Diwrnod VQ 2010

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) yn gyfle i fyfyrwyr, athrawon a chyflogwyr Prydain ddathlu cymwysterau galwedigaeth.

Cynhaliwyd Diwrnod VQ 2010 ar 23 Mehefin ym mhob un o brif ddinasoedd y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, cynhaliwyd dathliad cenedlaethol Diwrnod VQ yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd. Cafodd ei drefnu gan ColegauCymru / CollegesWales, NTfW a Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Roedd y Diwrnod yn llwyddiant mawr!

Cliciwch yma i agor yr e-lyfr: doniau ar waith i glywed am lwyddiannau nodedig o Gymru. Cyhoeddwyd yr e-lyfr ar 23 Mehefin 2010, diwrnod VQ, ac mae’n sôn am enillwyr a rhai a ddaeth yn agos at ennill Gwobrau VQ 2010 a’r hyn y mae pobl o Gymru wedi’i gyflawni ym Mhrydain a thramor.

Gwobrau VQ

Yn Seremoni Gwobrau VQ, enillodd Stephanie Lomax o Goleg Glannau Dyfrdwy wobr Dysgwr y Flwyddyn (o dan 25) a Mandy Blackwell o Goleg Gwent yn Ddysgwr y Flwyddyn (25+).

Cyflwynwyd y Gwobrau gan Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes  ac roedd cyfle i gydnabod camp y rhai a ddaeth agosaf at yr enillwyr: o dan 25: Luke Beard o Goleg Ystrad Mynach, Russell Hicks o Dow Corning Ltd a Janine Nutman o Goleg Gwent; a’r rhai agosaf at y brig 25+: Justin Howell o Dow Corning Ltd., Hennie de Wet o Goleg Llandrillo Cymru ac Alison Tanner o Goleg Sir Gâr.

Mae e-lyfr Diwrnod VQ “Doniau ar Waith”, yn sôn am yr hyn a gyflawnwyd gan yr enillwyr, y rhai nesaf at y brig a llwyddiannau eraill o Gymru.

Arddangosiadau sgiliau ymarferol

Yn ogystal, ar Ddiwrnod VQ yn y Pierhead, bu myfyrwyr a hyfforddeion o golegau addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn arddangos nifer o wahanol sgiliau galwedigaethol. Roedd y rhain yn cynnwys arddangosiadau gwaith saer, ffitrwydd, gwallt a harddwch, gwyddor fforensig, cynnal a chadw ceir, adeiladu, cigyddiaeth a cholur theatr.

Pwrpas Diwrnod VQ

Mae llawer o lwybrau i lwyddiant ac mae cymwysterau galwedigaethol yn un ohonynt. Mae miliynau o bobl yn ennill cymhwyster galwedigaethol bob blwyddyn fel cam tuag at gwrs astudio pellach, gwell swyddi a gwell sgiliau. Credwn fod hyn yn rhywbeth gwerth ei ddathlu.

Diwrnod VQ:

  • Mae’n rhoi cydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol i unigolion sy’n cael llwyddiant nodedig trwy lwybr galwedigaethol. Mae llwyddiannau fel canlyniadau TGAU a Lefel A wedi cael eu dathlu erioed ond mae yr un mor bwysig bod llwyddiant pobl sy’n dewis astudio trwy lwybr galwedigaethol yn cael ei gydnabod a’i ddathlu ar y llwyfan cenedlaethol.
  • Mae’n rhoi cyfle i esbonio a dangos sgiliau galwedigaethol ac i helpu rhagor o bobl i ddeall mwy am y gwahanol lwybrau dysgu a chymwysterau galwedigaethol sydd ar gael.   

Rhagor o wybodaeth

  • www.vqday.org – rhagor o wybodaeth am ddathliadau Diwrnod VQ ym mhob rhan o’r DU
  • Edge – y sefydliad addysgol annibynnol sy’n cydgysylltu Diwrnod VQ ar lefel y DU gyda chefnogaeth y gymuned alwedigathol

More News Articles

  —