Ein Sgiliau, Ein Dyfodol: Cynllunio ar gyfer Yfory

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cafodd cynllun uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar y sgiliau y mae ar bobl a busnesau eu hangen yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru ei lansio’n swyddogol ddiwedd Hydref yn nigwyddiad blynyddol y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol.

Nod y Cynllun Sgiliau yw sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf y sgiliau angenrheidiol i yrru diwydiannau’r dyfodol. Mae iddo nifer o bartneriaid sy’n cydweithio i gytuno ar set o argymhellion ynghylch y sgiliau sydd ar gael a’r galw amdanynt yn y rhanbarth er mwyn sicrhau twf economaidd cynhwysol. Bu dros 1000 o gyflogwyr yn y rhanbarth yn cydweithio’n agos â thîm y Bartneriaeth i ganfod y gofynion y mae mwyaf o frys i’w hateb ym maes sgiliau, er mwyn creu cynllun sy’n cwrdd ag anghenion y bobl sy’n gweithio, yn byw ac yn dysgu yn y rhanbarth.

Cafodd Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2019 ei lansio’n swyddogol a’i groesawu gan AC Llanelli, Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru.

Meddai Mr Waters: “Rydym yn byw mewn cyfnod heriol ac ansicr a dyna pam y mae cael blaenoriaethau rhanbarthol clir yn hollol hanfodol i’n ffyniant yn y dyfodol. Rydym ni yn y llywodraeth yn awyddus i weld model rhanbarthol o ddatblygiad economaidd a fydd yn annog twf ledled Cymru. Mae gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ran hanfodol i’w chwarae yn hyn a bydd cynlluniau fel yr un a lansiwyd yn helpu i ganfod y meysydd a’r doniau y bydd angen i ni eu datblygu dros y blynyddoedd nesaf er mwyn i’r economi dyfu.”

Daeth dros 200 o bobl i’r lansiad swyddogol, ‘Ein Sgiliau, Ein Dyfodol: Cynllunio ar gyfer Yfory’ a chael y cyfle i wrando ar nifer o siaradwyr ysbrydoledig yn cynnwys Kathryn Austin o orllewin Cymru sy’n un o brif berchnogion Pizza Hut yn y Deyrnas Unedig, a Catrin Jones, cyd-gyfarwyddwr yng nghaffi a becws arobryn Crwst yn Aberteifi.

Roedd cyfle hefyd i gyfarfod â’n Sêr Rhanbarthol, y prentisiaid ifanc a oedd newydd ddod yn ôl o Bencampwriaethau WorldSkills yn Kazan a chlywed am eu llwyddiant:

  • Phoebe McLavy, Trin Gwallt (Coleg Sir Gâr) – Medal Efydd
  • Collette Gorvett, Gwasanaethau Bwytai (Coleg Gŵyr, Abertawe) – Medaliwn Rhagoriaeth
  • Sam Everton, Coginio (Coleg Sir Benfro) – Medaliwn Rhagoriaeth
  • Chris Caine, Gwaith Saer (Coleg Sir Benfro) – Medaliwn Rhagoriaeth

Trefnwyd y diwrnod o gwmpas anghenion cyflogwyr a negeseuon y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau a threfnwyd chwe gweithdy i drafod materion oedd yn codi wrth ffurfio’r Cynllun Sgiliau. Roedd cyfle i fynd i ddau allan o’r chwe gweithdy, oedd yn cynnwys: ‘Dadansoddi Goblygiadau Daearyddol Brexit’, ‘Ffynnu yn y gwaith: Pobl frwd sy’n barod i wynebu heriau’, ‘Sut fydd dyfodol addysg yn edrych?’, ‘Gwneud i’r Rhaglen Brentisiaethau weithio i chi’, ‘Cyfleoedd a heriau wrth ddatblygu sgiliau Dysgwyr Dwyieithog’ a ‘Dyfodol gwaith a datblygu tîm sy’n gwneud yn dda’.

Diolch i bawb a ddaeth i’r diwrnod – Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol, De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019

Regional Learning and Skills Partnership South West & Mid Wales

More News Articles

  —