
Proffiliau’r Cyflwynwyr 2019
Sarah John
Cadeirydd Genedlaethol, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
Sarah yw cadeirydd Bwrdd Gweithredol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, mae’n aelod o Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru, yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn un o gyfarwyddwyr cwmni ALS Training o Gaerdydd sy’n darparu prentisiaethau.
Bu’n ymwneud â maes dysgu seiliedig ar waith ers dros 20 mlynedd gan gydweithio â llawer o asiantaethau a rhanddeiliaid i gyflenwi rhaglenni prentisiaethau ar bob lefel ac mewn sawl sector.
Mae’n rhoi pwyslais mawr ar sicrhau bod rhwydwaith yr NTfW yn ymgysylltu â chyflogwyr a dysgwyr er mwyn cynnig cynlluniau dysgu sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd da yn ystod y weinyddiaeth bresennol.
Ken Skates AM
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Cafodd Ken Skates ei eni yn Wrecsam ym 1976 a’i addysgu yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug. Aeth ymlaen i astudio Gwyddor Cymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Yn ei amser rhydd, mae’n mwynhau rhedeg, nofio, heicio a golff yn ogystal â’i ddiddordeb mewn garddio, celf a dylunio pensaernïol.
Arferai Ken fod yn newyddiadurwr ac roedd yn gynorthwyydd i Mark Tami AS. Yn 2008, cafodd ei ethol yn gynghorydd cymuned. Mae diddordebau Ken yn cynnwys gweithgynhyrchu, iechyd meddwl, chwaraeon a hamdden, dileu tlodi ac economi wleidyddol. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys hyfforddiant sgiliau, twristiaeth, diogelu’r amgylchedd, iechyd meddwl, chwaraeon a ffitrwydd a chynhwysiant cymdeithasol.
Ym Mis Mehefin 2013, penodwyd Ken Skates yn Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Ym Mis Medi 2014, penodwyd Ken yn Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Ym mis Mai 2016 penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith.
Penodwyd Ken yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar 3 Tachwedd 2017. Cafodd Ken ei ethol yn Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar 13 Rhagfyr 2018.
Athro David James
Cyfarwyddwr, Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru,
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
Mae David yn Athro yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd ac yn olygydd y British Journal of Sociology of Education.
Ac yntau wedi bod yn labrwr, yn swyddog clercio, yn gerddor ac yn athro Addysg Bellach, symudodd i fyd Addysg Uwch yng nghanol ei dridegau. Mae Addysg Bellach, sgiliau a dysgu seiliedig ar waith yn haenau pwysig o’i waith ymchwil.
Bu’n gyd-gyfarwyddwr yr unig astudiaeth annibynnol sylweddol ym maes dysgu ac addysgu mewn Addysg Bellach yn y Deyrnas Unedig ac ar hyn o bryd mae’n cyd-gyfarwyddo astudiaeth o lywodraethiant Addysg Bellach ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Huw Morris
Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes (SAUDGO),
Llywodraeth Cymru
Huw Morris yw’r Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes yn Llywodraeth Cymru. Yn y swydd hon, mae’n gyfrifol am oruchwylio addysg uwch, addysg bellach a’r ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith a ariannir gan y Llywodraeth.
Cyn ei benodi i’r swydd hon, bu ganddo nifer o wahanol swyddi mewn prifysgolion yn cynnwys: Ysgol Fusnes Bryste (UWE), Coleg Imperial, Prifysgol Kingston, Prifysgol Fetropolitan Manceinion a Phrifysgol Salford. Mae Huw wedi helpu i ddatblygu rhwydweithiau o ddarpariaeth gan golegau a darparwyr preifat yn cynnwys prentisiaethau lefel uwch a rhaglenni gradd mewnol ar gyfer cwmnïau yn cynnwys: Bank of New York Mellon, BBC, Bombardier, Co-op, McDonalds a Tesco. Yn ogystal â gweithio mewn addysg uwch, bu gan Huw swyddi rheoli a swyddi ar lefel y bwrdd mewn nifer o sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Heledd Morgan
Ysgogwr Newid, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Mae Heledd yn Ysgogwr Newid yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Mae hynny’n golygu cydweithio â sefydliadau i’w helpu i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfydol (Cymru).
Mae’n arwain y gwaith o fonitro ac asesu sut y mae sefydliadau’n cyflawni eu dyletswyddau a gwaith y Comisiynydd yn canolbwyntio ar ‘Sgiliau ar gyfer y Dyfydol, mae’n cydweithio’n agos â Swyddfa Archwilio Cymru ac yn cefnogi’r 19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru.
Mae Heledd yn byw yng Nghaerdydd gyda’i phartner a milgi ond un o Sir Gaerfyrddin yw hi ac mae’n siarad Cymraeg yn rhugl.
Kevern Kerswell
Prif Weithredwr,
Agored Cymru
Ymunodd Kevern ag Agored Cymru yn 2015 fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Ansawdd, Safonau a Rheoliadau a gafodd ei benodi yn Brif Weithredwr yn mis Mawrth 2017.
Mae cyfrifoldebau Kevern yn rhychwantu cylch gwaith eang, gan gynnwys arwain tîm uwch staff Agored Cymru i ddatblygu polisïau, cynllunio busnes, asesu a rheoli risg a thwf partneriaethau strategol. Ef yw Swyddog arweiniol Bwrdd Llywodraethu Agored Cymru ac mae’n mynd ati i hybu’r sefydliad a’i ddiwylliant a’i werthoedd i grwpiau rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
Cyflwynwyr Gweithdy 2019
Andrew Clark
Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru
Cyfrifydd Siartredig yw Andrew yn ôl ei broffesiwn. Ar ôl cymhwyso yn 1984, treuliodd ddegawd yn gweithio gyda chwmnïau preifat yn ne Cymru a Bryste. Yn 1996, symudodd i’r sector cyhoeddus a bu ganddo nifer o swyddi ym maes cyllid, pob un yn gysylltiedig â’r byd Addysg.
Yn 2004, gadawodd Andrew y byd ariannol a symud i faes polisi, lle bu’n arwain y prosiect i newid y ffordd roedd dysgu ôl-16 yng Nghymru’n cael ei gynllunio a’i ariannu. Yn 2006 ymunodd ag adran addysg Llywodraeth Cymru ac, yn 2008, bu’n goruchwylio’r gwaith o ddylunio a lansio polisi ‘trawsnewid’ Addysg Bellach.
Yn 2010, gofynnwyd i Andrew arwain Is-adran Addysg Bellach yr adran, sydd â dwy brif swyddogaeth, sef datblygu a chyflenwi polisi. O ran datblygu, mae’r Is-adran yn arwain ym meysydd Addysg Bellach; prentisiaethau; cynllunio ac ariannu addysg ôl-16; y fframwaith ansawdd ôl-16; Dysgu Oedolion yn y Gymuned; Gyrfa Cymru; a rhwydwaith Seren. Mae’r ochr gyflenwi’n cynnwys ariannu addysg ôl-16 yng Nghymru; monitro’r ddarpariaeth Addysg Bellach; goruchwylio’r gwasanaeth gyrfaoedd; caffael a rheoli contractau dysgu seiliedig ar waith; a rheoli rhai prosiectau a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Yn ogystal, bu Andrew’n aelod o fwrdd “Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru” ac ef oedd yn arwain ar Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014.
Rhian Davies
Prif Weithredwr, Anabledd Cymru
Mae Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru ers 2001 wedi bod yn hyrwyddo hawliau a chydraddoldeb i bobl anabl ers blynyddoedd. Yn 2017, bu yng Ngenefa’n cynrychioli’r gymdeithas sifil yng Nghymru yn adolygiad cyfnodol cyntaf Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl o’r ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu’r Confensiwn.
Rhian yw cadeirydd Grŵp Llywio Cenedlaethol Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Byw’n Annibynnol ac mae’n aelod o Fwrdd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae un o Ymddiriedolwyr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru.
Rhwng 2014 a 2016, bu Rhian yn cynrychioli pobl anabl ar Grŵp Cynghori Allanol Llywodraeth Cymru ar Drechu Tlodi ac mae’n gyn-aelod o Bwyllgor Statudol Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2007-2012). Mae gan Rhian MSc mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth o Brifysgol Caerdydd ac, ym mis Mai 2014, cymerodd ran mewn rhaglen ar fenywod a grym yn yr Harvard Kennedy School of Government.
Dr Jody Mellor
Swyddog Rhaglen DRILL yng Nghymru, Anabledd Dysgu Cymru
Bu Dr Jody Mellor, Swyddog Rhaglen DRILL yng Nghymru, yn gweithio fel ymchwilydd academaidd ers dros ddeng mlynedd, gan weithio ym mhrifysgolion Caerdydd, Bryste a Sheffield.
Cafodd ei hyfforddi’n wyddonydd cymdeithasol a chwblhau ei PhD yn 2007. Mae wedi ysgrifennu nifer o erthyglau a phenodau mewn llyfrau ar faterion yn ymwneud â rhywedd, dosbarth cymdeithasol a chrefydd. Yn ddiweddar, helpodd Jody i sefydlu Côr i Ofalwyr yn Abertawe a chodi arian ar ei gyfer.
Yn y sefydliad, Jody sy’n gyfrifol am Brosiect DRILL (Disability Research on Independent Living) a ariannir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Dyma’r tro cyntaf yn y byd i raglen ymchwil o bwys gael ei harwain gan bobl anabl.
Ruth Nortey
Swyddog Ymchwil a Pholisi, Dysgu Cymru
Bu Ruth Nortey yn Swyddog Ymchwil a Pholisi gydag Anabledd Cymru ers 2017.
Mae’n hybu gwaith Anabledd Cymru i sicrhau newid mewn polisi cyhoeddus ac i ddylanwadu ar lunwyr polisi er mwyn sicrhau bod pobl anabl sy’n byw yng Nghymru yn gallu byw bywydau fel y mynnant. Mae hyn wedi cynnwys ymateb i ymgyngoriadau cyhoeddus a chasglu barn ein haelodau trwy weithgareddau ymchwil.
Cyn hyn, bu Ruth yn gweithio yn y sector nam ar y synhwyrau yng Nghymru gan helpu pobl oedd â nam ar y clyw a/neu’r golwg i fyw’n fwy annibynnol.
A hithau’n fenyw anabl, mae Ruth yn mynd ati’n angerddol i herio problemau ynghylch cydraddoldeb ac i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal yn ein cymdeithas.
Cassy Taylor
Cyfarwyddwr Cyswllt (Cymwysterau Galwedigaethol), Cymwysterau Cymru
Cassy Taylor yw Cyfarwyddwr Cyswllt Cymwysterau Cymru ym maes Cymwysterau Galwedigaethol a hi sy’n arwain y gwaith o gyflenwi Strategaeth Cymwysterau Galwedigaethol Cymru. Ers 2015 mae wedi arwain tri Adolygiad Sector arloesol ym meysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol (yn cynnwys gofal plant), Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, a TGCh (digidol). Ar ôl cynnig cyngor ar ddatblygiad cymwysterau newydd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yng Nghymru, erbyn hyn mae’n arwain y prosiect i gomisiynu datblygiad a gweithrediad cymwysterau newydd ym maes Adeiladau a Gwasanaethau Adeiladu.
Daeth Cassy i Cymwysterau Cymru o Lywodraeth Cymru ar ôl gweithio yn y sector addysg a hyfforddiant ers dros 25 mlynedd. Yn Llywodraeth Cymru bu’n gweithio ar adolygiad o addysg 14-19 yng Nghymru cyn symud i faes rheoleiddio cymwysterau cyffredinol rhwng 2008 a 2012. Cyn hynny, bu’n gweithio ym maes rheoli ansawdd mewn addysg bellach ac addysg uwch yn Lloegr a bu’n Rheolwr Cymwysterau gydag OCR, y corff dyfarnu, tua diwedd yr 1990au. Yn ogystal, mae Cassy wedi gwneud llawer o waith ym maes hyfforddiant galwedigaethol gan arbenigo yn natblygiad dysgu agored yn y sector iechyd a gofal a sut i gefnogi hynny.
Donna Hughes
Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru
Mae Donna Hughes yn rheolwr cymwysterau gyda Cymwysterau Cymru. Mae Donna wedi chwarae rhan arweiniol yn yr adolygiadau sector ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, yng ngwaith datblygu’r gweithlu ar gyfer staff sy’n asesu ac yn sicrhau ansawdd cymwysterau a seilir ar gymhwysedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, ac yn y gwaith o gymeradwyo cymwysterau Cymreig newydd.
Cyn hyn, bu Donna yn asesydd, yn sicrhawr ansawdd mewnol ac allanol, yn rheolwr canolfan ac yn ymgynghorydd ansawdd gyda chanolfannau sy’n cyflenwi cymwysterau a seilir ar gymhwysedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant.
Alyson Nicholson
Pennaeth Jisc Cymru
A hithau’n Bennaeth Jisc Cymru, Alyson sy’n gyfrifol am sicrhau bod darparwyr dysgu seiledig ar waith yng Nghymru’n cael gwasanaeth gwych ac yn elwa i’r eithaf ar eu haelodaeth o Jisc.
Mae hefyd yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a chyrff o’r sector gan helpu i gyfrannu at bolisïau, Fframwaith 2030 Digidol yn fwyaf diweddar, ac i ddatblygu gwasanaeth sy’n diwallu anghenion digidol y sector gan sicrhau bod gan staff a dysgwyr y medrau digidol angenrheidiol ar gyfer llwyddiant o ran astudio, twf a chyflogadwyedd.
Sian Lloyd-Roberts
Rheolwr Rhanbarthol Sgiliau, Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru
Bu Sian yn gweithio ym maes sgiliau a chyflogaeth ers dros 14 blynedd ac, yn ddiweddar, cafodd ei secondio i reoli Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru. Cychwynnodd ei gyrfa ym maes Polisi Ewropeaidd gan symud ymlaen i weithio ym maes Datblygu Economaidd lle cafodd y dasg o ddatblygu Strategaeth Sgiliau i ganfod sgiliau a oedd yn diwallu anghenion yr economi ac anghenion lleol. Yn ogystal, cafodd Sian ei secondio i Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r tîm Polisi Sgiliau gan ddatblygu rhaglenni sgiliau ar gyfer Cymru ar ôl 2014.
Ar hyn o bryd, mae Sian yn arwain y gwaith o ddatblygu Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth tair blynedd ar gyfer y gogledd.
Jane Lewis
Rheolwr Partneriaeth Ranbarthol,
Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru
Jane Lewis yw Rheolwr Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru a hi sy’n arwain prosiect Ymyriad Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Cychwynnodd Jane ei gyrfa yn y sector cyhoeddus gyda swyddi gweithredol a rheoli mewn Gwasanaethau Twristiaeth a Diwylliant cyn symud i’r sector preifat a rheoli ei chwmni marchnata a hyrwyddo ei hunan. Bu hefyd yn rheoli nifer o brosiectau Ewropeaidd rhanbarthol ac elusen a bu’n gweithio gyda gwahanol awdurdodau lleol.
Wrth reoli’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol, mae Jane yn arwain gwaith sy’n cynnwys ymgysylltu, ymgynghori a chydlynu gyda phartneriaid, darparwyr, cyflogwyr a buddiolwyr rhanbarthol a thraws-ffiniol, o ran cynnal economi ranbarthol gynaliadwy, wedi’i seilio ar sylfaen sgiliau sy’n datblygu ac yn hyblyg. Defnyddir y dystiolaeth a gesglir i gefnogi argymhellion i Lywodraeth Cymru yn y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol.
Yn ogystal, Jane sy’n rheoli prosiect Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe – prosiect a fydd yn sicrhau bod y sgiliau priodol gennym ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf i ddiwallu anghenion prosiectau’r Fargen Ddinesig a mentrau eraill a gynhelir ledled y rhanbarth.
David Price
Rheolwr Adfywio Cymunedol, Cyngor Dinas Casnewydd
Cychwynnodd David ei yrfa gyda’r Gwasanaethau Anabledd yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ar ôl 7 mlynedd, ymunodd â Chyngor Dinas Casnewydd i fod yn Rheolwr Gwaith a Sgiliau, gan ddylunio a chreu eu hadran cyflogaeth a sgiliau. Mae gan David brofiad helaeth o gydweithio â sefydliadau preifat, cyhoeddus a 3ydd sector yn cynllunio darpariaethau sy’n gweithio i gymunedau.
Ers tair blynedd, David yw’r Rheolwr Adfywio Cymunedol gyda Chyngor Dinas Casnewydd lle mae’r portffolio gwaith a sgiliau yn rhan o fywyd cymunedol bob-dydd.
Yn ddiweddar, daeth tîm David yng Nghasnewydd yn gyfrifol am reoli’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol yn Ne-ddwyrain Cymru.
Dr Llŷr ap Gareth
Uwch-gynghorydd Polisi, FSB Cymru
Mae Dr Llŷr ap Gareth yn Uwch-gynghorydd Polisi gydag FSB Cymru a bu’n ymwneud â pholisi cyhoeddus yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd. Bu’n gweithio yn dysgu Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna gyda’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol lle’r ysgrifennodd nifer o adroddiadau ar lywodraethiant a democratiaeth. Roedd yn gweithio gyda’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol cyn ymuno â’r FSB.
Claire Foster
Uwch-reolwr Cyfrifon, Tîm Lles yn y Gweithle, Mind Cymru
Bu Claire yn arbenigo ym maes lles yn y gweithle ers 10 mlynedd. Mae wedi cydweithio â nifer o weithleoedd blaenllaw i ddatblygu ac adolygu eu polisïau, hyrwyddo’r hyn a gynigiant er lles staff, archwilio eu hyfforddiant a datblygu cynlluniau hyfforddi.
Mae Claire wedi gwneud cyflwyniadau mewn cynadleddau yn sôn am fanteision buddsoddi mewn lles yn y gweithle a’r achos busnes dros wneud hynny. Cyn dechrau gweithio i’r tîm Lles yn y Gweithle, roedd yn gyfrifol am roi rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) ar waith.
Dr Esther Barrett
Arbenigwr Pwnc Jisc – Addysgu, dysgu ac asesu
Bu Esther yn gweithio ym myd addysg ers bron ugain mlynedd. O ddysgu Llythrennedd ac ESOL yn y gymuned, aeth ymlaen i gynllunio cyrsiau, hyfforddi athrawon ac ehangu cyfleoedd dysgu ar brosiect rhwydwaith dysgu rhanbarthol. A hithau’n gynghorydd eDdysgu gyda Jisc Cymru, bu’n cefnogi’r sector Addysg Oedolion yn y Gymuned a’r sector gwirfoddol.
Erbyn hyn, mae Esther yn Arbenigwr Pwnc mewn Addysgu, Dysgu ac Asesu gyda Jisc ac mae’n cynnig gwasanaethau ymgynghori a hyfforddi i ddarparwyr Addysg Uwch, Addysg Bellach a Sgiliau ledled y Deyrnas Unedig mewn meysydd fel gallu digidol, cyflogadwyedd, dysgu cyfunol ac asesu. Mae’n gwneud llawer gyda’r mudiad llythrennedd digidol yng Nghymru, ym meysydd Addysg Bellach a Sgiliau. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn addysg a iaith ar-lein.
Berni Tyler
Pennaeth B-wbl, Coleg Sir Benfro
Berni yw Pennaeth Consortiwm B-wbl yng Ngholeg Sir Benfro a bu’n gweithio ym myd Addysg, mewn Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW), ers dros 20 mlynedd. Mae’n aelod o fwrdd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac yn gadeirydd grŵp rhanbarth NTfW yn y De-orllewin a’r Canolbarth.
A hithau’n aelod annibynnol o Gyngor y Gweithlu Addysg ers pedair blynedd, mae’n frwd o blaid y Pasbort Dysgu Proffesiynol ac yn awyddus i hyrwyddo technoleg ar gyfer dysgu proffesiynol ac i helpu ymarferwyr DSW i gyrraedd safonau proffesiynol.
Bethan Holliday-Stacey
Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi, Cyngor y Gweithlu Addysg
Bethan sy’n gyfrifol am: Achredu rhaglenni proffesiynol; Gwaith a wneir ar ran Llywodraeth Cymru fel gweinyddu trefniadau cyllido/cofnodi rhaglenni cynefino athrawon ysgol a chyflenwi e-bortffolio cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr (y Pasbort Dysgu Proffesiynol); Cynllunio strategol a chyfathrebu; Datblygu polisi.
Ymunodd Bethan â’r Cyngor yn 2000 a bu’n Rheolwr Datblygiad Proffesiynol a Chyllido o 2006 tan iddi symud i’w swydd bresennol.
Rhian Maggs
Rheolwr Datblygiad Proffesiynol a Chyllid, Cyngor y Gweithlu Addysg
Mae Rhian yn gweithio yn y tîm Datblygiad Proffesiynol a Chyllid ac mae ganddi ddwy swyddogaeth. Yn gyntaf, gofalu am y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). E-bortffolio ar-lein yw’r PDP ac mae ar gael i bawb sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i’w helpu wrth gynllunio a chofnodi eu datblygiad proffesiynol trwy gydol eu gyrfa a myfyrio arno hefyd. Yn ail, dilyn hynt Athrawon Newydd Gymhwyso wrth iddynt symud trwy eu rhaglen gynefino statudol a gweinyddu cyllid i ysgolion sy’n rhoi cymorth i Athrawon Newydd Gymhwyso gynefino.
Bu Rhian yn gweithio i Gyngor y Gweithlu Addysg ac yn y tîm Datblygiad Proffesiynol a Chyllid ers 2006 ac fe gafodd ei phenodi’n Rheolwr yn ddiweddar.
Derek Hobbs
Cyfarwyddwr Dros Dro mewn Datblygu Busnes, Gyrfa Cymru
Ar hyn o bryd, Derek yw Cyfarwyddwr Dros Dro Gyrfa Cymru mewn Datblygu Busnes. Mae’n ymgynghorydd llawrydd gyda Digital Transformation Relationships Ltd, yn gweithio gyda chleientiaid fel The Automobile Association ac Oracle. Bu gynt yn Bennaeth Gwasanaethau Digidol ac yn Bennaeth Effeithlonrwydd a Sianeli Digidol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau gan gyflwyno, fesul cam, ymhlith pethau eraill, Lwfans Gofalwyr Digidol, roboteg a sianeli sy’n ystyriol o bobl anabl.
Cyn hynny bu’n Bennaeth Marchnata Strategol gydag Y Rheoleiddiwr Pensiynau (yn gyfrifol am gyflwyno Cofrestru Awtomatig i bob cyflogwr yn y Deyrnas Unedig), yn Bennaeth Marchnata yn y DVLA (yn gyfrifol am gyflwyno prosesau ar-lein fesul cam ar gyfer Treth Ceir, Trwyddedau Gyrru a Marchnata Rhifau Personol), yn Gyfarwyddwr Adran Foduro DirectGov (yn gyfrifol am un o’r adrannau mwyaf ar wefan DirectGov) ac yn Brif Weithredwr ‘Marchnata Celfyddydau’r Cymoedd’ (yn gyfrifol am gymorth marchnata i ganolfannau yn ardaloedd 10 Awdurdod Lleol). Mae’n Gymrawd gyda’r CIM a’r IDM.
Dr Lowri Morgans
Rheolwr Academaidd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dr Lowri Morgans yw Rheolwr Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Enillodd Lowri ei doethuriaeth o Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth ar iaith y corff ac ystumiau mewn llenyddiaeth ganoloesol Gymraeg. Cyn ymuno â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, dechreuodd Lowri ei gyrfa fel darlithydd mewn Coleg Addysg Bellach cyn symud ymlaen fel Rheolwr Iaith Gymraeg yno.
Tan yn ddiweddar mae Lowri wedi bod yn cyfrannu at reoli Cynllun Academaidd Addysg Uwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a sefydlodd gynllun y Darlithwyr Cysylltiol, sef cynllun i greu cymuned o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg. Yn ddiweddar mae Lowri wedi cael ei hapwyntio i weithredu’r strategaeth ôl-16 sy’n adlewyrchu cyfrifoldebau newydd y Coleg.
Dr Dafydd Trystan
Cofrestrydd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dafydd Trystan Davies yw cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Cymru, Aberystwyth am ei waith ar globaleiddio a economi wleidyddol Cymru. Yn ystod ei amser yn darlithio ar wleidyddiaeth Cymru yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, daeth yn enwog am ei ymchwil ar ymddygiad pleidleisio yng Nghymru. Bu hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd ar gyfer BBC Cymru, a rhwng 2002 a 2007 bu’n brif weithredwr Plaid Cymru. Mae’n gyfarwyddwr nifer o fentrau cymdeithasol, gan gynnwys ‘Cycle Training Wales’ a TooGoodToWaste. Mae’n aelod o fwrdd Partneriaeth y Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd ac yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Hamadryad.