Dysgu sgiliau newydd a chynyddu’ch gwybodaeth â Phrentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae dau o brentisiaid y darparwr hyfforddiant Educ8 yn elwa’n fawr trwy ddilyn prentisiaeth. Yn ogystal ag ennill cymwysterau, maent yn dysgu sgiliau newydd yn y gweithle, yn meithrin profiad ac yn ennill cyflog.

Mitchell Hughes

Mitchell standing by a Apprenticeships banner

Mitchell Hughes – Prentisiaeth Level 4 mewn Cyngor ac Arweiniad

Swyddog Codi Arian ac Ymgysylltu Cymunedol gyda Mind Cwm Taf Morgannwg yw Mitchell Hughes ac mae’n dilyn prentisiaeth lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad gydag Educ8.

Pan ddechreuodd Mitchell ar y brentisiaeth, roedd eisoes yn gweithio i Mind fel Gweithiwr Prosiect Ymyrraeth Digartrefedd. Dim ond am gyfnod byr roedd wedi bod yn y swydd ac ychydig o brofiad oedd ganddo yn y sector tai. Cynigwyd y brentisiaeth iddo er mwyn iddo gael gwell dealltwriaeth o ddelio â chleientiaid a chynyddu ei sgiliau.

Dywedodd Mitchell: “Mae’r brentisiaeth wedi fy helpu i ennill profiad, dysgu sgiliau newydd a chryfhau fy ngwybodaeth mewn maes lle roeddwn i’n ddechreuwr go iawn.” Cewch wybod mwy am daith Mitchell – My apprenticeship journey

Sean Singh

Sean yn sefyll o flaen logo Sky

Sean Singh – Prentisiaeth Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Educ8 eu bod yn cydweithio â Sky i helpu’r cwmni i sicrhau darpariaeth bwrpasol ar gyfer prentisiaid yng Nghymru.

Mae’r prentis Gwasanaethau Cwsmeriaid, Sean Singh, yn sôn am ei daith i sicrhau swydd amser llawn gyda Sky ac astudio ar gyfer prentisiaeth Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid a sut mae hynny eisoes wedi agor drysau iddo symud ymlaen yn ei yrfa.

“Cyn dechrau ar y brentisiaeth a chael swydd gyda Sky roeddwn i’n gweithio rhan amser a hefyd yn adolygu ar gyfer fy TGAU ac astudio ar gyfer fy arholiadau AS” meddai Sean.

Aeth ymlaen i ddweud “Mae llawer o fanteision i brentisiaeth. Mae cyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â phrofiad, nid dim ond cymwysterau. Mae’r brentisiaeth yn wych oherwydd mae’n rhoi’r ddau beth i chi, gan agor llawer o ddrysau.” Cewch wybod mwy am daith Sean – Opening doors with apprenticeships

Educ8 Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —