Gweithdai 2019

English | Cymraeg

Sesiwn 1

1. Llywio’r ffordd y bydd dysgu ôl-16 yng Nghymru yn edrych yn y dyfodol

Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru

Mae system ôl-16 Cymru yn gryf ac yn eang ac mae angen i ni ddal ati i’w mireinio mewn amgylchedd sy’n newid yn barhaus. Nod y gweithdy hwn yw ailddiffinio cyfeiriad polisi dysgu ôl-16 ar gyfer y dyfodol; a chryfhau, symleiddio a chysoni’r holl lwybrau dysgu ledled Cymru.

Byddwn yn:

  • Adolygu’r cyd-destun yng Nghymru o ran polisi, yn cynnwys diwygio AHO dros y blynyddoedd nesaf;
  • Ystyried dylanwadau allanol sy’n sbarduno newid yn cynnwys diwygio addysg dechnegol yn Lloegr a beth y mae hynny’n ei olygu i Gymru;
  • Nodi sut y gellid gwneud y llwybrau dysgu’n fwy eglur ac yn symlach ac edrych ar opsiynau ar gyfer newid hyd at, ac yn cynnwys, Prentisiaethau Gradd yng Nghymru;
  • Ceisio sicrhau model cydweithredol cychwynnol ar gyfer datblygu.

2. Pobl Anabl yn y Gweithle: Creu amgylcheddau dysgu cynhwysol

Rhian Davies
Prif Weithredwr, Anabledd Cymru

Corff cenedlaethol o Sefydliadau Pobl Anabl yw Anabledd Cymru ac mae’n hyrwyddo hawliau a chydraddoldeb pawb sy’n anabl.

Seilir ein gweithdy ar ein profiad o gyflogi pobl anabl ar bob lefel yn y sefydliad ac o ddarparu lleoliadau gwaith ar gyfer myfyrwyr a graddedigion sy’n anabl. Byddwn yn cyfeirio at waith ymchwil diweddar sy’n canolbwyntio ar atebion i’r problemau sy’n codi wrth wynebu rhwystrau mewn amgylcheddau dysgu a gweithleoedd.

Cafodd y gwaith ymchwil ei gydgynhyrchu gan bobl anabl ac academyddion a’i ariannu trwy raglen bedair gwlad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – DRILL (Disability Research on Independent Living and Learning).

3. Y newid yn rôl Ymarferwyr DSW – O aseswyr i addysgwyr

Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Cyswllt – VQs a Donna Hughes, Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru
Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn, bydd Cassy Taylor a Donna Hughes o Cymwysterau Cymru yn amlygu rhai o ganfyddiadau’r rhaglen o Adolygiadau Sector a’r diwygiadau i gymwysterau o ganlyniad i hynny. Byddan nhw, a’r cynadleddwyr, yn ystyried sut y gall y safonau proffesiynol ar gyfer ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith helpu’r gweithlu i ganolbwyntio ar ffyrdd newydd o gefnogi dysgwyr sy’n cymryd cymwysterau galwedigaethol fel rhan o raglenni dysgu seiliedig a waith.

4. Paratoi heddiw ar gyfer y byd yfory – Sut olwg sydd ar addysg y dyfodol?

Alyson Nicholson
Pennaeth Jisc Cymru

Mae technolegau digidol yn grymuso dysgwyr, gan gynnig agweddau mwy personol, ac yn agor y drws ar arbenigedd, cyfleoedd i gydweithio a gwybodaeth. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cipolwg arbennig i chi ar ddysgu yn y genhedlaeth nesaf ac yn cyflwyno disgwyliadau dysgwyr “2030 Digidol”

5. Diwallu Anghenion Cyflogwyr – Swyddogaeth y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a’r Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau

Sian Lloyd-Roberts, Jane Lewis a David Price
Rheolwyr Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol

Mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn cydweithio â nifer o gyflogwyr wrth baratoi eu Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer Llywodraeth Cymru. Defnyddir y dystiolaeth a gesglir ochr yn ochr â data a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a’r darparwyr i argymell sut y dylid dyrannu cyllid ar gyfer hyfforddiant ôl-16 mewn Addysg Bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Bydd y sesiwn yn edrych ar y ffordd y mae’r Partneriaethau’n ymwneud â chyflogwyr i ddiwallu eu hanghenion o ran sgiliau ac yn trafod rhai o’r prif faterion sy’n codi.

Sesiwn 2

6. Cymru Fedrus

Dr Llyr ap Gareth, Uwch-Gynghorydd Polisi, FSB Wales
Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau y mae ar BBaChau eu hangen a sut y gellir eu cyflenwi yng Nghymru.

Yng Nghymru, mewn BBaChau y mae 62% o swyddi’r sector preifat. Mae hyn eisoes yn uwch na’r cyfartaledd yn y Deyrnas Unedig, ac os awn i’r afael â’r problemau y mae’r busnesau’n eu hwynebu o ran sgiliau, gallai’r canran godi hyd yn oed yn uwch.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd FSB waith ymchwil newydd ar brofiadau cannoedd o fusnesau bach yng Nghymru ym maes sgiliau, hyfforddiant a recriwtio. Yn ogystal, datgelodd y gwaith ymchwil dueddiadau rhanbarthol ledled Cymru sy’n ein galluogi i weld sut y mae gwahanol ardaloedd Cymru’n ymdopi â’r materion hyn.

7. Cefnogi dysgwyr – Awgrymiadau ar gyfer hybu lles ac iechyd meddwl dysgwyr

Claire Foster
Uwch-reolwr Cyfrifon, Tîm Lles yn y Gweithle, Mind Cymru

Yn y gweithdy hwn, byddwn yn sôn am rai o’r problemau iechyd meddwl y gall dysgwyr ddod ar eu traws, yn ystyried trigeri a ffactorau risg allweddol o ran lles dysgwyr ac yn edrych ar awgrymiadau defnyddiol i ddysgwyr o ran lles a hunan-ofal.

8. Cynyddu effaith eich dysgu proffesiynol

Esther Barratt, Jisc; Berni Tyler, Coleg Sir Benfro;
Bethan Stacey a Rhian Maggs, Cyngor y Gweithlu Addysg

Cewch wybod pam y mae bron 20,000 o ymarferwyr addysg yn defnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) er lles eu gwaith. Cewch eich cyflwyno i’r PDP a dangosir i chi sut i ddefnyddio’i ddyfeisiau arloesol i gynllunio a chofnodi’r hyn a ddysgwch a myfyrio arno wrth i chi ymgymryd â’ch safonau proffesiynol. Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer y sector DSW.

9. Y symud tuag at Gyngor ac Arweiniad Holl-Sianelog ar Yrfaoedd

Derek Hobbs
Cyfarwyddwr Dros Dro Datblygu Busnes, Gyrfa Cymru

Rydym wedi hen arfer defnyddio sianeli digidol i gyflwyno gwybodaeth i’n cwsmeriaid. Fodd bynnag, mewn maes sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol, mae mwy o angen nag erioed i Gyrfa Cymru drawsnewid ei wasanaethau er mwyn diwallu anghenion ein cwsmeriaid am gyngor ac arweiniad ar y sianel o’u dewis.

Bydd y gweithdy’n amlinellu ein ‘Huchelgais Digidol’ ac yn gwahodd cydweithwyr NTfW i gyfrannu syniadau am sut y gallwn gydweithio â nhw i gynnig y gwasanaeth gyrfaoedd gorau i Gymru ‘o’r crud hyd ymddeoliad’.

10. Cyfleoedd a heriau datblygu Sgiliau Dwyieithog Dysgwyr

Dr Lowri Morgans, Rheolwr Academaidd a Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Yn dilyn adolygiad o’n gwaith gan y Grŵp Tasg a Gorffen gan Lywodraeth Cymru, ymestynnwyd rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’r sector ôl-16 yn ddiweddar. Bydd y gweithdy hwn yn cynnwys cyflwyniad byr o’r strategaeth a’r cynllun gweithredu o ran y Gymraeg a dwyieithrwydd i’r sector.

Bydd y gweithdy yn ffocysu ar drafod yr heriau yn ogystal â chreu datrysiadau ac atebion i’r heriau. Byddwn hefyd yn adnabod cyfleoedd i ni gydweithio a chyd-gynllunio er mwyn gwireddu’r cynllun gweithredu a chyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Sylwch: Rydym yn cydnabod y gallai rhaglen y gynhadledd newid. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i’r holl bobl berthnasol.