Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ysbrydoli sgyrsiau am yrfaoedd lle mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Female apprentice standing by company van

Lindsay James Preece, Level 3 Plumbing

Er mwyn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD) ar 8 Mawrth, mae sefydliad sy’n cynrychioli darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yn bwriadu cynnal tair trafodaeth yn ystod y mis gyda’r nod o sicrhau cydbwysedd rhwng dynion a menywod ac amrywiaeth mewn prentisiaethau.

Bydd trafodaethau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn canolbwyntio ar ganfod ffyrdd cynaliadwy o fynd i’r afael â’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau sydd mewn prentisiaethau mewn sectorau fel adeiladu a pheirianneg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r dasg i NTfW o ddarparu rhagor o gyfleoedd i ferched mewn prentisiaethau mewn sectorau lle mae llawer mwy o ddynion ac i ddynion mewn sectorau lle mae llawer mwy o ferched.

Mae #IWD2022, ar y thema #RhwygoRhagfarn #BreakTheBias, yn achlysur byd-eang sy’n dathlu’r hyn y mae menywod yn ei gyflawni yn gymdeithasol, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol ac mae’n galw am gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Mae ymgyrch #RhwygoRhagfarn #BreakTheBias yn gofyn i bobl dynnu sylw at stereoteipio a gwahaniaethu ar sail rhywedd er mwyn creu byd amrywiol, teg a chynhwysol lle mae dynion a menywod yn gyfartal.

Cynhelir trafodaeth gyntaf NTfW, ‘Sicrhau Cydbwysedd rhwng y Rhywiau mewn Prentisiaethau’, ar 24 Mawrth. Y pynciau allweddol fydd: darparu rhaglen brentisiaethau gynhwysol ar sail data, cynyddu cyfranogiad a chefnogaeth cyflogwyr, dysgu oddi wrth brentisiaid, a rhwygo rhagfarn gyda chyflogwyr, darparwyr, dylanwadwyr a theulu

Ymhlith y merched ysbrydoledig fydd yn siarad mae cyn-brentis o’r enw Charlie Hargreaves o Wates Construction, a Catrin Atkins, cydsefydlydd Women in Tech Cymru, a fydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar eu llwybrau nhw i’r diwydiannau adeiladu a thechnoleg.

Teitlau’r trafodaethau eraill fydd ‘Sicrhau bod rhagor o bobl anabl yn cymryd rhan mewn prentisiaethau’ ar 28 Mawrth a ‘Sicrhau bod rhagor o bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yn cymryd rhan mewn prentisiaethau’ ar 30 Mawrth.

Trefnir y trafodaethau, sydd ar gyfer gwahoddedigion yn unig, gan Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW. Gellir cysylltu â hi ar humie.webbe@ntfw.org.

“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i gydnabod prentisiaid benywaidd a dathlu eu llwyddiant,” meddai Humie. “Mae thema eleni, #RhwygoRhagfarn #BreaktheBias yn tynnu sylw at yr angen i dargedu cefnogaeth fel y gall menywod lwyddo yn y gyrfaoedd o’u dewis, yn enwedig mewn diwydiannau sydd wedi bod yn lle i ddynion yn bennaf, fel adeiladu a pheirianneg.

“Wrth inni ymdrechu i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn prentisiaethau yn y sectorau adeiladu a pheirianneg, lle mae menywod yn brin, rydym yn awyddus i gydweithio â chyflogwyr i dynnu sylw at eu harferion da ac i annog menywod a merched ifanc i ymuno â’r diwydiant.

“Mae newid canfyddiad, agweddau ac ymddygiad pobl yn fuddsoddiad hirdymor. Mae trafodaethau wedi’u targedu yn ffordd dda o edrych ar yr hyn sy’n angenrheidiol er mwyn i fenywod a dynion fynd i weithio mewn meysydd lle nad ydyn nhw’n cael eu cynrychioli’n ddigonol.”

Mae’r pedwar prif ddeiliad contract sy’n darparu prentisiaethau a rhaglenni dysgu eraill i Lywodraeth Cymru, wedi dod at ei gilydd o dan faner NTfW ar #IWD2022 i dynnu sylw at fenywod llwyddiannus yn eu cwmnïau.

Mae Zoe Goodall, cyfarwyddwr cyflenwi ACT Training, Caerdydd, wedi dringo o fod yn asesydd dan hyfforddiant yn 2005 i fod yn gyfarwyddwr sy’n gyfrifol am gyflenwi holl raglenni dysgu’r cwmni.

Portrait photo of Zoe Goodall

Mae Zoe, sy’n rhoi pwyslais mawr ar les a hapusrwydd, wedi arwain datblygiad a thwf y ddarpariaeth yn ACT, a enwyd yn Gyflogwr y Flwyddyn y DU: Platinwm (250+) yng Ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2021.

Wrth edrych yn ôl ar ei gyrfa hyd yma, dywedodd Zoe, “Rwy’n eithriadol o falch o gael bod yn rhan o stori lwyddiant ACT a thaith y cwmni hyd yma. Ers i mi ymuno 17 o flynyddoedd yn ôl, rwy wedi gweld ACT yn tyfu ac yn datblygu’n aruthrol o lai na 100 o staff i gyflogi bron 400 o bobl ddawnus tu hwnt erbyn hyn.

“Rwy’n enghraifft o’r ffordd y gall prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith gynnig cyfleoedd gwych am yrfaoedd a bod yn fan cychwyn ar gyfer llwyddiant aruthrol.”

Mae Amanda Williams, Pennaeth Rheoli Contractau a Phartneriaethau gydag ITEC Skills and Employment, Caerdydd, wedi cael sawl dyrchafiad o swydd weinyddol chwe wythnos yn 1994 i’w swydd bresennol 28 mlynedd yn ddiweddarach

Portrait of Amanda Williams

A hithau yn ei helfen yn swydd rheolwr, enillodd Wobr Hyfforddiant Genedlaethol am reoli’r rhaglen Gateway to Work. Bu’n rheolwr contractau, yn rheolwr busnes ac yn rheoli rhaglenni Llywodraeth Cymru ym meysydd Hyfforddeiaethau a Sgiliau Cyflogadwyedd ar ran y cwmni cyn rheoli cadwyn gyflenwi prentisiaethau ledled de-ddwyrain, gorllewin a chanolbarth Cymru.

Ar ôl ennill NVQ mewn Arwain Tîm a chymhwyster mewn Rheoli ac Arwain i’w helpu i symud ymlaen yn ei gyrfa, dywedodd Amanda: “Mae cael ffydd ym mhobl eraill yr un mor bwysig â bod â ffydd ynoch chi’ch hunan.

“Dangosodd rheolwr ffydd ynof i, ac wedyn ro’n i’n gallu dangos ffydd mewn pobl eraill, gan ysbrydoli a galluogi pobl i gyflawni eu dyheadau. Does dim pen draw ar eich potensial oherwydd, bob dydd, rydych yn dal i dyfu a gwella nid eich bywyd eich hun yn unig ond bywydau’r bobl o’ch cwmpas hefyd.”

Mae gan Ann Nicholas, cyfarwyddwr cyfrifon cwsmeriaid gydag Educ8 Training, Caerffili, dros 16 mlynedd o brofiad ym maes hyfforddiant ac addysg a hi oedd y cyntaf o’i theulu i fynd i’r brifysgol.

Portrait of Ann Nicholas

A hithau’n llysgennad dros ddysgu gydol oes, mae’n credu’n angerddol mewn prentisiaethau, ac addysgu a dysgu o safon uchel. Mae hi a’i phum cyd-gyfarwyddwr wedi sicrhau mai Educ8 oedd y Cwmni Canolig Gorau i Weithio Iddo yn 2021, y Darparwr Addysg a Hyfforddiant Gorau i Weithio Iddo yn 2021 a Chyflogwr y Flwyddyn yr FSB. Mae’r cwmni, sy’n un o’r Fast Growth 50, wedi ennill statws Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl hefyd.

Ymunodd Ann ag Educ8 fel uwch-reolwr cyfrifon yn 2017 a dychwelodd at y cwmni i’w swydd bresennol yn 2020 ar ôl cyfnod fel pennaeth recriwtio gyda Trafnidiaeth Cymru.

“Rwy’n cydweithio â’r bwrdd cyfarwyddwyr, gan rannu syniadau, cefnogi ein gilydd wrth wynebu heriau ac mewn llwyddiant, a chysoni ein nodau er mwyn sicrhau ein bod yn helpu ein gilydd i dyfu, gwella a chyrraedd cerrig milltir personol neu broffesiynol,” meddai.

“Rydym wedi adeiladu cwmni wedi’i seilio ar werthoedd ac ethos. Ein staff sydd wrth galon y busnes ac mae gennym enw da iawn am ddarpariaeth bwrpasol, o safon uchel. Felly, mae’r busnes yn ehangu’n gyflym.”

Mae Catherine Watkin, swyddog cyllid Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, yn aelod allweddol o’r staff, yn cefnogi’r cyfarwyddwr cyllid ac yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau Cymraeg yn y cwmni.

Portrait of Catherine Watkin

Ers iddi ymuno â’r cwmni ar raglen Twf Swyddi Cymru 10 mlynedd yn ôl, mae wedi cyflawni pum prentisiaeth, yn fwyaf diweddar Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Rheoli, Lefel 3.

“Rwy mor falch o’r hyn rydw i wedi’i gyflawni yn Hyfforddiant Cambrian. Fyddwn i ddim wedi gallu ei wneud heb y dechreuad gefais i drwy Twf Swyddi Cymru,” meddai Cath. “Mae’r cwmni wedi fy nghefnogi i barhau i ddysgu trwy nifer o brentisiaethau.

“Mae deng mlynedd wedi hedfan heibio ac rwy’n edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf. Mae’r cwmni wedi esblygu dros fy nghyfnod i yma ac rwy’n falch o fod yn rhan o gwmni sy’n newid ac yn tyfu’n barhaus.”

International Women’s Day

More News Articles

  —