asesydd a Thiwtor ar raglenni prentisiaethau a chyflogadwyedd.

Yn 2002, symudodd Rachel ymlaen i reoli tîm bach o aseswyr a thiwtoriaid. Trwy ganolbwyntio ar safon y cyflenwi er mwyn sicrhau canlyniadau da i’r dysgwyr, yn 2007 daeth yn Gyfarwyddwr Datblygu Ansawdd. Bu Rachel yn gyfrifol am reoli ansawdd, y cwricwlwm a datblygu staff am 9 mlynedd. Erbyn hyn, mae Rachel yn Gyfarwyddwr gyda Panda Education & Training ac mae’n credu’n angerddol mewn datblygu sgiliau galwedigaethol.

Yn ddiweddar, penodwyd hi’n Bencampwr y sector TG a Menter a’r Cyfryngau Creadigol yng Nghymru fel rhan o’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.

Cysylltwch ag info@ntfw.org neu ffonio 029 20495 861 i gael gwybod rhagor.

Telerau ac Amodau

wg-logo