Daeth yn bryd ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru 2019

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cynhelir y noson wobrwyo fawreddog nos Iau 24 Hydref 2019 yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol newydd, Casnewydd pryd y bydd cyfle i ddathlu llwyddiant eithriadol unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sydd wedi rhagori yn eu cyfraniad at ddatblygu ein rhaglen Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Rhaid i’r ffurflenni cais wedi’u llenwi ddod i law erbyn 12 hanner dydd, ddydd Gwener 3 Mai 2019.

Categorïau’r Gwobrau:

Hyfforddeiaethau – Dysgwr

  • Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu)
  • Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1)

Prentisiaethau – Dysgwr

  • Prentis Sylfaen y Flwyddyn
  • Prentis y Flwyddyn
  • Prentis Uwch y Flwyddyn

Doniau’r Dyfodol

  • Doniau’r Dyfodol

Prentisiaethau – Cyflogwr

  • Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1 – 49)
  • Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50 – 249)
  • Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 – 4999)
  • Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5000+)

Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith

  • Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith

Ymgeisiwch nawr!

Pecynnau nawdd

Cynigir pecynnau nawdd ar sawl lefel. Po gyntaf y gwnewch y trefniadau, mwyaf o gyfleoedd a gewch. Mae nifer o sefydliadau yn noddi o flwyddyn i flwyddyn — heb i ni ofyn!

Mae llawer o fanteision i gyflwyno cais i noddi yn fuan. Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod pob noddwr yn cael yr holl fanteision, nifer gyfyngedig o noddwyr fydd yn cael rhai manteision fel cyflwyno gwobr; cael eich logo ar glawr blaen llyfryn y Gwobrau, Bwydlen y Cinio neu’r matiau gwydrau ar y bwrdd, neu gyflwyno’r adloniant. Os cyflwynwch eich cais i noddi yn fuan, bydd gennych well cyfle o lawer o gael lle amlwg a chael eich cynnwys yn yr holl ddeunyddiau hyrwyddo sy’n ymwneud â’r Gwobrau.

Pecynnau Nawdd 2019

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau ledled Cymru.

 

 

 

 

 

 

More News Articles

  —