Diagnosis o ddyslecsia’n trawsnewid bywyd Melanie, y Prentis Uwch

Postiwyd ar gan NTfW Admin

English | Cymraeg

Melanie Davis gyda Tina Jones (ar y dde) o Busnes@LlandrilloMenai a Libby Duo (chwith), Rheolwr Cymunedau am Waith, Conwy.    Cafodd Melanie Davis “daith ddysgu ryfeddol”.

Melanie Davis gyda Tina Jones (ar y dde) o Busnes@LlandrilloMenai a Libby Duo (chwith), Rheolwr Cymunedau am Waith, Conwy.

Cafodd Melanie Davis “daith ddysgu ryfeddol”.

Roedd diagnosis o ddyslecsia yn fan cychwyn ar gyfer “taith ddysgu ryfeddol” a welodd Melanie Davis yn cwblhau Prentisiaeth Uwch mewn Gwasanaethau Cyflogaeth ac yn gallu gwneud gwell cyfraniad at ei gwaith.

Mae Melanie, 56 oed, o Fetws-y-coed, yn gweithio i raglen Cymunedau am Waith Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n helpu pobl i fagu hyder a gwella’u rhagolygon am waith er bod gan lawer ohonynt rwystrau cymhleth yn eu hatal rhag gweithio.

Cyn gwneud y Brentisiaeth Uwch gyda Busnes@LlandrilloMenai, roedd wedi osgoi cymwysterau academaidd. Fodd bynnag, newidiodd hynny pan drefnodd ei thiwtor, Tina Jones, asesiad a gadarnhaodd bod dyslecsia ar Melanie.

“Dyna pryd y dechreuodd fy nhaith ryfeddol o ddysgu,” esboniodd Melanie, a gafodd hwb i’w hyder trwy gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol a Diploma Lefel 4, rhywbeth oedd yn ymddangos yn amhosibl iddi cyn hynny. Erbyn hyn mae wedi cychwyn ar gwrs cwnsela.

“Roedd y cynnydd personol a wnes yn ystod y brentisiaeth yn ddigon i newid fy mywyd. Bu’n help i mi feddwl a chynllunio’n fwy manwl o lawer ac rwy’n ysbrydoli pobl eraill i ddysgu, i gymryd rhan ac i’w herio’u hunain. Os gallaf i lwyddo i gael cymhwyster, gall unrhyw un wneud hynny.”

Fis nesaf, bydd ei thaith ddysgu’n mynd â hi i noson Gwobrau Prentisiaethau Cymru, y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau, lle mae ar restr fer Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae Melanie’n hyderus y gall barhau i ddysgu yn y coleg a’i breuddwyd yw cael mynd i’r brifysgol rhyw ddiwrnod. Mae ei chariad at ddysgu wedi’i helpu i gynllunio a chyflenwi cwrs llwyddiannus, ‘Confidently You’ ar gyfer ei chleientiaid.

“Helpodd y brentisiaeth fi i wella’r ffordd rwy’n gwneud fy ngwaith ac felly rwy’n teimlo fy mod i’n cyfrannu mwy i helpu’r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas,” meddai Melanie.

Dywedodd Libby Duo, rheolwr cyflenwi Cymunedau am Waith yng Nghonwy: “Dwi’n edmygu ac yn parchu Mel yn fawr iawn. Mae bob amser yn fy ysbrydoli i a’r tîm; mae’n greadigol, yn ddyfeisgar ac mae’r cleientiaid yn ganolog i bopeth y mae’n ei wneud.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Melanie a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —