Prentisiaethau: Sicrhau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

English | Cymraeg

Female apprentice standing by company van

Lindsay James Preece, Lefel 3 Plymio

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni mewn cyfres o drafodaethau rhyngweithiol er mwyn rhannu profiadau a thrafod ffyrdd cynaliadwy o sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant mewn rhaglen brentisiaethau lle cafodd pob rhwystr ei ddileu.

Cafodd ein Strategaeth bum-mlynedd ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Dysgu Seiliedig ar Waith (2021-26) ei chydgynhyrchu gyda rhanddeiliaid allanol oedd yn cydweithio â grwpiau oedd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn prentisiaethau. Rydym yn awyddus i barhau i drafod gydag unigolion a grwpiau sydd â diddordeb yn y maes er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i’n gweledigaeth o sicrhau model cynhwysol ar gyfer prentisiaethau.

Trwy ein hastudiaethau achos, mae’n bleser gennym ddangos bod arferion da ar waith yn cefnogi prentisiaid wrth iddynt gwblhau eu fframweithiau. Yn ôl data am brentisiaethau, y sectorau Adeiladu, Peirianneg, Gweinyddu Busnes, y Sector Cyhoeddus a Gofal Iechyd yw’r prif sectorau y mae pobl yn cychwyn ar brentisiaethau ynddynt. Fodd bynnag, mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sectorau hyn i gyd. Mae’r sefyllfa o ran ethnigrwydd ac anabledd yn gwella ond rydym yn sylweddoli bod ein data’n rhoi darlun cywir o’r bobl o’r grwpiau a dargedir sy’n gwneud prentisiaethau ac rydym yn awyddus i ddeall sut y gallwn wella’r sefyllfa honno.

Nod y digwyddiadau yw dwyn ynghyd gyflogwyr, darparwyr prentisiaethau, prentisiaid a sefydliadau trydydd sector i ganfod arferion da a dulliau o wella’r cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sectorau uchod, a sicrhau bod pobl anabl a phobl o leiafrifoedd ethnig yn dal i gymryd rhan.

Sicrhau Cydbwysedd rhwng y Rhywiau mewn Prentisiaethau

Dyddiad: Dydd Iau 24 Mawrth 2022 Amser: 10:00 – 12:00
Pynciau Allweddol:

  • Darparu rhaglen brentisiaethau gynhwysol – Beth mae’r data’n ei ddweud wrthym
  • Cynyddu cyfranogiad a chefnogaeth cyflogwyr
  • Dysgu oddi wrth brentisiaid
  • Rhwygo rhagfarn – cyflogwyr, darparwyr, dylanwadwyr, teulu

Sicrhau bod rhagor o bobl anabl yn cymryd rhan mewn prentisiaethau

Dyddiad: Dydd Llun 28 Mawrth 2022 Amser: 10:00 – 12:00
Pynciau Allweddol:

  • Darparu rhaglen brentisiaethau gynhwysol – Beth mae’r data’n ei ddweud wrthym
  • Cynyddu cyfranogiad a chefnogaeth cyflogwyr
  • Dysgu oddi wrth brentisiaid
  • Cefnogi unigolion ag anableddau dysgu a rhai niwrowahanol i fynd yn brentisiaid

Sicrhau bod rhagor o bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yn cymryd rhan mewn prentisiaethau

Dyddiad: Dydd Mercher 30 Mawrth 2022 Amser: 10:00 – 12:00
Pynciau Allweddol:

  • Darparu rhaglen brentisiaethau gynhwysol – Beth mae’r data’n ei ddweud wrthym
  • Cynyddu cyfranogiad a chefnogaeth cyflogwyr
  • Dysgu oddi wrth brentisiaid
  • Sicrhau bod mwy o bobl o gymunedau Sipsiwn Roma neu Deithwyr yn cymryd rhan
  • Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches – Rhwystrau a Llwybrau i gymryd rhan mewn Prentisiaethau

Cynhelir y digwyddiadau hyn yn Saesneg ond bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn Gymraeg.

Cofrestru nawr

Male apprentice sat at desk operating computer

Ali Abdulah Ali, Dyfarniad Lefel 4 ILM mewn Rheolaeth

Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â:
Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW.
Ebost: humie.webbe@ntfw.org

Ymunwch yn y sgwrs ar twitter:
@NTFWwbl
@ApprenticeWales
#Cydraddoldeb #Amrywiaeth #Equality #Diversity