Prentisiaid yn chwarae eu rhan yn gwarchod ein cymunedau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

PC Angela Williams, swyddog datblygiad proffesiynol yng Ngwasanaethau Dysgu a Datblygu Heddlu Dyfed-Powys.

Llwyddodd y llu heddlu sydd â’r dasg o ofalu am yr ardal fwyaf o ran maint yng Nghymru i drawsnewid eu proses recriwtio ar ôl i’w rhaglenni dysgu seiliedig ar waith dalu ar eu canfed iddynt.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cyflogi dros 2,000 o weithwyr mewn rhannau helaeth o ganolbarth a gorllewin Cymru, gan warchod poblogaeth o 515,000 ynghyd â’r cannoedd o filoedd o ymwelwyr sy’n llifo i’r ardal bob blwyddyn.

Ers i’r heddlu gyflwyno Rhaglen Brentisiaethau yn 2016, mae wedi llwyddo i gyflogi 200 o brentisiaid, â dros 150 ohonynt yn dal i weithio i’r sefydliad ac yn dilyn un o’r deg cwrs a ddarperir gan hyd at naw darparwr dysgu.

Oherwydd ymroddiad y cwmni i brentisiaethau, mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

“Trwy recriwtio prentisiaid lleol, rydym yn gallu asesu brwdfrydedd a gwerthoedd ymgeiswyr yn hytrach na dibynnu ar eu profiad yn y ffordd draddodiadol,” meddai PC Angela Williams, swyddog datblygiad proffesiynol gyda Gwasanaethau Dysgu a Datblygu Heddlu Dyfed Powys.

“Mae prentisiaid yn awyddus i ddysgu ac i weithio’n galed er mwyn canfod eu lle yn y sefydliad. Ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, mae ein prentisiaid yn mynd ymlaen i fod yn llysgenhadon ardderchog gan helpu i ddenu rhagor o bobl ddawnus.”

Gan fod pob Rhaglen Brentisiaethau’n cael ei llunio i ateb gofynion Heddlu Dyfed-Powys, gellir addasu’r rhaglenni i sicrhau bod yr hyn y mae pob unigolyn yn ei ddysgu yn berthnasol i’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu i’r cyhoedd.

Yn ogystal ag agor y drws i bobl newydd, mae ffeiriau gyrfaoedd mewnol yn annog aelodau’r staff i ddatblygu eu gyrfa a symud ymlaen, gan lenwi bylchau sgiliau â phobl fedrus, wybodus a brwd.

“Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi elwa’n fawr ar ddysgu seiliedig ar waith, fel y gwelir gan fod cynifer o’r staff wedi cwblhau cyrsiau’n llwyddiannus yng Ngholeg Gŵyr Abertawe,” meddai Judith Lyle, tiwtor/asesydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

“Yn ogystal â’u gwneud yn gyflogwr da, mae hyn yn golygu eu bod yn wych am gydnabod eu staff. Maen nhw’n darparu Rhaglenni Prentisiaethau sy’n helpu’r staff i gyflawni’r nodau a’r amcanion a bennwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.
 
“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.
 
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
 
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —