
Cynhadledd NTFW 2025
Dyddiad: Dydd Iau 6 Mawrth 2025
Lleoliad: Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd, CF11 8AZ.
Amser: 09:30 – 16:30
Bydd cyfle i’r cynadleddwyr wrando ar siaradwyr sy’n ffigurau amlwg yn eu meysydd a chymryd rhan mewn gweithdai.
Bydd y gynhadledd yn pwysleisio’r rhan hanfodol sydd gan brentisiaethau i’w chwarae’n datblygu gweithlu o’r safon uchaf i sicrhau twf economaidd yng Nghymru.
Bydd y prif siaradwyr yn cynnwys Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol polisi, Medr a Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru. Ymhlith y siaradwyr eraill fydd Darren Howells, prif weithredwr Agored Cymru ac Angharad Lloyd Beynon, rheolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau City & Guilds yn y cenhedloedd ac Iwerddon.
Caiff gweithdai eu rhedeg gan Estyn, Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu, Cymwysterau Cymru, Panda Education and Training, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Cyngor y Gweithlu Addysg a Future Digital Education.
br>
br>
Yn ogystal, bydd y gynhadledd yn gyfle gwych i rwydweithio ag unigolion a chwmnïau ym mhob rhan o’r sector hyfforddi yng Nghymru.
Cost:
Aelod o’r NTFW – £245.50
Rhai nad ydynt yn Aelodau – £405.00
Colegau AB yng Nghymru – £405.00
Y dyddiad cau ar gyfer bwcio yw dydd Mercher 26 Chwefror 2025.
Rhoddir gostyngiad bargen gynnar i bawb sy’n cadw lle erbyn dydd Gwener 14 Chwefror 2025.
Aelod o’r NTFW
Y ddau gynadleddwr cyntaf, gostyngiad o 10%.
Y trydydd cynadleddwr a mwy, gostyngiad o 50%.
Pobl nad ydynt yn aelodau
Gostyngiad o 10%.
Colegau Addysg Bellach yng Nghymru
Gostyngiad o 25%.
Sylwch: Rydym yn sylweddoli y bydd rhaglen y gynhadledd yn newid weithiau. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i’r holl bobl berthnasol.
br>
br>
Cyfleoedd i Noddi
Cynigir pecynnau nawdd ar sawl lefel a pho gyntaf y gwnewch drefniant i noddi, mwyaf o gyfleoedd a gewch.
Os hoffech ragor o wybodaeth, ebostiwch: karen.smith@ntfw.org neu 07425 621709
br>
br>
br>
br>
br>
br>
br>
br>
br>
br>
br>
br>