
Canfod y ffordd trwy’r Dirwedd Ynni: Taith ym maes Rheoli Carbon
Yn ddiweddar, bu Educ8 Training yn siarad â Michael Vernall, Rheolwr Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn Hydro Aluminium UK. Bu’n rhannu ei brofiad o astudio ar gyfer eu cymhwyster Lefel 3 mewn Rheoli Ynni a Charbon a’r ffordd mae hynny’n ei helpu yn y gwaith.
Mae Educ8 Training yn cynnig amryw o wahanol lwybrau prentisiaethau arloesol a ariannir yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Felly, gall unigolion fel Michael astudio ar gyfer cymhwyster achrededig mewn meysydd newydd fel Rheoli Ynni a Charbon a Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes, sydd â’r nod o gyflwyno sgiliau a gwybodaeth ffres, gan wella nid yn unig eu perfformiad nhw, ond ychwanegu gwerth hefyd at y tîm ehangach a’r busnes.
Tua dechrau 2024, cychwynnodd Michael ar bennod newydd yn ei yrfa trwy ddechrau prentisiaeth mewn Rheoli Ynni a Charbon. Ym maes iechyd, diogelwch a rheoli amgylcheddol mae cefndir Michael ac mae ei swydd yn Hydro Aluminium UK Ltd wedi datblygu dros dair blynedd a hanner i gwmpasu amrywiaeth eang o gyfrifoldebau gan ganolbwyntio ar dargedau sero net y llywodraeth.
Dilyn prentisiaeth
Cafodd Michael ei ysgogi i ddilyn prentisiaeth Rheoli Ynni a Charbon, Lefel 3 gydag Educ8 Training gan fod gofynion ei swydd yn esblygu a’r diwydiant ehangach yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Oherwydd targedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i gyrraedd Sero Net erbyn 2030, roedd yn gweld pwysigrwydd deall y strategaethau cynaliadwyedd a monitro perfformiad ynni.
Yn ogystal â rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol iddo, mae’r brentisiaeth yn rhannu dangosyddion perfformiad allweddol ei gwmni ar gyfer lleihau allyriadau carbon erbyn 2025 a 2030. Daeth budd o’r rhaglen eisoes, oherwydd mae wedi ei alluogi i reoli perfformiad ynni’r safle’n well a chyfrannu at dargedau cynaliadwyedd y cwmni. Erbyn hyn, maent yn ystyried gosod paneli solar ar eu to ac maent wedi sicrhau gostyngiad o 98% mewn gwastraff ar-y-safle.
Rheoli perfformiad amgylcheddol
Meddai Michael: ‘Yn fy ngwaith yn Hydro Aluminium UK rwy’n goruchwylio iechyd, diogelwch a pherfformiad amgylcheddol safle Bedwas. Rwy’n cynghori uwch reolwyr ar faterion deddfwriaethol ac yn trafod ein perfformiad amgylcheddol gyda chyrff allanol fel Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol. Felly mae’n bwysig bod gennyf wybodaeth a dealltwriaeth dda o gyfreithiau ac arferion cyfredol ym maes iechyd a diogelwch yn ogystal â chadwraeth amgylcheddol.’
Cydbwyso Gwaith, Astudio a Bywyd
Rŷn ni’n cwrdd yn rheolaidd dros Microsoft Teams i drafod y tasgau a’r aseiniadau a sut y dylwn fynd atynt. Rŷn ni’n cytuno erbyn pryd mae angen cyflwyno’r gwaith a phryd y byddwn yn cwrdd nesaf. Weithiau rwy’n mynd dramor i weithio a dydw i ddim yn gallu cyflwyno mewn pryd. Bryd hynny, mae Suzanne wedi bod yn hyblyg ac wedi cytuno i ohirio’r sesiynau a’r dyddiadau cau i mi. Mae hyn yn gwneud pethau’n fwy hwylus. Fel llawer, rwy’n gweithio’n llawn amser ac mae gen i fywyd prysur gartref.
Rwy’n gwybod y gallaf i ebostio neu ffonio Suzanne os bydd angen help arnaf. Diolch i’r cymorth hwn rwy wedi gallu aros ar ben fy ngwaith a symud ymlaen trwy’r gwahanol fodiwlau.’
Cynlluniau at y Dyfodol
Bwriad Michael yw ymddeol o fewn y tair blynedd nesaf a threulio mwy o amser gyda’i deulu. Byddai’n hoffi gwneud rhywbeth i gadw’n brysur ar ôl ymddeol hefyd.
Meddai:‘Bu’n nod gen i erioed i astudio ac ennill cymhwyster Meistr. Dydw i ddim wedi gallu gwneud hynny hyd yma oherwydd prysurdeb gwaith a chartref ond rwy’n teimlo y gallaf i weithio tuag ato ar ôl ymddeol.’
Mae Educ8 Training Group yn dal i ddadlau dros brentisiaethau a grymuso busnesau ac unigolion ledled Cymru i fuddsoddi yn eu dyfodol. Gan eu bod yn cynnig amrywiaeth eang o gymwysterau, mae cyfle i bawb ffynnu.
Os hoffech wybod rhagor am brentisiaethau, ewch i: educ8training.co.uk neu ffôn 01443 749000.
More News Articles
« Confensiwn Cyflogaeth a Sgiliau Cymru: Symud ymlaen mewn cyfnod o newid — Dweud Eich Dweud ar y fwydlen newydd o gymwysterau mewn lletygarwch ac arlwyo »