Digwyddiad ar-lein i helpu pobl i chwilio am swyddi yn y gogledd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cynhaliwyd rhith-digwyddiad di-dâl ar 21 Ionawr i helpu pobl i ddod o hyd i gyfleoedd am waith yn y gogledd.

Trefnwyd Cyfleoedd Gogledd Cymru mewn partneriaeth rhwng Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru, Cymru’n Gweithio/Gyrfa Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Yn ystod y digwyddiad, roedd modd i bobl bori trwy bob math o gyfleoedd gwych o ran gwaith a hyfforddiant ledled y gogledd. Os oeddech yn chwilio am waith, roedd cyfle i ddysgu mwy am y swyddi oedd ar gael trwy wylio fidoes ar gais gan y cyflogwyr, yn sôn am y swyddi a’r ymgeiswyr roeddent yn chwilio amdanynt.

Roedd dros 40 o gyflogwyr yr ardal, yn cynnwys awdurdodau lleol, yr Awyrlu, a Hybiau Menter MSparc a Wrecsam yn bresennol i ateb cwestiynau trwy’r teclyn sgwrsio byw.

Rhannwyd gwybodaeth am gyfleoedd eraill hefyd, fel prentisiaethau, cynlluniau hyfforddi a chynlluniau cyflogadwyedd yn y gogledd a sut y gallai’r rhain helpu’r rhai oedd yn bresennol.

Dywedodd Sian Lloyd-Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol, Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cynnig digwyddiad fel hyn ar lein er mwyn helpu pobl sy’n chwilio am waith yn ystod y pandemig. Bu 5,268 o bobl yn gwylio’r digwyddiad yn fyw a gwnaed 6,723 o geisiadau i wylio’r fideos. Postiwyd dros 400 o negeseuon trwy’r teclyn sgwrsio byw yn ystod y sesiwn ddwyawr.

“Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi pobl sy’n chwilio am waith neu hyfforddiant. Mae llawer o bobl wedi colli eu swyddi dros y misoedd diwethaf neu mewn perygl o golli eu swyddi ac mae’n gyfnod llawn straen iddyn nhw.

“Serch hynny, mae yna gyfleoedd a chyfoeth o gyngor ar gael a, thrwy weithio gyda’n gilydd a gyda busnesau, gallwn sicrhau bod pobl yn dod i wybod am swyddi lle mae angen eu sgiliau nhw neu’n gallu cael eu hyfforddi i ddysgu’r sgiliau hynny.

Cafwyd ymateb da gan bobl a fu yn y digwyddiad:
“Diolch am gynnal y digwyddiad yma. Digon i feddwl amdano.”
 
“Hon oedd y ffair swyddi ar-lein orau i mi fod ynddi. Diolch.”

https://northwaleseab.co.uk/cy

More News Articles

  —