Cynhadledd Addysgu, Dysgu ac Asesu NTfW – Grymuso Dysgwyr i Sicrhau Ffyniant yn y Dyfodol

English | Cymraeg

Cynhaliwyd y Gynhadledd ddydd Iau 15 Mawrth 2018

yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Rhodfa Sachville, Y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 3NY

Mae Cynhadledd NTfW ar Addysgu, Dysgu ac Asesu 2018, ‘Grymuso dysgwyr i sicrhau ffyniant yn y dyfodol’, yn agored i bawb sy’n gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith (DSW) yng Nghymru. Mae’n gysylltiedig â Phrosiect Gwella Ansawdd NTfW a chaiff ei chefnogi a’i rhan-ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cymru’r unfed ganrif ar hugain yn wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd cymhleth – globaleiddio, newidiadau technolegol cyflym, awtomeiddio a’r bygythiad oddi wrth eithafiaeth – y cyfan yn golygu bod angen i weithleoedd heddiw fod yn wydn iawn. Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru’n uchelgeisiol, gyda chynlluniau i hybu dyfeisgarwch a thwf digidol, ac i sicrhau bod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050. Bydd y gynhadledd yn trafod yr heriau a’r cyfleoedd hyn a’r goblygiadau i ddysgu seiliedig ar waith wrth geisio sicrhau ffyniant mewn byd sy’n newid.

Mae’n bleser gan NTfW groesawu Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, i roi’r prif anerchiad. Bydd croeso cynnes yn y Gynhadledd i Jeroen Kraan, ein siaradwr gwadd o Cinop Advies, yr Iseldiroedd, i roi golwg ryngwladol ar ddatblygiad sgiliau yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn ogystal, bydd yr NTfW yn croesawu Dr. Esther Barrett i sôn am y sgiliau digidol sy’n angenrheidiol yn y gweithle modern.

wg-part-funded-ls ESF logo