Hyrwyddo prentisiaethau wrth gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Bu darparwyr hyfforddiant yn cydweithio â sefydliadau eraill i gynnal digwyddiad llwyddiannus i godi ymwybyddiaeth o brentisiaethau ymhlith cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghasnewydd.
Trefnwyd ffair yrfaoedd ar gyfer prentisiaethau, ‘Mae’r Dyfodol yn ein Dwylo’ gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol y Romani (RCAC) ac Ysgol Gynradd Maendy, lle cafodd ei chynnal.

Hefyd yn bresennol yn y ffair, a gynhaliwyd yn ystod Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr, roedd ACT Training, ITEC Skills and Employment, ISA Training, Gyrfa Cymru, Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru (ISEiW) a nifer o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs).

Trefnwyr a gwesteion yn y Ffair Yrfaoedd

Yn y ffair yrfaoedd ar gyfer prentisiaethau (o’r chwith): cyfarwyddwr prosiectau Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru (ISEiW), Paul Evans; dirprwy arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Deb Davies; Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW, Humie Webbe; arweinydd tegwch Ysgol Gynradd Maendy, Martine Smith; a Viera Matysakova o Gwmni Diwylliannol a Chelfyddydol y Romani.

Mae aelodau’r NTfW yn ymroi i gyrraedd nod, a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, sef cynyddu nifer y bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol sy’n dechrau ac yn cwblhau prentisiaethau.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weld tystiolaeth fod mwy o bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol wedi cychwyn prentisiaeth erbyn Rhagfyr 2022 a bod y cynnydd yn cael ei gynnal yn y dyfodol.
Mae’r NTfW yn ffederasiwn o dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith gyda sicrwydd ansawdd ledled Cymru.

Roedd y digwyddiad yng Nghasnewydd yn cynnwys nifer o weithgareddau Rho Gynnig Arni ISEiW, fel arlwyo, trin gwallt, harddwch, TG, CAN Modurol, ac adeiladu a weldio rhithwir, gan ddangos i bobl ifanc a’u rhieni y gwahanol lwybrau prentisiaethau sydd ar gael iddynt a sut y gallant ennill cyflog wrth ddysgu.

Cafodd prentisiaethau, cyrsiau datblygu gyrfa a chyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) eu hyrwyddo wrth bobl ifanc a’u rhieni. Roedd cyfle hefyd i edrych ar wahanol sgiliau galwedigaethol a allai arwain at lwybr gyrfa.

Daeth Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Deb Davies, i’r ffair a rhoi cynnig ar nifer o weithgareddau.

Dywedodd Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW:

“Bod y ffair yn gyfle delfrydol i gydweithio â phartneriaid eraill i gysylltu â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o brentisiaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr.

“Roedd yn galonogol gweld y darparwyr prentisiaethau, Gyrfa Cymru a stondinwyr eraill yn cefnogi’r digwyddiad ac yn ymwneud mewn ffordd gadarnhaol â’r cymunedau Sipsiwn a Roma,” meddai.

“Cafwyd ceisiadau i gynnal digwyddiadau tebyg mewn ysgolion eraill, gan brofi pa mor effeithiol ac angenrheidiol ydyn nhw i hwyluso’r ffordd i wneud prentisiaethau a chodi dyheadau.”

Dywedodd Viera Matysakova, swyddog prosiectau gyda Chwmni Diwylliannol a Chelfyddydol y Romani: “Heddiw, fwy nag erioed, mae cymunedau o dan bwysau mawr ac, yn aml, yn ansicr o’u pwrpas. Mae’n hanfodol ein bod yn grymuso ac yn ysbrydoli ein hoedolion ifanc a fydd yn creu newid.

“Rwy’n credu’n gryf y gall dod â darparwyr gwasanaethau yn nes at y gymuned trwy ddigwyddiadau pwrpasol fel hyn fod o gymorth. Mae’n rhoi cyfleoedd i ddarparwyr gwasanaethau gwrdd â’r gymuned mewn amgylchedd cyfarwydd, diogel a diwylliannol-sensitif.

“Mae cynnwys rhieni, brodyr a chwiorydd, teuluoedd estynedig a’r gymuned leol yn helpu i greu ac ymestyn y rhwydwaith cefnogi ac, yn raddol, mae’n dechrau chwalu’r rhwystrau sy’n eu hwynebu.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran mewn digwyddiad mor llwyddiannus. Gobeithio y cawn ddigwyddiadau fel hyn yn rheolaidd o hyn ymlaen.”

Dywedodd Paul Evans, cyfarwyddwr prosiectau ISEiW: “Ym marn tîm ISEiW, mae cynlluniau fel hyn yn hynod o bwysig er mwyn sicrhau ein bod yn ysbrydoli dysgwyr o bob cefndir, ac yn rhoi’r cyfle i bawb gymryd rhan.

“Roedd y digwyddiad yn gyfle i ni ymwneud â thon newydd o ddysgwyr trwy ddefnyddio offer Rho Gynnig Arni, a gobeithio ein bod wedi eu hannog i ystyried llwybrau gyrfa posibl wrth ddangos pa mor gyffrous y gall dysgu galwedigaethol fod.”

Romani Cultural and Arts Company

More News Articles

  —