Digwyddiad Ymgynghori – Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru

English | Cymraeg

Trosolwg Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad yn holi barn pobl am strwythur Fframweithiau Prentisiaethau Cymru a’r llwybrau ategol.

Rydym yn ymgynghori ar y cynnig sy’n cynnwys:

  • cyflwyno strwythur newydd, symlach
  • canolbwyntio’r gwaith o ddatblygu fframweithiau ar lwybrau galwedigaethol
  • sicrhau bod y fframweithiau presennol yn addas i’r diben

Mae prentisiaethau’n codi lefelau sgiliau i ateb y galw yn y farchnad yn awr ac yn y dyfodol. Dyma sut y bwriadwn hybu cynhyrchiant a ffyniant a chreu cymunedau sy’n fwy gwydn. Trwy adeiladu system sgiliau sy’n fwy ymatebol, gallwn ymateb yn well i newidiadau mewn diwydiant. Mae sicrhau bod prentisiaethau’n ateb anghenion economi Cymru yn ganolog i’n polisi sgiliau ac rydym yn adeiladu system sgiliau a all ymateb yn fwy effeithiol i newidiadau mewn diwydiant.

Dyma ein blaenoriaethau ar gyfer prentisiaethau:

  • Buddsoddi mewn sgiliau lefel uwch, yn enwedig mewn meysydd technegol a STEM;
  • Hybu cynhwysiant, cydraddoldeb a chyfle cyfartal;
  • Ymateb i fylchau presennol a disgwyliedig mewn sgiliau; a
  • Darparu prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a/neu’n ddwyieithog.

Rydym yn awyddus i wella ansawdd prentisiaethau trwy weithredu trefniadau newydd i ddatblygu a chyhoeddi fframweithiau prentisiaethau a chodi ymwybyddiaeth ohonynt er mwyn ateb anghenion unigolion a chyflogwyr. Yn ogystal, rydym yn awyddus i ganolbwyntio mwy ar y nodau llesiant yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol, gan sicrhau bod hyfforddiant proffesiynol o safon uchel ar gael i’r genhedlaeth nesaf o brentisiaid.

Dogfennau Llywodraeth Cymru:
Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru – Dogfen Ymgynghori
Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru – Atodiad

Dyddiadau a lleoliadau:

De-orllewin/Canolbarth Cymru
Dydd Llun 25 Tachwedd 2019 – Pafiliwn Canolbarth Cymru, Spa Rd, Llandrindod, LD1 5EY

De-ddwyrain Cymru
Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019 – Llawn

Gogledd Cymru
Dydd Iau 28 Tachwedd 2019 – Venue Cymru, Y Promenâd, Llandudno, LL30 1BB

[TABLE=24]
 

Trefnwch Nawr
 
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i Aelodau’r NTfW a’u cyflogwyr. Sylwch: Dim ond dau le sydd ar gael i bob sefydliad.
 

Yn cydweithio â City & Guilds

City & Guilds